1Gochelwch rhag gwneuthur eich cyfiawnder gerbron dynion, er mwyn eich gweled ganddynt: os amgen, ni chewch wobr gan eich Tad, yr hwn sydd yn y Nefoedd.
2Am hyny, pan wnelych elusen, na udgana o'th flaen, fel y gwna y rhagrithwyr yn y synagogau, ac yn yr heolydd, fel y canmoler hwy gan ddynion. Yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn yn llawn eu gwobr.
3Eithr pan wnelych di elusen, na wyped dy law aswy y peth a wna dy law ddehau:
4fel y byddo dy elusen yn y dirgel: a'th Dâd, yr hwn a wêl yn y dirgel a dâl i ti.Am weddio.[Luc 11:1–4]
5A phan weddioch, ni fyddwch fel y rhagrithwyr, canys hwy a hoffant sefyll i weddio yn y synagogau ac yn nghonglau y prif heolydd fel yr ymddangosont i ddynion. Yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn yn llawn eu gwobr.
6Ond tydi, pan weddiot, dos i'th ystafell; ac wedi cau dy ddrws, gweddia ar dy Dâd yn y dirgel, a'th Dâd, yr hwn a wêl yn y dirgel, a dâl i ti, fel y cenedloedd: canys y maent yn tybied y cânt eu gwrandaw yn eu haml eiriau.
8Na fyddwch, gan hyny, debyg iddynt hwy; canys gwyr Duw eich Tâd pa bethau sydd arnoch eu heisiau cyn gofyn o honoch iddo.
9Am hyny, gweddiwch chwi fel hyn:—
Ein Tad yr hwn wyt yn y Nefoedd,
Sancteiddier dy enw.
10Deled dy deyrnas.
Gwneler dy ewyllys, megys yn y nef, felly ar y ddaear.
11Dyro i ni heddyw ein bara cyfreidiol.
12A maddeu i ni ein dyledion, fel yr ydym ninau hefyd wedi maddeu i'n dyledwyr.
13Ac na ddwg ni i brofedigaeth.
Eithr gwared ni oddiwrth yr Un Drwg.
14Canys os maddeuwch i ddynion eu camweddau, eich Tad Nefol a faddeu hefyd i chwithau;
15eithr oni faddeuwch i ddynion eu camweddau, ni faddeu eich Tad ychwaith eich camweddau chwithau.
Am ymprydio.16A phan ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrithwyr, yn wynebdrist, canys anffurfiant eu gwynebau, fel yr ymddangosont i ddynion eu bod yn ymprydio. Yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn yn llawn eu gwobr.
17Ond tydi, pan ymprydiot, eneinia dy ben, a golch dy wyneb;
18fel nad ymddangosot i ddynion yn ymprydio, ond i'th Dad, yr hwn sydd yn y dirgel; a'th Dad, yr hwn sydd yn gweled yn y dirgel, a dâl i ti.Am gyfoeth gau a gwirioneddol.
19Na thrysorwch i chwi drysorau ar y ddaear, lle y mae gwyfyn a rhwd yn difa, a lle y mae lladron yn cloddio trwodd ac yn lladrata.
20Eithr trysorwch i chwi drysorau yn y Nef, lle nad oes na gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nis cloddia lladron trwodd, ac nis lladratant.
21Canys lle y mae dy drysor, yno y bydd dy galon hefyd.
Y llygad da a drwg.22Lamp y corff yw y llygad: am hyny o bydd dy lygad yn syml, dy holl gorff fydd yn ddysglaer.
23Eithr, os bydd dy lygad yn ddrwg, dy holl gorff fydd yn dywyll. Am hyny, os bydd y goleuni sydd ynot yn dywyllwch, pa gymmaint y tywyllwch!
Am bryder.[Luc 12:22–32]24Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd: canys naill ai efe a gasha y naill, ac a gâr y llall; ai efe a ymlyn wrth y naill, ac a ddiystyra y llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a Mamon.
25Am hyny, yr wyf yn dywedyd i chwi, na fyddwch bryderus am eich bywyd, pa beth a fwytaoch neu pa beth a yfoch; neu am eich corff, pa beth a wisgoch. Onid yw y bywyd yn fwy na'r bwyd, a'r corff na'r dillad.
26Edrychwch ar ehediaid y nefoedd, nad ydynt yn hau nac yn medi, nac yn cywain i ysguboriau; ac y mae eich Tad Nefol yn eu porthi hwy. Onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy?
27A phwy o honoch trwy fod yn bryderus a ddichon chwanegu un cufydd at hyd ei einioes?
28A phaham y pryderwch yn nghylch dillad?
29Ystyriwch lili y maes, pa fodd y maent yn tyfu: nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu;
30eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o'r rhai hyn. Ac os dillada Duw felly lysieuyn y maes, yr hwn sydd heddyw, ac yfory a fwrir i'r ffwrn, oni ddillada efe chwi yn hytrach o lawer, O chwi o ychydig ffydd?
31Gan hyny, na fyddwch bryderus, gan ddywedyd, Beth a fwytawn? neu, Beth a yfwn? neu, A pha beth yr ymddilladwn?
32Canys yr holl bethau hyn y mae y cenedloedd yn eu ceisio; oblegyd gwyr eich Tad Nefol fod arnoch eisiau yr holl bethau hyn.
33Eithr ceisiwch yn gyntaf ei Deyrnas a'i gyfiawnder ef, a'r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg.
34Gan hyny, na fyddwch bryderus gyda golwg ar dranoeth: canys tranoeth a fydd bryderus am dano ei hun. Digon i bob diwrnod ei ddrwg ei hun.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.