Philippiaid 1 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Cyfarchiad.

1Paul a Thimotheus, gweision Iesu Grist, at yr holl saint yng Nghrist Iesu y rhai sydd yn Philippi, gyda'r arolygwyr a'r diaconiaid:

2Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tâd a'r Arglwydd Iesu Grist.

Diolch a Gweddi.

3Yr wyf yn diolch i'm Duw yn fy holl adgof am danoch

4yn barhaus ym mhob deisyfiad o'r eiddof drosoch chwi oll, gan wneuthur fy neisyfiad gyda llawenydd,

5am eich cydweithrediad mewn perthynas i'r efengyl, o'r dydd cyntaf hyd yn awr,

6gan fod yn hyderus yn yr un peth hyn: y bydd i'r hwn a ddechreuodd ynoch waith da ei orphen hyd ddydd Iesu Grist;

7fel y mae yn iawn i ni synied hyn am danoch oll, gan eich bod gennyf yn fy nghalon— yn fy rhwymau a hefyd yn fy amddiffyn a chadarnhâd yr efengyl— yn gyfrannogion â mi o'r gras hwn.

8Canys fy nhyst yw Duw, y modd yr wyf yn hiraethu am danoch oll yng nghalon Iesu Grist.

9A hyn yr wyf yn ei weddio, ar i'ch cariad ymhelaethu etto fwy‐fwy mewn gwybodaeth a phob dirnadaeth,

10fel y cymmeradwyoch y pethau rhagorol, fel y byddoch yn drylwyr a didramgwydd erbyn Dydd Crist,

11wedi eich llenwi â ffrwyth cyfiawnder, yr hwn sydd trwy Iesu Grist er gogoniant a moliant i Dduw.

Amgylchiadau a phrofiad yr Apostol.

12Ond ewyllysiwn i chwi wybod, frodyr, ddarfod i'm hamgylchiadau droi allan er llwyddiant i'r efengyl,

13fel y darfu i'm rhwymau ddyfod yn amlwg yng Nghrist yn yr holl Bretorium ac i'r lleill oll;

14a'r rhan fwyaf o'r brodyr, gan fod yn hyderus yn yr Arglwydd trwy fy rhwymau, ydynt fwy hyf o lawer i lefaru yn ddiofn Air Duw.

15Rhai yn wir o genfigen a chynnen, a rhai hefyd o ewyllys da, a bregethant Grist;

16rhai, yn wir, o gariad, gan wybod y'm gosodir er ymddiffyn yr efengyl;

17a rhai o bleidgarwch a bregethant Grist, nid o egwyddor bur, gan feddwl cyfodi blinder i'm rhwymau.

18Beth ynte? yn unig bod ym mhob modd, ai mewn rhith neu mewn gwirionedd, Crist yn cael ei gyhoeddi; ac yn hyn yr wyf yn llawenychu, ië, ac y llawenychaf;

19canys gwn y try hyn allan i mi er iachawdwriaeth, trwy eich deisyfiad chwi a chyflenwad Yspryd Iesu Grist,

20yn ol fy awyddfryd a'm gobaith nad mewn dim y'm cywilyddir, eithr ym mhob hyfder ymadrodd, fel bob amser, yn awr hefyd, y mawrygir Crist yn fy nghorph, pa un bynnag ai trwy fywyd a'i trwy farwolaeth.

Cyfyng‐gynghor.

21Canys i mi, byw yw Crist, a marw sydd elw.

22Ond os byw yn y cnawd — os hyn i mi fydd ffrwyth fy ngwaith — pa beth a ddewisaf, nis gwn;

23ond cyfyngir arnaf o'r ddeu‐tu, gan fod gennyf y chwant i ymadael ac i fod gyda Christ, canys llawer iawn gwell ydyw;

24eithr aros yn y cnawd sydd fwy angenrheidiol er eich mwyn chwi.

25A chennyf yr hyder hwn, gwn yr arhosaf ac y parhâf gyda chwi oll, er eich cynnydd a'ch llawenydd yn y ffydd,

26fel y byddo i'ch ymffrost fod yn helaeth yng Nghrist Iesu ynof fi, trwy fy mhresennoldeb trachefn gyda chwi.

Annogaeth i burdeb a dewrder.

27Yn unig ymddygwch yn deilwng o efengyl Crist, fel pa un bynnag ai dyfod a'ch gweled a wnaf, ai yn absennol y clywaf eich helynt, eich bod yn sefyll yn gadarn mewn un yspryd, âg un enaid yn cyd‐ymdrech dros ffydd yr Efengyl,

28ac heb eich brawychu mewn dim gan y gwrthwynebwyr, yr hyn sydd iddynt hwy yn arwydd eglur o golledigaeth, ond o'ch iachawdwriaeth chwi, a hynny oddiwrth Dduw;

29canys i chwi y rhoddwyd dros Grist, nid yn unig gredu ynddo, ond hefyd ddyoddef drosto;

30gan fod i chwi yr un ymdrech ag a welsoch ynof fi, ac yn awr a glywch ei bod ynof fi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help