Titus 1 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Cyfarchiad.

1Paul, gwas Duw, ac Apostol Iesu Grist mewn perthynas i ffydd etholedigion Duw, a llawn‐wybodaeth o'r gwirionedd, yr hon sydd yn ol duwioldeb,

2yng ngobaith bywyd tragywyddol, yr hwn a addawodd y digelwyddog Dduw cyn amseroedd tragywyddol;

3ac yn ei amseroedd priodol a amlygodd ei Air yn y Gennadwri a ymddiriedwyd i mi yn ol gorchymyn Duw ein Hiachawdwr;

4at Titus fy ngwir blentyn yn ol y ffydd gyffredinol: Gras,, a thangnefedd oddiwrth Dduw Dâd a Christ Iesu ein Hiachawdwr.

Yr Arolygwyr.

5Er mwyn hyn y'th adewais yn Creta, fel yr iawn drefnit ym mhellach y pethau oedd yn ddiffygiol, ac y gosodit Henuriaid ym mhob dinas, fel y gorchymynais i ti.

6Os yw neb yn ddiargyhoedd, yn wr un wraig, a chanddo blant yn credu, heb eu cyhuddo o afradlonedd, ac yn afreolus:

7canys rhaid i'r Arolygwr fod yn ddiargyhoedd, fel goruchwyliwr Duw; nid yn hunan‐foddog, nid yn ddrwg ei dymher, nid yn wingar, nid yn darawydd, nid yn budr‐elwa;

8eithr yn llettygar, yn caru y da, yn ddoeth, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn rheoli ei hun,

9gan ddal yn lew wrth y gair ffyddlawn yn ol ein dysgeidiaeth, fel y bo yn alluog i gynghori yn yr athrawiaeth iachus, ac argyhoeddi y rhai sydd yn gwrth‐ddywedyd.

Terfysgwyr yr eglwys.

10Canys y mae llawer yn afreolus, ofer‐siaradus, a thwyllwyr, yn enwedig y rhai o'r Enwaediad,

11y rhai y mae rhaid cau eu safnau, y rhai sydd yn ansefydlu teuluoedd cyfain, gan ddysgu y pethau na ddylid, er mwyn budr‐elw.

12Dywedodd un o honynt hwy eu hunain, prophwyd o'r eiddynt eu hunain,

“Cretiaid ydynt bob amser yn gelwyddog, drwg fwystfilod, gloddestwyr gorddiog.”

13Y dystiolaeth hon sydd wir. Am ba achos argyhoedda hwynt yn llym, fel y byddont iach yn y ffydd,

14heb ddal ar chwedlau Iuddewaidd a gorchymynion dynion, yn troi oddiwrth y gwirionedd.

15Pob peth sydd bur i'r rhai pur, ond i'r rhai halogedig a di‐ffydd nid oes dim yn bur, eithr y mae eu meddwl a'u cydwybod hwy yn halogedig.

16Y maent yn proffesu yr adwaenant Dduw, ond trwy eu gweithredoedd gwadant ef, gan fod yn ffiaidd, ac anufudd, ac yn anaddas i bob gweithred dda.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help