Iago 5 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Enillion anghyfiawn yn dwyn melldith.

1Dêwch yn awr, chwi rai goludog, wylwch ac udwch am eich adfydau sydd yn dyfod arnoch.

2Eich golud a bydrodd, a'ch gwisgoedd a fwytâwyd gan bryfed;

3Eich aur a'ch arian a rydodd; a'u rhŵd hwynt fydd yn dystiolaeth yn eich erbyn, ac a fwyty eich cnawd fel tân. Yr ydych wedi pentyrru trysorau yn y dyddiau ydynt ddiweddaf.

4Wele, y mae cyflog y gweithwyr a fedasant eich meusydd, yr hwn a gadwyd yn ol o'ch rhan chwi, yn llefain allan; a gwaedd y rhai a fedasant a ddaeth i mewn i glustiau Arglwydd y Lluoedd.

5Moethus; pesgi eich calonnau a wnaethoch yn Nydd Lladdfa.

6Collfarnasoch, llofruddiasoch y cyfiawn, ac yntau heb sefyll i'ch erbyn.

Agosrwydd Dyfodiad Crist yn ysprydoli dewrder.

7Byddwch ymarhous, gan hynny, frodyr, hyd Ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, yr amaethydd sydd yn disgwyl am werthfawr ffrwyth y ddaear, yn ymarhous am dano nes iddo dderbyn y gwlaw

cynnar a'r diweddar.

8Byddwch chwithau hefyd ymarhous; sefydlwch eich calonnau: canys Dyfodiad yr Arglwydd a nesâodd.

9Na rwgnechwch, frodyr, yn erbyn eich gilydd, fel na'ch barner; wele, y Barnwr yn sefyll o flaen y drysau.

10Cymerwch, frodyr, fel siampl o ddrwg‐driniaeth a hir‐ymaros, y prophwydi y rhai a lefarasant yn enw yr Arglwydd.

11Wele, yr ydym yn cyfrif yn ddedwydd y rhai a oddefasant. Chwi a glywsoch am ddewrder Job, ac a welsoch ddiwedd yr Arglwydd, oblegyd tirion iawn yw yr Arglwydd a thosturiol.

Cymhellion diweddol.

12Eithr o flaen pob peth, fy mrodyr, na thyngwch, nac i'r nef, nac i'r ddaear, nac un llŵ arall; eithr bydded eich Ië chwi yn Ië, a'ch Nage yn Nage, fel na syrthioch dan farnedigaeth.

13A oes neb yn eich plith mewn adfyd? gweddïed. A oes neb yn llawen ei feddwl? caned fawl.

14A oes neb yn eich plith yn glaf? galwed am henuriaid yr eglwys, a gweddïont uwch ei ben, wedi ei eneinio âg olew yn enw yr Arglwydd.

15A gweddi y ffydd a adfer yr hwn sydd glaf, a'r Arglwydd a'i cyfyd ef i fyny; ac os bydd wedi gwneuthur pechodau, fe faddeuir iddo.

16Cyffeswch, gan hynny, eich pechodau i'ch gilydd, a gweddïwch dros eich gilydd, fel y'ch iachâer. Llawer a ddichon gweddi y cyfiawn pan yn gweithredu yn nerthol

.

17Elias oedd ddyn o gyffelyb anian a ninnau, ac efe a weddïodd yn ddifrifol na byddai gwlaw; ac ni bu gwlaw ar y ddaear dair blynedd a chwe' mis.

18Ac efe a weddïodd drachefn, a'r nef a roddes wlaw, a'r ddaear a ddug ei ffrwyth.

19Fy mrodyr, os crwydra neb yn eich plith oddiwrth y gwirionedd, a throi o ryw un ef,

20gwybyddoch y bydd i'r hwn a drodd bechadur o gyfeiliornad ei ffordd achub enaid rhag angau, a gorchuddio lliaws o bechodau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help