1Pa beth gan hynny a ddywedwn? A barhawn ni mewn pechod fel y byddo i ras amlhau?
2Na atto Duw! Nyni, y rhai a fuom feirw i bechod, pa fodd y gallwn fyw etto ynddo?
3Neu a ydych heb wybod mai cynnifer o honom ag a fedyddiwyd i Grist Iesu ein bedyddio i'w farwolaeth ef?
4Cyd‐gladdwyd ni gan hynny gydag ef trwy fedydd i farwolaeth, fel megys y cyfodwyd Crist o feirw trwy ogoniant y Tâd, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd‐deb bywyd.
5Canys os ydym wedi ein cyfuno âg ef trwy gyffelybiaeth ei farwolaeth ef, hefyd ni a fyddwn trwy gyffelybiaeth ei adgyfodiad ef;
6gan wybod hyn, fod ein hen ddyn ni wedi ei groeshoelio gydag ef, fel y dirymmid corph pechod, fel na wasanaethom bechod mwyach.
7Canys y mae yr hwn a fu farw wedi ei ollwng yn rhydd oddiwrth bechod.
8Ond os buom feirw gyda Christ, yr ydym yn credu hefyd y cawn fyw gydag ef;
9gan wybod nad yw Crist a gyfodwyd oddiwrth y meirw yn marw mwyach: nid yw marwolaeth yn arglwyddiaethu arno mwyach.
10Canys y farwolaeth y bu efe farw, i bechod y bu farw unwaith am byth; ond y bywyd y mae yn ei fyw, byw y mae i Dduw.
11Felly chwithau hefyd, cyfrifwch eich hunain yn feirw i bechod, ond yn fywi Dduw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
12Na theyrnased pechod gan hynny yn eich corph marwol i ufuddhau o honoch i'w chwantau.
13Ac na chynnygiwch eich aelodau yn arfau annghyfiawnder i bechod, eithr cynnygiwch eich hunain i Dduw, megys rhai o feirw yn fyw, a'ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw.
14Canys pechod nid arglwyddiaetha arnoch chwi, oblegyd nid ydych dan ddeddf ond dan ras.
Rhyddhad y Credadyn: Beth nad yw, a Beth yw.15Pa beth, gan hynny? a bechwn ni o herwydd nad ydym dan ddeddf eithr dan ras? Na atto Duw!
16Oni wyddoch chwi mai i'r hwn y cynnygiwch eich hunain yn weision er ufudd‐dod, gweision ydych i'r hwn yr ydych yn ufuddhau iddo; pa un bynnag ai gweision i bechod i farwolaeth, neu gweision ufudd‐dod i gyfiawnder?
17Ond diolch i Dduw, a chwi oeddech weision pechod ond a ufuddhasoch o'r galon i'r ffurf o athrawiaeth a draddodwyd i chwi;
18ac wedi eich rhyddhau oddiwrth bechod, chwi a wnaed yn weision i gyfiawnder.
19Yn ol dull dynol yr wyf yn dywedyd, oblegyd gwendid eich cnawd chwi; canys fel y cynnygiasoch eich aelodau yn weision i aflendid ac i annghyfraith er annghyfraith; yr un modd yn awr cynnygiwch eich aelodau yn weision cyfiawnder er sancteiddiad.
20Canys pan oeddych weision pechod, rhyddion oeddych mewn perthynas i gyfiawnder.
21Pa ffrwyth gan hynny oedd i chwi y pryd hwnnw yn y pethau hynny y mae arnoch yn awr gywilydd o'u plegyd? diwedd y pethau hynny yw marwolaeth.
22Ond yn awr wedi eich rhyddhâu oddiwrth bechod, a'ch gwneuthur yn weision i Dduw, mae i chwi eich ffrwyth er sancteiddiad, a'r diwedd yn fywyd tragywyddol.
23Canys cyflog pechod yw marwolaeth, eithr dawn Duw yw bywyd tragywyddol yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.