1Yn ddiweddaf, frodyr, gweddiwch drosom, ar fod i air yr Arglwydd redeg a'i ogoneddu, fel hefyd gyda chwithau,
2ac ar ein gwared ni oddiwrth ddynion anaddas a drygionus; canys nid yw ffydd yn eiddo pawb.
3Eithr ffyddlawn yw yr Arglwydd, yr hwn a'ch sefydla, ac a'ch gwarchod rhag yr un Drwg.
4Ac y mae gennym hyder yn yr Arglwydd am danoch, eich bod yn gwneuthur ac y gwnewch y pethau yr ydym yn eu gorchymyn.
5A'r Arglwydd a gyfarwyddo eich calonnau chwi i gariad Duw, ac i amynedd Crist.
6Ac yr ydym yn gorchymyn i chwi, frodyr, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, dynnu o honoch ymaith oddiwrth bob brawd ar sydd yn rhodio yn afreolus, ac nid yn ol y traddodiad a dderbyniasant gennym;
7canys chwi a wyddoch eich hunain pa fodd y dylech ein hefelychu ni, canys ni fuom afreolus yn eich plith;
8ac ni fwyttasom fara yn rhad oddiar law neb, eithr mewn llafur a lludded, gan weithio nos a dydd, fel na fyddem yn faich ar neb o honoch;
9nid nad oes gennym hawl, ond fel y rhoddem ein hunain yn esiampl i chwi, fel yr efelychech ni.
10Canys hefyd pan oeddym gyda chwi, hyn a orchymynasom i chwi: Os oes neb ni fyn weithio, na fwyttâed chwaith.
11Canys yr ydym yn clywed fod rhai yn rhodio yn eich plith yn afreolus, heb weithio dim, ond yn ymyrwyr;
12ac i'r cyfryw rai yr ydym yn gorchymyn ac yn eu hannog yn yr Arglwydd Iesu Grist, ar iddynt, gan weithio mewn modd tawel, fwytta eu bara eu hunain.
13A chwychwi, frodyr, na ddigalonnwch mewn gwneuthur daioni.
14Ac od oes neb heb ufuddhâu i'n gair trwy y llythyr hwn, nodwch hwnnw allan, fel na chydgymmysgoch âg ef, fel y cywilyddio.
15Ac na chyfrifwch ef fel gelyn, eithr cynghorwch ef fel brawd.
16Ac Arglwydd y tangnefedd ei hun a roddo i chwi dangnefedd yn wastadol ym mhob modd. Yr Arglwydd fo gyda chwi oll.
17Yr annerch â'm llaw i Paul, fy hun, yr hyn sydd arwydd ym mhob epistol. Felly yr wyf yn ysgrifennu.
18Gras ein Harglwydd Iesu Grist fo gyda chwi oll.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.