Actau 5 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Anwiredd yn yr Eglwys: Trosedd a chosp Ananias a Sapphira, 1–12.

1Eithr rhyw wr a'i enw Ananias, gyda Sapphira ei wraig, a werthodd feddiant,

2ac a ddarn‐guddiodd beth o'r gwerth, a'i wraig hefyd yn y gyfrinach, ac a ddyg ryw gyfran, ac a'i gosododd wrth draed yr Apostolion.

3Eithr Petr a ddywedodd, Ananias, paham y llanwodd Satan dy galon di i dwyllo yr Yspryd Glân, ac i ddarn‐guddio peth o werth y tir?

4Tra yn aros, onid i ti yr oedd yn aros? ac wedi ei werthu, onid oedd dan dy awdurdod di? paham y gosodaist y mater hwn yn dy galon? ni ddywedaist gelwydd wrth ddynion ond wrth Dduw.

5Ac Ananias, wedi clywed y geiriau hyn a syrthiodd i lawr ac a drengodd. A daeth ofn mawr ar bawb a glywsant.

6A'r gwyr ieuengaf a gyfodasant ac a'i hamdoasant ef, ac a'i dygasant allan, ac a'i claddasant ef.

7A bu megys yspaid tair awr, a'i wraig, heb wybod yr hyn oedd wedi dygwydd, a ddaeth i mewn.

8A Phetr a atebodd iddi, Dywed i mi, ai er cymaint y gwerthasoch chwi y tir? A hi a ddywedodd, Ië, er cymaint.

9A Phetr a ddywedodd wrthi, Paham y cytunwyd genych i demtio Yspryd yr Arglwydd? Wele, traed y rhai a gladdasant dy wr di ydynt wrth y drws, a hwy a'th ddygant dithau allan.

10Ac yn y man hi a syrthiodd i lawr wrth ei draed ef, ac a drengodd. Ac wedi dyfod i mewn, y gwyr ieuainc a'i cawsant hi yn farw, ac wedi iddynt ei dwyn hi allan, hwy a'i claddasant yn ymyl ei gwr.

11A daeth ofn mawr ar yr holl Eglwys, ac ar bawb a glybu y pethau hyn.

Gallu gwyrthiol yr Apostolion: Cynydd yr Eglwys, 12–16.

12A thrwy ddwylaw yr Apostolion y gwnaed arwyddion a rhyfeddodau lawer yn mhlith y bobl, ac yr oeddent oll o un fryd yn Nghyntedd Solomon.

13Eithr ni feiddiai neb o'r gweddill lynu wrthynt: ond y bobl oedd yn eu mawrhau,

14ac ychwanegwyd credinwyr yn fwy at yr Arglwydd, lliaws o wyr a gwragedd hefyd;

15hyd oni ddygent y cleifion hyd y nod i'r prif‐heolydd, a'u gosod ar welyau a glythau, fel, pan ddelai Petr heibio, y byddai o leiaf i'w gysgod gysgodi rhyw un o honynt.

16A deuai ynghyd hefyd y lliaws o'r dinasoedd o amgylch Jerusalem, gan ddwyn rhai cleifion, a'r rhai a drallodid gan ysprydion aflan, y rhai a iachawyd oll.

Ail brawf yr Apostolion, 17–32.

17Eithr yr Arch‐offeiriad a gyfododd, a'r holl rai oedd gydag ef (yr hon yw sect y Saduceaid), ac a lanwyd o genfigen,

18ac a osodasant ddwylaw ar yr Apostolion ac a'i rhoisant yn y carchar cyhoeddus.

19Ond angel yr Arglwydd o hyd nos a agorodd ddrysau y carchar, ac a'i dyg hwynt allan, ac a ddywedodd,

20Ewch, a sefwch a lleferwch yn y Deml wrth y bobl holl eiriau y Bywyd hwn.

21A phan glywsant hyn, hwy a aethant gyda'r wawr i'r Deml, ac a ddysgasant. Eithr yr Archoffeiriad wedi cyrhaedd, a'r rhai oedd gydag ef, a alwasant ynghyd y Sanhedrin, a holl Senedd plant Israel, ac a ddanfonasant i'r carchardy, i'w dwyn hwy ger bron.

22Ond pan gyrhaeddodd yr is‐swyddogion, ni chawsant hwynt yn y carchar; eithr wedi dychwelyd hwy a fynegasant, gan ddywedyd,

23Ni a gawsom y carchar wedi ei gau gyda phob dyogelwch, a'r ceidwaid yn sefyll wrth y drysau: eithr pan agorasom, ni chawsom neb i mewn.

24A phan glybu cadben y Deml a'r Arch‐offeiriaid y geiriau hyn yr oeddent mewn dyryswch yn eu cylch, i ba beth y deuai hyn.

25Ac fe ddaeth rhyw un, ac a fynegodd iddynt, Wele, y gwyr a ddodasoch chwi yn y carchar, y maent yn y Deml, yn sefyll ac yn dysgu y bobl.

26Yna y Cadben, gyda'r is‐swyddogion, a aeth ymaith, ac a'u dyg hwy, nid gyda thrais, canys yr oeddent yn ofni y bobl, rhag eu llabyddio.

27Ac wedi eu dwyn, hwy a'u gosodasant o flaen y Sanhedrin. A'r Arch‐offeiriad a ofynodd iddynt, gan ddywedyd,

28Gorchymynasom i chwi yn bendant na ddysgech yn yr enw hwn: ac wele, yr ydych wedi llanw Jerusalem â'ch dysgeidiaeth, ac yr ydych yn amcanu dwyn gwaed y dyn hwn arnom ni.

29Eithr Petr a'r Apostolion gan ateb a ddywedasant, Rhaid ufuddhau i Dduw yn hytrach nag i ddynion.

30Duw ein tadau ni a gyfododd i fyny Iesu, yr hwn a laddasoch â'ch dwylaw eich hunain, gan ei grogi ar bren.

31Hwn a ddyrchafodd Duw â'i ddeheulaw yn Dywysog ac Iachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau.

32Ac yr ydym ni yn dystion o'r pethau hyn, a'r Yspryd Glân, yr hwn a roddes Duw i'r rhai sydd yn ufuddhau iddo.

Cynghor Gamaliel, 33–42.

33Eithr hwy, wedi clywed hyn, a dorwyd i'r byw, ac a ddymunent eu lladd hwynt.

34Eithr safodd i fyny yn y Sanhedrin ryw Pharisead, o'r enw Gamaliel, Dysgawdwr y Gyfraith, parchedig gan yr holl bobl, ac a archodd osod y dynion allan am enyd fechan;

35ac a ddywedodd wrthynt, Chwi wyr o Israel, edrychwch arnoch chwi eich hunain mewn perthynas i'r dynion hyn, pa beth yr ydych ar fedr ei wneuthur.

36Canys o flaen y dyddiau hyn cyfododd Theudas i fyny, gan ddywedyd ei fod ef yn rhyw un, â'r hwn yr ymunodd rhifedi o wyr, tua phedwar cant: yr hwn a laddwyd, a chynifer oll ag a ufuddhasant iddo a wasgarwyd, ac a aethant i'r dim.

37Ar ol hyn y cyfododd Judas y Galilead yn nyddiau y Cofrestriad, ac a drodd bobl ar ei ol: yntau hefyd a ddarfu am dano, a chynifer oll ag a ufuddhasant iddo a chwalwyd.

38Ac yn awr dywedaf wrthych, Sefwch draw oddiwrth y dynion hyn, a gadewch iddynt: canys os yw y cynghor hwn neu y weithred hon o ddynion, dymchwelir hwynt:

39ond os o Dduw y mae, ni fyddwch alluog i'w dymchwelyd; rhag eich cael hefyd yn ymladd yn erbyn Duw.

40A hwy a wrandawsant arno; ac wedi galw yr Apostolion atynt, a'u curo, hwy a orchymynasant iddynt na lefarent yn enw yr Iesu, ac a'u gollyngasant ymaith.

41Hwythau yn wir gan hyny a aethant o wydd y Sanhedrin, gan lawenychu am gael eu cyfrif yn deilwng i ddyoddef anmharch ar ran Enw.

42A phob dydd, yn y Deml a chartref, ni pheidiasant a dysgu a phregethu Iesu fel y Crist.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help