Luc 22 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Cyd‐fradwriaeth y llywodraethwyr â Judas[Mat 26:1–5, 14–16; Marc 14:1, 2, 10, 11]

1A neshâodd Gwyl y Bara Croyw, yr hon a elwir y Pasc.

2Ac yr oedd yr Arch‐offeiriaid a'r Ysgrifenyddion yn ceisio pa fodd i wneyd ffwrdd ag ef: canys yr oeddynt yn ofni y bobl.

3A Satan a aeth i mewn i Judas, yr hwn a elwir Iscariot, er ei fod o nifer y Deuddeg:

4ac efe a aeth ymaith, ac a ymddiddanodd a'r Arch‐offeiriaid a'r Cad‐flaenoriaid am y modd y traddodai efe ef iddynt.

5Ac yr oedd yn llawen ganddynt; a hwy a wnaethant gyfamod i roddi arian iddo.

6Ac efe a gydsyniodd, ac a ddechreuodd geisio cyfleusdra i'w draddodi ef iddynt a'r wahan â'r dyrfa.

Parotoad ar gyfer y Pasc olaf[Mat 26:17–19; Marc 14:12–16]

7A daeth dydd y Bara Croyw, ar yr hwn yr oedd rhaid aberthu y Pasc.

8Ac efe a anfonodd Petr ac Ioan, gan ddywedyd, Ewch, parotowch i ni y Pasc, fel y bwytâom.

9A hwy a ddywedasant wrtho, Pa le yr ewyllysi barotôi o honom?

10Ac efe ddywedodd wrthynt, Wele, wedi eich myned i mewn i'r Ddinas, cyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: canlynwch ef i'r tŷ, i'r hwn yr êl efe i mewn.

11A chwi a ddywedwch wrth feistr y tŷ, Y mae yr Athraw yn dywedyd wrthyt, Pa le y mae y west‐ystafell, efe a eisteddodd i lawr, a'r Apostolion gyd âg ef.

15Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi a awyddais yn ddirfawr fwyta y Pasc hwn gyd â chwi cyn dyoddef o honof:

16canys yr wyf yn dywedyd i chwi, Ni fwytâf fi o hono hyd oni chyflawner ef

yn Nheyrnas Dduw.

17Ac wedi iddo dderbyn cwpan a diolch, efe a ddywedodd, Cymmerwch hwn, a rhenwch yn eich plith:

18canys yr wyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf fi o gwbl o hyn allan o gynyrch y winwydden, hyd oni ddêl Teyrnas Dduw.

19Ac efe a gymmerodd fara, ac a ddiolchodd, ac a'i torodd, ac a'i rhoddodd iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorff drosoch: gwnewch hyn er coffa am danaf fi.

20A'r cwpan yr un modd, wedi swperu, gan ddywedyd, Y Cwpan hwn yw y Cyfamod Newydd yn fy ngwaed, yr hwn sydd yn cael ei dywallt allan drosoch.

21Yn mhellach, wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyd â mi ar y bwrdd.

22Canys y mae Mab y Dyn yn wir yn myned yn ol yr hyn sydd wedi ei arfaethu hyn.

Ymryson ynghylch y flaenoriaeth[Mat 18:1, 19, 28; Marc 9:33, 34; 10:42, 44]

24A bu ymryson yn eu plith, pwy o honynt a gyfrifid i fod y mwyaf.

25Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae Breninoedd y Cenedloedd yn arglwyddiaethu arnynt; y mae y rhai sydd mewn awdurdod arnynt yn cael eu galw, Cymwynaswyr.

26Ond chwychwi, nid felly; eithr y mwyaf yn eich plith, bydded megys yr ieuengaf; a'r hwn sydd yn arweinydd megys yr hwn sydd yn gweini.

27Canys pwy sydd fwyaf, ai yr hwn sydd yn eistedd i fwyta, neu yr hwn sydd yn gweini? Onid yr hwn sydd yn eistedd i fwyta? Eithr yr wyf fi yn eich canol chwi fel yr hwn sydd yn gweini.

29Ac yr wyf yn sicrhâu drwy gyfamod i chwi Deyrnas, fel y sicrhâodd y Tâd drwy gyfamod Deyrnas i mi;

30fel y bwytâoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy Nheyrnas, ac yr eisteddoch ar orsedd‐feydd yn barnu Deuddeg Llwyth Israel.

Rhag‐ddywedyd cwymp Petr[Mat 26:31–35; Marc 14:27–31; Ioan 13:36–38]

31Simon, Simon, Wele, Satan a'ch ceisiodd chwi iddo ei hun i'ch gogrynu fel gwenith:

32ond mi a wneuthum ddeisyfiad drosot ti, na ddiffygiai dy ffydd di; a thydi pan y gwnei droi drachefn, cadarnhâ dy Frodyr.

33Ond efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, yr wyf yn barod i fyned gyd â thi i garchar, ac hefyd i angeu.

34Ac efe a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i ti, Petr, Ni chân y ceiliog heddyw, hyd nes i ti wadu dair gwaith yr adweini fi.

Rhag‐ddywedyd peryglon.

35Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan y'ch anfonais chwi heb gôd, ac ysgrepan, a sandalau, a fu angen dim arnoch? A hwy a ddywedasant, Dim.

36Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eithr yr awrhon yr hwn sydd ganddo gôd, cymmered; yr un modd hefyd, ysgrepan: a'r hwn nid oes ganddo, gwerthed ei wisg uchaf, a phryned gleddyf:

37canys yr wyf yn dywedyd i chwi, fod yn rhaid i'r hyn sydd wedi ei ysgrifenu gael ei gyflawnu ynof fi, —

A chyd â'r troseddwyr y cyfrifwyd ef,:

canys y mae hefyd gyflawniad i'r peth am danaf fi.

38A hwy a ddywedasant, Arglwydd, wele yma ddau gleddyf. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Digon yw.

Ei ing yn Gethsemane[Mat 26:36–46; Marc 14:32–42]

39Ac wedi myned allan, efe a a aeth, yn ol ei arfer, i Fynydd yr Olew‐wydd: a'r Dysgyblion hefyd a'i canlynasant ef.

40Ac wedi dyfod o hono i'r lle, efe a ddywedodd wrthynt, Gweddïwch nad eloch i brofedigaeth.

41Ac efe a yrwyd ymaith oddi wrthynt tu ag ergyd careg, ac a aeth ar ei liniau, ac a ddechreuodd weddio,

42gan ddywedyd, O Dâd, Os yw yn unol a'th gynghor, dwg ymaith y cwpan hwn oddi wrthyf: er hyny, nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler.

43Ac ymddangosodd iddo Angel o'r Nef yn ei nerthu enaid oedd yn gweddïo yn daerach. A'i chwys ef oedd fel dyferynau mawrion o waed yn treiglo i lawr ar y ddaear.

45A phan gyfododd efe o'i weddi, efe a ddaeth at y Dysgyblion, ac a'u cafodd hwynt wedi syrthio i gwsg gan dristwch.

46Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn cysgu? Codwch, a gweddiwch nad eloch i mewn i brofedigaeth.

Judas yn bradychu, a'r fyddin yn dal Crist[Mat 26:47–56; Marc 14:43–52; Ioan 18:1–11]

47Ac efe eto yn llefaru, wele dyrfa, a'r hwn a elwid Judas, un o'r Deuddeg, oedd yn myned o'u blaen hwynt: ac a neshâodd at yr Iesu i'w gusanu ef.

48Eithr yr Iesu a ddywedodd wrtho, Judas, ai â chusan yr wyt ti yn bradychu Mab y Dyn?

49Ond pan welodd y rhai oedd o'i amgylch yr hyn oedd ar gymmeryd lle, hwy a ddywedasant, Arglwydd a darâwn ni â chleddyf?

50A rhyw un o honynt a darawodd was yr Arch‐offeiriad, ac a gymmerodd ymaith ei glust ddeheu ef.

51Eithr yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Goddefwch hyd yn hyn: ac efe gan gyffwrdd â'i glust a'i hiachâodd ef.

52A'r Iesu a ddywedodd wrth y rhai a ddaethant yn ei erbyn ef, yr Arch‐offeiriaid, a Chad‐flaenoriaid y Deml, a'r Henuriaid, Ai at fel ysbeiliwr y daethoch chwi allan, â chleddyfau a bastynau?

53Pan oeddwn yn ddyddiol gyd â chwi yn y Deml nid estynasoch eich dwylaw yn fy erbyn i. Eithr hon yw eich Awr chwi, ac Awdurdod y Tywyllwch.

Cwymp ac Edifeirwch Petr[Mat 26:69–75; Marc 14:66–72; Ioan 18:12–18, 25–27]

54Ac wedi iddynt ei ddal ef, hwy a'i harweiniasant ef, ac a'i dygasant ef i mewn i dŷ yr Arch‐offeiriad. A Phetr oedd yn canlyn o hir‐bell.

55Ac wedi iddynt gyneu tân yn wenfflam yn nghanol y Llys, a chyd‐eistedd, Petr a eisteddodd yn eu canol hwynt.

56Ond pan welodd rhyw forwynig ef yn eistedd yn y llewyrch, a chraffu arno, hi a ddywedodd, Yr oedd hwn hefyd gyd âg ef.

57Eithr efe a wadodd, gan ddywedyd, O Ddynes, nid adwaen i ef.

58Ac yn mhen ychydig, dyn arall a'i gwelodd ef, ac a ddywedodd, A thithau wyt un o honynt. Eithr Petr a ddywedodd, O Ddyn, nid ydwyf.

59Ac ar ol yspaid megys un awr, rhyw ddyn arall a daerodd yw.

60Eithr Petr a ddywedodd, O Ddyn, nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac yn y man, ac efe eto yn llefaru, ceiliog a ganodd.

61A'r Arglwydd a drôdd, ac a edrychodd yn daer ar Petr: a Phetr a adgofiwyd o air yr Arglwydd, fel y dywedodd efe wrtho, Cyn canu o'r ceiliog heddyw, y gwedi fi deirgwaith.

62Ac efe a aeth allan, ac a dorodd allan i wylo yn chwerw.

Gwatwar Crist[Mat 26:67–68; Marc 14:65]

63A'r gwŷr oedd yn ei ddal ef a'i gwatwarasant, gan ei guro ef.

64Ac wedi rhoddi gorchudd ar ei wyneb ef, yr oeddynt yn gofyn iddo, gan ddywedyd, Proffwyda, pwy yw yr hwn a roddodd i ti ddyrnod?.

65A llawer o bethau eraill, gan gablu, hwy a ddywedasant yn ei erbyn ef.

O flaen y Sanhedrin[Mat 26:57–66; Marc 14:53–64]

66A phan aeth hi yn ddydd, Corff Henuriaid y Bobl a ddaeth ynghyd, Arch‐offeiriaid ac hefyd Ysgrifenyddion, ac a'i harweiniasant ef ymaith at eu Huchel Gynghor hwy,

67gan ddywedyd, Os tydi yw y Crist, dywed i ni. Ac efe ddywedodd wrthynt, Os dywedaf i chwi, ni chredwch ddim:

68ac os rhoddaf ofyniad i chwi, ni'm hatebwch.

69Ac o hyn allan y bydd Mab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw Gallu Duw.

70A hwy oll a ddywedasant, Ai Mab Duw gan hyny ydwyt ti? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr ydych chwi yn ei ddywedyd: canys yr wyf yn Fab Duw.

71A hwy a ddywedasant, Pa angen sydd i ni mwyach am dystiolaeth? Canys clywsom ein hunain o'i enau ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help