1Ac ar ol pum niwrnod, yr Arch‐offeiriad Ananias a ddaeth i waered, gyda rhai henuriaid ac areithiwr, rhyw Tertullus, y rhai a achwynasant wrth y Rhaglaw yn erbyn Paul.
2A phan alwyd ef, Tertullus a ddechreuodd ei gyhuddo, gan ddywedyd,
3Gan fod i ni lawer o heddwch trwot ti, a bod gwelliantau i'r genedl hon trwy dy rag‐ddarbodaeth di yn mhob modd ac yn mhob man, — yr ydym ni yn eu derbyn, O Ardderchocaf Ffelix, gyda phob diolchgarwch.
4Eithr, fel na rwystrwyf di yn mhellach, yr wyf yn deisyf arnat, o'th hynawsedd eiriau.
5Oblegyd ni a gawsom y gwr hwn yn bla, ac yn codi terfysgau yn mhlith yr holl Iuddewon trwy y byd cyfaneddol, ac yn flaenor sect y Nazareaid:
6-7yr hwn a geisiodd halogi y Deml, yr hwn hefyd a ddaliasom;
8gan yr hwn y byddi alluog, a thydi yn ei holi, i wybod am yr holl bethau hyn, o'r rhai yr ydym ni yn ei gyhuddo ef.
9A'r Iuddewon hefyd a gyd‐ymosodasant, gan daeru fod y pethau hyn felly.
Ymddiffyniad Paul.10A Phaul a atebodd, wedi i'r Rhaglaw amneidio arno i lefaru, Gan i mi wybod dy fod yn farnwr i'r genedl hon er ys llawer o flynyddoedd, yr wyf yn siriol yn gwneyd fy ymddiffyniad,
11a thi yn gallu gwybod nad oes mwy na deuddeg niwrnod er pan aethum i fyny i addoli yn Jerusalem:
12ac ni chawsant fi yn y Deml yn ymddadleu a neb, neu yn gwneyd terfysg mewn tyrfa, nac yn y Synagogau, nac yn y Ddinas.
13Ac ni allant ychwaith brofi i ti y pethau y maent yn awr yn fy nghyhuddo o honynt.
14Ond hyn yr wyf yn ei addef i ti, mai yn ol y Ffordd a alwant hwy yn Sect, felly yr wyf fi yn gwasanaethu Duw ein Tadau, gan gredu yr holl bethau sydd yn ol y Ddeddf a'r pethau sydd yn ysgrifenedig yn y Prophwydi:
15a chenyf obaith tu ag at Dduw, yr hwn obaith y mae y rhai hyn eu hunain yn ei ddisgwyl, fod Adgyfodiad i fod o'r cyfiawnion a'r anghyfiawnion.
16Ac yn hyn hefyd yr wyf fy hun yn gwneyd ymdrech i gael cydwybod ddidramgwydd tu ag at Dduw a dynion yn wastadol.
17Ac ar ol amryw o flynyddoedd mi a gyrhaeddais i gyfranu elusenau i'm cenedl ac offrymau:
18ac yn nghanol y gorchwylion hyn hwy a'm cawsant i, wedi fy nghlanhâu, yn y Deml, nid gyda thwrf nac ychwaith gyda therfysg:
19ond rhai Iuddewon o Asia a'm cawsant
, y rhai a ddylasent fod yn bresenol ger dy fron a gwneyd cyhuddiad, os oedd ganddynt ddim yn fy erbyn.20Neu bydded i'r rhai hyn ei hunain ddywedyd pa gamwedd a gawsant tra y sefais o flaen y Sanhedrin,
21oddieithr yr un llef hon, yr hon a waeddais pan yn sefyll yn eu plith, Am Adgyfodiad y Meirw y'm bernir i heddyw ger eich bron.
Ffelix yn gohirio cyfiawnder i Paul a diwygiad iddo ei hun.22Eithr Ffelix a ohiriodd eu hachos,
gan wybod yn gywirach y pethau ynghylch y Ffordd, gan ddywedyd, Pan ddel Lysias y Milwriad i waered, mi a benderfynaf eich materion.23Ac wedi gorchymyn i'r Canwriad ar iddo gael ei gadw yn rhwym, a chael esmwythyd i weini arno.
24Ac ar ol rhai dyddiau, daeth Ffelix, gyda'i wraig Drusilla, yr hon oedd Iuddewes, ac a ddanfonodd am Paul, a gwrandawodd arno ynghylch y ffydd sydd yn Nghrist Iesu.
25Ac fel yr oedd efe yn ymresymu am gyfiawnder, diweirdeb, a'r Farn ddyfodol, Ffelix, wedi myned yn ddychrynedig, a atebodd, Am y presenol, dos ymaith; a phan y caffwyf amser cyfaddas mi a'th alwaf di ataf:
26ar yr un pryd yr oedd yn gobeithio y rhoddid arian iddo gan Paul; o herwydd paham hefyd efe a anfonodd am dano yn fynychach, ac a ymddyddanodd ag ef.
27Ond wedi cyflawnu yspaid o ddwy flynedd, Ffelix a gafodd olynydd, Porcius Ffestus, ac yn ewyllysio enill ffafr gyda'r Iuddewon, Ffelix a adawodd Paul yn rhwym.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.