Titus 2 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Dyledswyddau yr hen a'r ieuainc, gweision a deiliaid.

1Eithr llefara di y pethau a weddant i'r athrawiaeth iachus:

2bod hynafgwyr yn sobr, yn ddifrifol, yn ddoeth, yn iach yn y ffydd, mewn cariad, mewn ymaros:

3bod hynaf‐wragedd, yr un modd, yn eu hymddygiad fel y gwedda i rai sanctaidd; nid yn enllibaidd, nid wedi ymroi i win lawer, yn dysgu yr hyn sydd dda,

4fel yr hyfforddont y gwragedd ieuaingc i garu eu gwŷr, i garu eu plant,

5i fod yn ddoeth, yn ddiwair, yn gwarchod gartref, yn dda, gan fod yn ddarostyngedig i'w gwŷr eu hunain, fel na chabler gair Duw.

6Y gwŷr ieuengach, yr un modd, cynghora i fod yn ddoeth,

7gan dy ddangos dy hun ym mhob peth yn esiampl i weithredoedd da, yn dy ddysgeidiaeth yn dangos anllygredigaeth, difrifoldeb,

8ymadrodd iachus nas gellir ei gondemnio; fel y byddo i'r hwn sydd yn y gwrthwyneb gywilyddio, heb ganddo ddim iselwael i'w ddywedyd am danom.

9Cynghora weision i fod yn ddarostyngedig i'w meistriaid eu hun; i ryngu bodd iddynt ym mhob peth; nid yn gwrth‐ddywedyd;

10nid yn darn‐guddio, eithr yn dangos pob ffyddlondeb da, fel yr addurnont athrawiaeth Duw ein Hiachawdwr ym mhob peth.

Molawd Gobaith.

11Canys ymddangosodd gras Duw yn dwyn iachawdwriaeth i bob dyn,

12gan ein hyfforddi, fel gan wadu annuwioldeb a chwantau bydol, y bo i ni fyw yn ddoeth, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol,

13yn y byd sydd yn awr, gan ddysgwyl am y gobaith gwynfydedig ac am Ymddangosiad gogoniant ein Duw mawr a'n Hiachawdwr Iesu Grist;

14yr hwn a'i rhoddes ei hun drosom, fel y'n prynnai oddiwrth bob annghyfraith; ac y'n purai iddo ei hun yn bobl yn feddiant iddo ei hun, selog i weithredoedd da.

15Y pethau hyn llefara a chynghora ac argyhoedda gyda phob awdurdod. Na ddiystyred neb di.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help