Actau 7 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Amddiffyniad Stephan, 1–53.

1A dywedodd yr Arch‐offeiriad, A ydyw y pethau hyn felly?

2Ac efe a ddywedodd, O Wyr Frodyr a Thadau, gwrandewch. Duw y Gogoniant a ymddangosodd i'n Tad Abraham pan yn Mesopotamia, cyn iddo drigo yn Haran,

3ac a ddywedodd wrtho, Dos allan o'th wlad, ac oddiwrth dy dylwyth, a dos ymaith i wlad a ddangoswyf i ti.

4Yna y daeth efe allan o wlad y Caldeaid, ac a breswyliodd yn Haran: ac oddi yno, wedi marw ei dad, perodd Duw iddo ymfudo i'r wlad hon, yn yr hon yr ydych chwi yn awr yn trigo:

5ac ni roes iddo etifeddiaeth ynddi, naddo, led troed: ac efe a addawodd ei rhoddi iddo i'w meddianu, ac i'w Hâd ar ei ol, pan nad oedd plentyn iddo.

6A llefarodd Duw fel hyn: Y byddai ei Had ef yn ymdeithydd mewn gwlad ddyeithr, a hwy a'i caethiwant ef, ac a'i drygant bedwar can mlynedd.

7A'r genedl i'r hon y byddant gaeth‐weision, a farnaf Fi, medd Duw: ac wedi y pethau hyn y deuant allan, ac a'm gwasanaethant I yn y lle hwn.

8Ac efe a roddodd iddo Gyfamod yr Enwaediad: ac felly efe a genedlodd Isaac, ac a enwaedodd arno yr wythfed dydd; ac Isaac, Jacob; a Jacob y Deuddeg Patriarch.

9A'r Patriarchiaid gan genfigenu wrth Joseph, a'i gwerthasant i'r Aipht: a Duw oedd gydag ef,

10ac a'i dygodd allan o'i holl orthrymderau, ac a roddodd iddo ffafr a doethineb yn ngolwg Pharaoh, brenhin yr Aipht: ac efe a'i gosododd ef yn llywodraethwr ar yr Aipht, ac ar ei holl dy.

11A daeth newyn dros yr holl Aipht a Chanaan, a gorthrymder mawr: a'n Tadau ni chawsant luniaeth.

12Ond pan glybu Jacob fod yd i'w gael yno, efe a anfonodd allan ein Tadau i'r Aipht y waith gyntaf.

13A'r ail waith

y gwnaed Joseph yn adnabyddus i'w frodyr: a theulu Joseph a wnaed yn hyspys i Pharaoh.

14A Joseph a anfonodd, ac a gyrchodd Jacob ei dad, a'i holl dylwyth, yn bymtheg enaid a thri ugain.

15A Jacob a aeth i waered i'r Aipht, ac a fu farw, efe, a'n Tadau,

16a hwy a ddygwyd trosodd i Sichem, ac a ddodwyd yn y bedd a brynasai Abraham er gwerth arian oddiwrth feibion Hamor yn Sichem.

17Ond fel yr oedd amser yr addewid yn agoshau, yr hon a addawodd Duw i Abraham, y bobl a gynyddodd ac a amlhaodd yn yr Aipht,

18hyd nes y cyfododd brenhin gwahanol ar yr Aipht, yr hwn nid adnabu Joseph.

19Yr hwn, gan ymddwyn yn ddichellgar at ein cenedl ni, a ddrwg‐driniodd ein Tadau, fel i achosi i'w babanod gael eu bwrw allan fel na chedwid hwy yn fyw.

20Yn y tymhor hwn y ganwyd Moses, ac efe oedd dlws ddigymhar; ac efe a fagwyd dri mis yn nhy ei dad.

21Ac wedi ei fwrw ef allan, merch Pharaoh a'i cymerodd ef i fyny, ac a'i magodd ef yn fab iddi ei hun.

22A Moses a addysgwyd yn holl ddoethineb yr Aiphtiaid; ac yr oedd efe yn alluog yn ei eiriau a'i weithredoedd.

23A phan yr oedd efe ar gyrhaedd ei ddeugeinfed flwyddyn, daeth i'w galon ef i ymweled a'i frodyr ef, meibion Israel.

24Ac yn gweled un yn cael cam, efe a amddiffynodd ac a ddialodd gam yr hwn a orthrymid, gan daro yr Aiphtiwr.

25Ac yr oedd efe yn tybied fod ei frodyr yn deall fod Duw trwy ei law ef yn rhoddi iddynt ymwared; ond hwy ni ddeallasant.

26A'r dydd canlynol yr ymddangosodd efe iddynt a hwy yn ymrafaelio, ac a ymdrechodd eu cymodi mewn heddwch, gan ddywedyd, O wyr, brodyr ydych: paham y gwnewch gam â'ch gilydd?

27Ond yr hwn oedd yn gwneuthur cam a'i gymydog a'i gwthiodd ef ymaith, gan ddywedyd, Pwy a'th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr arnom ni?

28A fyni di fy lladd i, y modd y lleddaist yr Aiphtiwr ddoe?

29A Moses a ffôdd ar y gair hwn, ac a fu ymdeithydd yn ngwlad Midian, lle y cenedlodd ddau o feibion.

30Ac wedi cyflawni deugain mlynedd, Angel a ymddangosodd iddo yn Anialwch Mynydd Sinai mewn fflam dân mewn perth.

31A Moses, pan welodd, a ryfeddodd at y weledigaeth: ac efe yn neshâu i sylwi yn fanwl, daeth llais yr Arglwydd,

32Myfi yw Duw dy Dadau, Duw Abraham ac Isaac a Jacob. A Moses wedi myned yn ddychrynedig, ni feiddiodd sylwi yn fanwl.

33A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Datod sandalau dy draed: canys y lle yr wyt yn sefyll arno sydd dir sanctaidd.

34Gan weled y gwelais ddrwg‐driniaeth fy mhobl sydd yn yr Aipht, a mi a glywais eu griddfan, ac a ddisgynais i'w gwaredu. Ac yn awr tyred, mi a'th anfonaf di i'r Aipht.

35Y Moses hwn yr hwn a wadasant, gan ddywedyd, Pwy a'th osododd di yn Llywodraethwr a Barnwr? hwn y mae Duw wedi ei anfon yn Llywodraethwr ac yn Waredwr gyda llaw yr Angel a ymddangosodd iddo yn y Berth.

36Hwn a'u harweiniodd hwynt allan, gan wneuthur rhyfeddodau ac arwyddion yn yr Aipht, ac yn y Môr Coch, ac yn yr Anialwch ddeugain mlynedd.

37Hwn yw y Moses a ddywedodd wrth feibion Israel, Prophwyd a gyfyd Duw i chwi o'ch brodyr, fel myfi.

38Hwn yw efe a fu yn yr Eglwys yn yr Anialwch gyda yr Angel a ymddiddanodd ag ef yn Mynydd Sinai a chyda ein Tadau; yr hwn a dderbyniodd oraclau bywiol i'w rhoddi i ni:

39i'r hwn nid ewyllysiai ein Tadau fod yn ufudd, eithr gwthiasant ef ymaith, a throisant yn ol yn eu calonau i'r Aipht,

40gan ddywedyd wrth Aaron, Gwna i ni dduwiau y rhai a ant o'n blaen: canys y Moses hwn, yr hwn a'n harweiniodd ni allan o wlad yr Aipht, ni wyddom ni beth a ddygwyddodd iddo.

41A hwy a wnaethant lo yn y dyddiau hyny, ac a ddygasant aberth i'r eilun, a llawenychasant yn ngweithredoedd eu dwylaw.

42A Duw a drôdd, ac a'u rhoddodd hwy i fyny i wasanaethu llu y nef, megys y mae yn ysgrifenedig yn Llyfr y Prophwydi, A offrymasoch i mi anifeiliaid lladdedig ac aberthau Ddeugain mlynedd yn yr Anialwch, O Dy Israel?

43A chymerasoch i fyny Dabernacl Moloch,

A Seren y duw Rephan,

Y lluniau a wnaethoch, i'w haddoli hwynt:

A mi a'ch caeth‐gludaf chwi tu hwnt i Babylon.

44Tabernacl y Dystiolaeth oedd gan ein Tadau yn yr Anialwch, fel y trefnodd yr hwn a ddywedai wrth Moses i'w wneuthur yn ol y portreiad a welsai.

45Yr hwn hefyd a ddarfu i'n Tadau ni, wedi ei dderbyn yn olynol, ddwyn i mewn gyda Josua, pan yn cymeryd meddiant o diriogaeth y Cenhedloedd, y rhai a yrodd Duw allan o flaen gwyneb ein Tadau, hyd ddyddiau Dafydd;

46yr hwn a gafodd ffafr gerbron Duw, ac a ofynodd am gael trigfa i Dduw Jacob.

47Ond Solomon a adeiladodd iddo Dy.

48Ond nid yw y Goruchaf yn preswylio mewn tai

o waith dwylaw: fel y mae y Prophwyd yn dywedyd,

49Y Nef yw fy Ngorsedd,

A'r Ddaear yw Troedfainc fy nhraed:

Pa fath dy a adeiledwch i mi? medd yr Arglwydd:

Neu pa beth yw lle fy Nghorphwysfa i?

50Onid fy llaw i a wnaeth y pethau hyn oll?

51O rai gwar‐galed a dienwaededig o galonau a chlustiau, yr ydych chwi yn wastad yn gwrthwynebu yr Yspryd Glân: megys eich Tadau, felly chwithau.

52Pa un o'r Prophwydi ni ddarfu i'ch Tadau chwi ei erlid? A lladdasant y rhai a ragfynegasant Ddyfodiad yr Un Cyfiawn, i'r hwn y buoch chwi yn fradwyr a llofruddion;

53y rhai a dderbyniasoch y Gyfraith fel trefniadau angylion, ac nis cadwasoch.

Merthyrdod Stephan, 54–60.

54Ac wrth glywed y pethau hyn, hwy a dorwyd i'r byw yn eu calonau, ac a ysgyrnygasant ddanedd arno.

55Ac o hyd yn gyflawn o'r Yspryd Glân, ac yn edrych yn graff i'r Nef, efe a welodd Ogoniant Duw, a'r Iesu yn sefyll ar Ddeheulaw Duw,

56ac a ddywedodd, Wele, yr wyf yn gweled y Nefoedd wedi eu llawn‐agoryd, a Mab y Dyn yn sefyll ar Ddeheulaw Duw.

57Ond hwy a waeddasant â llef uchel, ac a gauasant eu clustiau, ac a ruthrasant yn unfryd arno,

58ac a'i bwriasant ef allan o'r Ddinas, ac a'i llabyddiasant: a'r tystion a ddodasant eu llaes‐wisgoedd uchaf wrth draed dyn ieuanc a elwid Saul.

59A hwy a labyddiasant Stephan, ac efe yn galw ac yn dywedyd, Arglwydd Iesu, derbyn fy Yspryd.

60Ac efe a ostyngodd ar ei liniau, ac a lefodd â llef uchel, Arglwydd, na ddod y pechod hwn yn eu herbyn. Ac wedi dywedyd hyn, efe a hunodd7:60 A hunoad. Y fath wahaniaeth rhwng y bobl gynddeiriog a'r gawod gerig a phlentyn Duw yn myned i gysgu. Dyma air y mae crefydd wedi ei gysegru. Nid marwolaeth, ond cwsg esmwyth yw diwedd y credadyn ar y ddaear. Cemetery [lle i huno] yw claddle plant Duw. Dystawer a thyner y gylchlen am orweddfa Stephan pan yn myned i huno yn mreichiau ei Geidwad a choron merthyrdod ar ei ben, gan wireddu geiriau Iesu, ‘Lle yr wyf fi yno y bydd fy Niacon hefyd.’ Ioan 12:26..

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help