Hebreaid 3 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Crist yn Rhagori ar Moses.

1Oherwydd paham, frodyr sanctaidd, cyfranogion o alwedigaeth nefol, ystyriwch Apostol ac Arch‐offeiriad ein Cyffes, Iesu,

2ei fod yn ffyddlawn i'r hwn a'i penododd ef, fel y bu Moses yn ei holl dŷ.

3Canys hwn a gyfrifwyd yn haeddu mwy gogoniant na Moses, o gymaint ag y mae yr hwn a adeiladodd y tŷ yn cael mwy o barch na'r tŷ.

4Canys pob tŷ a adeiledir gan ryw un, ond yr hwn a adeiladodd bob peth yw Duw.

5A bu Moses yn wir yn ffyddlawn yn ei holl dŷ megys gwas, er tystiolaeth i'r pethau oedd i gael eu llefaru;

6eithr Crist fel Mab ar ei dŷ, tŷ yr hwn ydym ni, os daliwn afael yn yr hyfdra ac ymffrost ein gobaith hyd y diwedd.

Rhybuddion yn erbyn calongaledwch.

7Am hynny, megys y mae yr Yspryd Glân yn dywedyd,

Heddyw os clywoch ei lais ef,

8Na chaledwch eich calonnau, fel yn y Llidiad,

Yn Nydd y Brofedigaeth yn yr Anialwch,

9Lle y temtiodd eich Tadau fi yn y Prawf,

Ac y gwelsant fy ngweithredoedd ddeugain mlynedd.

10Am hynny y digiais wrth y genhedlaeth honno, a dywedais,

Yn barhaus y maent yn cyfeiliorni yn eu calon.

Ac nid adnabuant fy ffyrdd;

11Fel y tyngais yn fy llid.

Ni ddeuant.

12Edrychwch, frodyr, na byddo un amser yn neb o honoch galon ddrwg anghrediniaeth, yn eich syrthio ymaith oddiwrth y Duw byw;

13eithr anogwch eich gilydd bob dydd tra y gelwir hi Heddyw, fel na chaleder neb o honoch trwy dwyll pechod.

14Canys yr ydym wedi ein gwneud yn gyfranogion gyda Christ, os daliwn ddechreuad ein hyder yn ddiysgog hyd y diwedd;

15gan y dywedir,

Heddyw, os clywoch ei lais ef,

Na chaledwch eich calonnau fel yn y Llidiad.

16Canys pwy, wedi clywed, a gyffroisant ei lid? onid yr oll a ddaethant allan o'r Aipht trwy Moses?

17Ac wrth bwy y digiodd efe ddeugain mlynedd? Onid wrth y rhai a bechasant, y rhai y syrthiodd eu cyrph yn yr Anialwch?

18Ac wrth bwy y tyngodd efe na chaent ddyfod i mewn i'w Orphwysfa, onid wrth y rhai a anufuddhasant?

19A chanfyddwn nad allent fyned i mewn oherwydd An ghrediniaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help