1Ar ol y pethau hyn, efe a ymadawodd o Athen, ac a ddaeth i Corinth;
2ac wedi iddo gael rhyw Iuddew o'r enw Acwila, un o Pontus o genedl, wedi newydd ei wraig, am orchymyn o Claudius i'r holl Iuddewon ymadael o Rufain, efe a ddaeth atynt.
3Ac o herwydd ei fod o'r un gelfyddyd, efe a arosodd gyda â hwynt, ac a weithiasant; canys yr oeddent yn wneuthurwyr pebyll yn y Synagog bob Sabbath, ac a argyhoeddodd Iuddewon a Groegiaid.
5A phan ddaeth Silas a Thimotheus i lawr o Macedonia, yr oedd Paul yn cael ei ddirgymhell gan y Gair, gan dystiolaethu i'r Iuddewon mai Iesu oedd y Crist.
6Ac a hwy yn gosod eu hunain yn ei erbyn ac yn cablu, efe a ysgydwodd allan ei ddillad, ac a ddywedodd wrthynt, Y mae eich gwaed ar eich pen eich hun: glân wyf fi; o hyn allan af at y Cenhedloedd.
7Ac efe a symudodd oddiyno, ac a aeth i dy un o'r enw Titius Justus, un yn addoli Duw, ty yr hwn oedd yn cyffwrdd a'r Synagog.
8A Crispus yr Arch‐synagogydd a gredodd yn yr Arglwydd ynghyd a'i holl deulu; a llawer o'r Corinthiaid, wrth wrando, a gredasant ac a fedyddiwyd.
9A'r Arglwydd a ddywedodd yn y nos trwy weledigaeth wrth Paul, Nac ofna, eithr llefara, ac na thaw: canys yr wyf fi gyda thi,
10ac ni ymesyd neb arnat fel i'th ddrygu: canys pobl lawer sydd genyf yn y Ddinas hon.
11Ac efe a arosodd yno flwyddyn a chwe mis, gan ddysgu yn eu plith Air Duw.
12A phan oedd Gallio yn Rhaglaw Achaia, cyfododd yr Iuddewon yn unfryd yn erbyn Paul, a dygasant ef at y frawd‐le, gan ddywedyd,
13Y mae hwn yn darbwyllo dynion i addoli Duw yn groes i'r Gyfraith.
14A Paul ar fedr agoryd ei enau, dywedodd Gallio wrth yr Iuddewon, Pe buasai yn wir yn fater o gam neu o ddrwg ystryw, O Iuddewon, wrth reswm mi a gyd‐ddygaswn a chwi;
15eithr os cwestiynau ydynt am Ymadrodd ac Enwau a Chyfraith sydd yn perthyn i chwi, edrychwch eich hunain: ni ewyllysiaf fi fod yn farnwr y pethau hyn.
16Ac efe a'u gyrodd hwynt oddiwrth y frawdle.
17A hwynt oll, wedi cymeryd gafael yn Sosthenes, yr Arch‐synagogydd, a'i curasant ef o flaen y frawdle. Ac nid oedd Gallio yn gofalu am ddim o'r pethau hyn.
Dychweliad Paul i Jerusalem, Antioch, ac Asia Leiaf, 18–23.18Eithr Paul, wedi aros yn mlaen ddyddiau lawer, a ganodd yn iach i'r brodyr, ac a fordwyodd ymaith i Syria, a chydag ef Priscilla ac Acwila, wedi iddo yn Cenchrea gneifio ei ben, canys yr oedd arno adduned.
19A hwy a gyrhaeddasant i Ephesus, ac efe a'u gadawodd hwynt yno: eithr efe ei hun a aeth i mewn i'r Synagog, ac a ymresymodd a'r Iuddewon;
20a phan ofynasant iddo aros am fwy o amser, ni chydsyniodd,
21ond gan ganu yn iach iddynt, a dywedyd, Drachefn mi a ddychwelaf atoch, os Duw a'i myn, hwyliodd ymaith o Ephesus.
22A phan laniodd efe yn Cesarea, a myned i fyny a chyfarch yr eglwys, efe a aeth i waered i Antioch.
23Ac wedi iddo dreulio talm o amser, efe a aeth ymaith, gan fyned trwy wlad Galatia a Phrygia mewn trefn, gan gadarnhau yr holl ddysgyblion.
Apollos, 24–28.24A rhyw Iuddew, o'r enw Apollos, Alexandriad o genedl, gwr ymadroddus, a ddaeth i Ephesus, gan fod yn alluog yn yr Ysgrythyrau:
25yr hwn oedd wedi ei egwyddori; a chan fod yn danbaid yn yr yspryd llefarai a dysgai yn gywir y pethau am yr Iesu, gan fod yn gydnabyddus a Bedydd Ioan yn unig.
26Hwn hefyd a ddechreuodd lefaru yn hyf yn y Synagog: a phan glywodd Priscilla ac Acwila ef, hwy a'i cymerasant ef atynt, ac a esboniasant iddo ffordd Duw yn fwy cywir.
27A phan yr oedd efe yn ewyllysio myned trosodd i Achaia, y brodyr a'i cymhellasant yn mlaen, ac a ysgrifenasant at y dysgyblion i'w roesawu ef; ac efe, wedi cyrhaedd, a gynorthwyodd;
28canys yn egniol y profodd yn drwyadl yn erbyn yr Iuddewon yn gyhoeddus, gan ddangos trwy yr Ysgrythyrau mai Iesu yw y Crist.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.