Actau 21 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

O Miletus i Ptolemais, 1–8.

1A phan ddarfu i ni hwylio ymaith, wedi i ni ein gwahanu oddiwrthynt, ni a ddaethom ag union‐gyrch i Cos, a thranoeth i Rhodes, ac oddiyno i Patara.

2Ac wedi cael llong yn croesi trosodd i Phœnicia, ni a aethom i fyny iddi, ac a hwyliasom.

3Ac wedi cael golwg ar Cyprus, a'i gadael hi ar y llaw aswy, hwyliasom i Syria, ac a diriasom yn Tyrus, canys yno yr oedd y llong yn dadlwytho y llwyth.

4Ac wedi dyfod o hyd i'r dysgyblion, arosasom yno saith niwrnod: a'r cyfryw rai a ddywedasent i Paul, trwy yr Yspryd, beidio myned o hono i'r lan i Jerusalem.

5A phan ddarfu i ni gyflawnu y dyddiau, ni a ymadawsom ac a gychwynasom, a phawb, ynghyd a gwragedd a phlant, yn ein hebrwng, hyd tu allan i'r ddinas; ac wedi myned ar ein gliniau ar y traeth, a gweddio, ni a ganasom yn iach i'n gilydd.

6A ni a aethom i'r llong, a hwythau a ddychwelasant i'w cartref.

7A nyni wedi gorphen ein mordaith, o Tyrus ni a ddaethom i Ptolemais; ac wedi cyfarch y brodyr, arosasom un diwrnod gyda hwynt.

8A thranoeth, wedi ymadael, ni a ddaethom i Cesarea; ac wedi myned i mewn i dy Philip yr Efengylydd, yr hwn oedd o'r Saith, ni a arosasom gydag ef.

Prophwydesau, prophwyd, a gwron.

9Ac i hwn yr oedd pedair merch, gwyryfon, yn prophwydo.

10Ac wrth aros o

honom amryw ddyddiau, daeth i waered o Judea rhyw brophwyd o'r enw Agabus.

11Ac wedi dyfod atom, a chymeryd gwregys Paul, efe a rwymodd draed ei hun a'i ddwylaw, ac a ddywedodd, Hyn a ddywed yr Yspryd Glân, Y gwr biau y gwregys hwn, yr un modd y rhwyma'r Iuddewon ef yn Jerusalem, ac a'i traddodant i ddwylaw y Cenhedloedd.

12A phan glywsom y pethau hyn, nyni a'r brodorion hefyd a atolygasom arno i beidio myned i fyny i Jerusalem.

13Yna yr atebodd Paul, Beth feddyliwch wrth wylo a llethu fy nghalon? Canys parod wyf, nid yn unig i'm rhwymo, ond hefyd i farw yn Jerusalem, er mwyn enw yr Arglwydd Iesu.

14Ac efe heb ei ddarbwyllo, ni a dawsom a sôn gyda dywedyd, Ewyllys yr Arglwydd a wneler.

15Ac ar ol y dyddiau hyn, wedi gwneyd ein parotoadau, aethom i fyny i Jerusalem.

16Aeth hefyd gyda ni rai o'r dysgyblion o Cesarea, gan ein harwain at un Mnason, o Cyprus, dysgybl boreuol, gyda'r hwn y lletyem.

Paul yn Jerusalem: ei Roesaw, ei Ymarweddiad, 12–26.

17Ac wedi ein dyfod i Jerusalem, y brodyr a'n croesawsant yn llawen.

18A'r dydd canlynol yr aeth Paul i mewn gyda ni at Iago; hefyd yr holl Henuriaid oeddent yn bresenol.

19Ac wedi iddo eu cyfarch, efe a adroddodd bob yn un, bob un o'r pethau a wnaeth Duw yn mhlith y Cenhedloedd trwy ei weinidogaeth ef.

20A phan glywsant, hwy a ogoneddasant Dduw; dywedasant hefyd wrtho, Ti a weli, frawd, pa sawl myrddiwn sydd yn mhlith yr Iuddewon o'r rhai sydd wedi credu, a'r oll yn selog dros y Gyfraith o'r dechreu:

21ac hyfforddwyd hwy am danat ti dy fod yn dysgu ymwrthodiad â Moses i'r holl Iuddewon sydd yn mysg y Cenhedloedd, gan ddywedyd wrthynt beidio enwaedu ar y plant na rhodio wrth y defodau.

22Pa beth gan hyny sydd i'w wneyd? yn ddios: clywant dy fod wedi dyfod.

23Gwna gan hyny yr hyn a ddywedwn wrthyt: Y mae genym bedwar gwr a chanddynt adduned arnynt:

24cymer y rhai hyn atat: glanhaer di gyda hwynt; a thâl y draul drostynt, fel yr eilliont eu penau; a phawb a ddeuant i wybod nad oes dim yn y pethau yn y rhai yr hyfforddwyd hwynt am danat, eithr dy fod dy hun yn rhodio gan gadw y Gyfraith.

25Ond am y Cenhedloedd crediniol, nyni a ddanfonasom genadwri, gan farnu iddynt ymgadw rhag yr hyn a aberthwyd i eilunod, a gwaed, a'r hyn a dagwyd, a phuteindra.

26Yna Paul a gymerodd y gwyr ato ei hun, a'r dydd nesaf gan ymlanhâu gyda hwynt, efe a aeth i mewn i'r Deml; gan hysbysu cyflawniad dyddiau y glanhâd, hyd nes yr offrymwyd yr offrwm dros bob un o honynt.

Yr Iuddewon yn ymosod arno.

27A phan yr oedd y saith niwrnod ar gael eu cyflawnu, yr Iuddewon o Asia, pan welsant ef yn y Deml, a derfysgasant yr holl dyrfa, ac a ddodasant ddwylaw arno,

28gan waeddi, O wyr Israel, cynorthwywch: hwn yw y dyn sydd yn dysgu pawb yn mhob man yn erbyn y Bobl a'r Gyfraith a'r Lle hwn; yn mhellach, dygodd y Groegiaid hefyd i'r Deml, ac y mae wedi halogi y Lle Sanctaidd hwn.

29Canys yr oeddent wedi dal sylw ar Trophimus, yr Ephesiad, yn y Ddinas gydag ef, yr hwn a dybient i Paul ei ddwyn i'r Deml.

30A chynhyrfwyd y Ddinas oll, a'r bobl a redasant ynghyd; ac wedi ymaflyd yn Paul, hwy a'i llusgasant ef tu allan i'r Deml: ac yn y man y cauwyd y drysau.

Y Milwriad Rhufeinig yn ymyraeth.

31Ac a hwy yn ceisio ei ladd ef, aeth hysbysiad i fyny at Filwriad y gatrawd fod Jerusalem oll mewn terfysg:

32yr hwn allan o law a gymerodd filwyr a Chanwriaid, ac a redodd i waered arnynt: hwythau, pan welsant y Milwriad a'r milwyr, a beidiasant a churo Paul.

33Yna yr agoshaodd y Milwriad, ac a'i daliodd ef, ac a orchymynodd ei rwymo â dwy gadwyn, ac a ymofynodd pwy allai fod, a pha beth oedd wedi ei wneyd.

34A rhai a lefent un peth, ac eraill beth arall, yn y dyrfa; a chan na allai wybod yn sicr o herwydd y cythrwfl, gorchymynodd ei ddwyn i'r gwersyll‐dy.

35A phan ddaeth efe ar y grisiau, dygwyddodd y fath, fel y darfu iddo gael ei gario gan y milwyr o achos trais y dyrfa;

36canys yr oedd lluaws y bobl yn canlyn, gan waeddi, Ymaith ag ef!

37Ac fel yr oedd efe ar gael ei arwain i'r gwersyll‐dŷ, Paul a ddywed wrth y Milwriad, Ai rhydd i mi ddywedyd peth wrthyt? Ac efe a ddywedodd, A fedri di Roeg?

38Nid tydi, ynte, yw yr Aiphtiwr, yr hwn o flaen y dyddiau hyn a gododd wrthryfel ac a arweiniodd i'r anialwch y pedair mil o'r Brad‐lofruddiaid?

39Ond dywedodd Paul, Myfi yn wir wyf ddyn o Iuddew, o Tarsus, dinesydd o ddinas nid anenwog yn Cilicia; ond deisyfaf arnat ti, caniata i mi lefaru wrth y bobl.

40Ac wedi iddo ganiatâu, Paul, gan sefyll ar y grisiau, a amneidiodd â'i law ar y bobl; ac wedi cael dystawrwydd dwfn, efe a lefarodd yn y briod‐iaith Hebraeg, gan ddywedyd,

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help