Luc 14 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Iachâu y dyfr‐glwyfus: yr hawl i wneuthur daioni ar y Sabbath.

1Bu hefyd pan ddaeth efe i dŷ un o Lywodraethwyr y Phariseaid ar y Sabbath, i fwyta bara, hwy eu hunain hefyd oeddynt yn ei wylio ef yn ddyfal.

2Ac wele, yr oedd ger ei fron ef ryw wr yn glaf o'r dyfr‐glwyf.

3A'r Iesu gan ateb a lefarodd wrth Ddysgawdwyr y Gyfraith a'r Phariseaid, gan ddywedyd, A ydyw gyfreithlawn gwellhâu ar y Sabbath a'i nad yw?

4A hwy a gadwasant yn dawel. Ac efe a afaelodd ynddo, ac a'i hiachâodd ef, ac a'i gollyngodd ymaith.

5Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mab neu ŷch pa un o honoch a syrth i bydew, ac yn ebrwydd nis tyn ef i fyny ar y dydd Sabbath?

6Ac ni allent ateb yn ol i'r pethau hyn.

Crist yn dysgu gostyngeiddrwydd.

7Ac efe a ddywedodd ddammeg wrth y gwahoddedigion, pan y daliodd sylw ar y modd y dewisent allan iddynt eu hunain y prif eistedd‐leoedd, gan ddywedyd wrthynt,

8Pan y'th wahodder gan neb i briodas‐wledd, nac eistedd i lawr yn y prif eistedd‐le, rhag bod un anrhydeddusach na thydi wedi ei wahodd ganddo;

9a dyfod o'r hwn a'th wahoddodd di ac yntau, a dywedyd wrthyt, Dyro le i hwn: ac yna dechreu o honot gyd â chywilydd gymmeryd meddiant o'r lle olaf.

10Ond pan y'th wahodder, dos ac eistedd i lawr yn y lle olaf, fel pan ddelo yr hwn sydd wedi dy wahodd di, y dywed wrthyt, Gyfaill, dos yn uwch i fyny: yna y bydd i ti anrhydedd yn ngŵydd pawb a eisteddant gyd â thi.

11Canys pob un a ddyrchafo ei hun a ostyngir: a'r hwn sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir.

Yr hyn yw gwir letygarwch.

12Ac efe a ddywedodd hefyd wrth yr hwn oedd wedi ei wahodd, Pan wnelyt giniaw neu swper, na alw dy gyfeillion, na'th frodyr, na'th berthynasau, na chymydogion cyfoethog, rhag unrhyw amser iddynt hwythau hefyd dy wahodd dithau eilchwyl, ac y bydd ad‐daliad i ti.

13Eithr pan wnelyt wledd, gwahodd dlodion, anafusion, cloffion, deillion:

14a dedwydd fyddi, am nad oes ganddynt ddim i ad‐dalu i ti: canys fe ad‐delir i ti yn Adgyfodiad y rhai cyfiawn.

Dammeg y Swper Mawr a'r esgusodion[Mat 22:1–10]

15A phan glywodd rhyw un o'r rhai oedd yn cyd‐eistedd wrth fwyd y pethau hyn, efe a ddywedodd wrtho, Gwyn fyd pwy bynag a fwytâo fara yn Nheyrnas Dduw.

16Ac efe a ddywedodd wrtho, Rhyw ddyn oedd yn gwneuthur swper mawr, ac a wahoddodd lawer:

17ac a ddanfonodd ei was ar bryd y swper i ddywedyd wrth y gwahoddedigion, Deuwch, canys y mae pob peth weithian yn barod.

18A hwy oll a ddechreuasant o un fryd

ymesgusodi: y cyntaf a ddywedodd wrtho, Mi a brynais faes, ac y mae angenrhaid arnaf fyned allan i'w weled: yr wyf yn gofyn i ti, cymmer fi yn esgusodol.

19Ac arall a ddywedodd, Mi a brynais bum iau o ychain, ac yr wyf yn myned i'w profi hwynt: yr wyf yn gofyn i ti, cymmer fi yn esgusodol.

20Ac arall a ddywedodd, Mi a briodais wraig, ac o herwydd hyn nis gallaf ddyfod.

21A'r gwas, pan gyrhaeddodd, a fynegodd i'w arglwydd y pethau hyn. Yna Meistr y tŷ a fu ddigllawn, ac a ddywedodd wrth ei was, Dos allan ar frys i'r prif‐ystrydoedd a chul‐heolydd y Ddinas, a dwg i mewn yma y tlodion, a'r anafusion, a'r deillion, a'r cloffion.

22A'r gwas a ddywedodd, Arglwydd, y peth a orchymynaist sydd wedi ei wneuthur, ac eto y mae lle.

23A'r arglwydd a ddywedodd wrth y gwas, Dos allan i'r ffyrdd a'r cloddiau, a chymhell hwynt i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy nhŷ.

24Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, Ni cha neb o'r gwyr hyny sydd wedi eu gwahodd brofi o'm swper i.

Yr hyn sydd gynwysedig mewn canlyn Crist.

25A thorfeydd lawer oeddynt yn myned gyd âg ef: ac efe a drodd, ac a ddywedodd wrthynt,

26Os oes neb yn dyfod ataf fi, ac nid yw yn cashâu ei dâd, a'i fam, a'i wraig, a'i blant, a'i frodyr, a'i chwiorydd, ie, a'i einioes ei hun hefyd hun, ac yn dyfod ar fy ol i, ni all efe fod yn ddysgybl i mi.

Cyfrif y draul.

28Canys pwy o honoch chwi yn ewyllysio adeiladu tŵr, nid eistedd yn gyntaf a chyfrif?

29Rhag byth, wedi iddo osod y sylfaen, ac heb allu dwyn i ben yn hollol, ddechreu o bawb a ddaliant sylw ei watwar ef,

30gan ddywedyd, Y dyn hwn a ddechreuodd adeiladu, ac ni allodd ddwyn i ben yn hollol.

31Neu pa frenin yn myned allan i wrth‐daraw â brenin arall mewn rhyfel, nid eistedd yn gyntaf ac ymgynghori a all efe â deng mil gyfarfod â'r hwn sydd yn dyfod yn ei erbyn ef âg ugain mil?

32Os amgen, tra fyddo efe eto yn mhell, efe a enfyn lys‐genadaeth, ac a ofyna amodau hyny yw yr halen: eithr os collodd hyd y nod yr halen ei flas, â pha beth yr helltir ef?

35Nid yw efe gyfaddas nac i'r tir nac i'r domen: y maent yn ei fwrw ef allan. Y neb sydd ganddo glustiau, gan wrando, gwrandawed.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help