2 Thessaloniaid 2 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Ymddadblygiad a Dadguddiad yr Anwir.

1Ond yr ydym yn gofyn i chwi, frodyr, gyda golwg ar Ddyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, a'n cyd‐gynnulliad ninnau atto ef,

2na'ch sigler ar frys oddiwrth eich meddwl, na'ch cythrybler na chan yspryd, na chan air, na chan lythyr megys oddiwrthym ni, fel pe bae Dydd yr Arglwydd yn ymyl.

3Na thwylled neb chwi mewn un modd: oblegyd ni ddaw heb ddyfod o'r Gwrthgiliad yn gyntaf, a dadguddio o'r Dyn Annghyfraith, Mab y Golledigaeth,

4yr hwn sydd yn gwrthwynebu ac yn tra‐ymddyrchafu yn erbyn pob un a elwir yn Dduw, neu sydd yn wrthrych addoliad, fel y cymmer ei sedd yng Nghyssegr Duw, gan ddangos ei hun ei fod yn Dduw.

5Onid côf gennych, tra yr oeddwn etto gyda chwi, i mi ddywedyd y pethau hyn wrthych?

6Ac yn awr chwi a wyddoch yr hyn sydd yn attal, fel y dadguddier ef yn ei bryd ei hun.

7Canys y mae dirgelwch Annghyfraith yn gweithio eisoes: etto yn unig hyd y symmuder ymaith yr hwn sydd yn attal,

8ac yna y dadguddir y Dyn Annghyfraith yr hwn y bydd i'r Arglwydd Iesu ei gymmeryd ymaith âg anadl ei enau, a'i ddiddymmu âg Ymddangosiad ei Ddyfodiad,

9sef yr hwn y mae ei ddyfodiad yn ol gweithrediad Satan, gyda phob gallu ac arwyddion a rhyfeddodau celwydd,

10ac ym mhob twyll annghyfiawnder, i'r rhai sydd ar ffordd colledigaeth, gan na dderbyniasant gariad y gwirionedd fel y byddent gadwedig.

11O herwydd hyn y mae Duw yn danfon iddynt weithrediad cyfeiliorni, fel y credont y celwydd;

12fel y barner pawb na chredasant y gwirionedd, eithr a gawsant foddhâd mewn annghyfiawnder.

Geiriau cysur a gweddi.

13Eithr nyni a ddylem ddiolch yn wastadol i Dduw drosoch chwi, frodyr anwyl gan yr Arglwydd, o herwydd eich dewis gan Dduw o'r dechreuad i iachawdwriaeth, yn sancteiddiad yr yspryd, a chrediniaeth yn y gwirionedd;

14i'r hyn y galwodd efe chwi trwy ein Hefengyl ni, i feddiannu gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist.

15Gan hynny, yn wir, frodyr, sefwch a deliwch yn dŷn y traddodiadau a ddysgasoch, pa un bynnag ai trwy ymadrodd ai trwy ein hepistol ni.

16A'n Harglwydd Iesu Grist ei hun, a Duw ein Tâd, yr hwn a'n carodd, ac a roddodd i ni ddyddanwch tragywyddol a gobaith da trwy ras,

17a ddyddano eich calonnau chwi, ac a'ch sicrhao ym mhob gweithred a gair da.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help