1Hwn eisoes, anwyliaid, yw yr ail epistol yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, yn y rhai yr ydwyf yn cyffrôi eich meddwl didwyll trwy ddwyn ar gof i chwi,
2sef i gofio y geiriau a rag‐ddywedwyd gan y prophwydi sanctaidd, a gorchymyn yr Arglwydd a'r Iachawdwr trwy eich Apostolion:
3gan wybod hyn yn gyntaf, y daw yn y dyddiau diweddaf watwarwyr gyda gwatwor, yn rhodio yn ol eu chwantau eu hunain,
4ac yn dywedyd, Pa le y mae addewid ei Ddyfodiad? canys er pan hunodd y Tadau, y mae pob peth yn parhâu fel yr oeddynt o ddechreuad creadigaeth.
5Canys y maent yn anwybyddu hyn o'u gwirfodd, bod nefoedd er ys talm, a daear wedi eu ffurfio allan o ddwfr a thrwy ddwfr, trwy Air Duw:
6trwy y rhai y byd a oedd y pryd hwnnw wedi ei orlifo â dwfr, a ddyfethwyd:
7eithr y nefoedd sydd yn awr, a'r ddaear, ydynt trwy yr un Gair wedi eu trysori i fyny i dân, yn cael eu cadw erbyn dydd y Farn a distryw dynion annuwiol.
Hir‐amynedd ac nid difaterwch yr Arglwydd.8Eithr nac anwybyddwch yr un peth hwn, anwyliaid, fod un dydd gyda'r Arglwydd megys mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd megys un dydd;
9Nid oedi ei Addewid y mae yr Arglwydd, fel y mae rhai yn cyfrif oediad, eithr hir‐ymarhöus yw efe tuag atoch chwi, heb ewyllysio bod neb yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch.
10Eithr Dydd yr Arglwydd a ddaw megys lleidr rhuthrol, a'r elfennau gan wres deifiol a ymddatodant, a'r ddaear a'r gweithiau sydd ynddi a losgir i fyny.
Bywyd da yng ngoleu y Dydd.11A chan fod y pethau hyn i gyd fel hyn i gael eu datod, pa ryw fath ddynion ddylech chwi fod ym mhob sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb,
12gan ddisgwyl a phrysuro Dyfodiad Dydd Duw, o herwydd yr hwn y nefoedd gan fod ar dân a ddatodir, a'r elfennau gan wres deifiol a doddant?
13Eithr nefoedd newydd a daear newydd yr ydym ni, yn ol ei Addewid, yn eu disgwyl, yn y rhai y mae cyfiawnder yn cartrefu.
14O herwydd paham, anwyliaid, gan eich bod yn disgwyl y pethau hyn, byddwch eiddgar ar eich cael mewn tangnefedd, yn ddifrycheulyd ac yn ddifeius ganddo ef.
15A chyfrifwch hir‐amynedd ein Harglwydd yn iachawdwriaeth, megys hefyd ag yr ysgrifennodd ein hanwyl frawd Paul atoch chwi, yn ol y doethineb a roddid iddo ef;
16fel hefyd yn ei holl Epistolau, gan lefaru ynddynt am y pethau hyn; yn y rhai y mae pethau anhawdd eu deall, y rhai y mae yr anwybodus a'r anwadal yn eu gŵyr‐droi, fel yr Ysgrythyrau eraill hefyd, i'w dinystr eu hunain.
17Chwychwi gan hynny, anwyliaid, yn gwybod y pethau hyn o'r blaen, gwyliwch rhag wedi eich arwain gan gyfeiliornad y rhai drygionus, gwympo o honoch oddi wrth eich sefydlogrwydd eich hunain;
18ond cynhyddwch yng ngras a gwybodaeth ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist. Iddo ef y byddo y Gogoniant yn awr ac i Ddydd Tragwyddoldeb.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.