1Canys ni a wyddom, os y daearol dŷ o'r babell hon a ddattodir, fod i ni adeilad oddiwrth Dduw, tŷ nid o waith llaw, tragywyddol, yn y nefoedd;
2canys yn hon yr ydym yn ocheneidio, gan hiraethu am ymwisgo â'n tŷ sydd o'r nef;
3os hefyd wedi ymwisgo, nid yn noethion y'n ceir.
4Canys nyni yn wir y rhai ydym yn y babell hon, ydym yn ocheneidio o dan y baich, nid am ein bod yn chwennych ymddiosg, eithr ymwisgo, fel y llyngcer y marwol gan fywyd.
5A'r hwn a'n gweithiodd ni i hyn yma yw Duw, yr hwn a roddodd i ni ernes yr Yspryd gan hynny bob amser, ac yn gwybod tra yr ydym gartref yn y corph ein bod oddi cartref oddiwrth yr Arglwydd
7(canys trwy ffydd y rhodiwn, ac nid wrth ymddangosiad);
8ond hyderus ydym, a rhyngir bodd i ni yn hytrach, fod oddi cartref o'r corph a chartrefu gyda'r Arglwydd.
9O herwydd paham, yr ydym hefyd yn ymorchestu, pa un bynnag ai gartref neu oddi cartref, i ryngu ei fodd ef;
10canys rhaid i ni oll gael ein gwneuthur yn amlwg pob un yn ol y pethau a wnaed yn y corph, pa un bynnag ai da ai drwg.
Gweinidogaeth y Cymmod.11A ni gan hynny yn gwybod ofn yr Arglwydd, yr ydym yn darbwyllo dynion; eithr i Dduw yr ydym wedi ein gwneyd yn amlwg; ac yr ydwyf yn gobeithio ddarfod ein gwneyd yn amlwg yn eich cydwybodau chwithau.
12Nid cymmeradwyo ein hunain drachefn i chwi yr ydym, eithr rhoddi achlysur ymffrost i chwi o'n plegyd, fel y byddo gennych beth i gwrdd â'r rhai a ymffrostiant yn y golwg, ac nid yn y galon;
13canys pa un bynnag ai allan o'n pwyll yr oeddem, i Dduw ydoedd; ai yn ein hiawn bwyll yr ydym, i chwi y mae.
14Canys cariad Crist sydd yn ein cymhell: Bu un farw dros bawb; o ganlyniad, bu pawb feirw; ac os hyd y nod yr ydym wedi adwaen Crist yn ol y cnawd, etto yn awr nid ydym yn ei adnabod ef felly mwyach.
17Felly od oes neb yng Nghrist, y mae efe yn greadur newydd; yr hen bethau a aethant heibio; wele, daethant yn newydd!
18A phob peth sydd o Dduw, yr hwn a'n cymododd ni âg ef ei hun trwy Grist, ac a roddodd i ni weinidogaeth y cymmod i ni air y Cymmod.
20Dros Grist gan hynny yr ydym genhadau, megys pe bae Duw yn deisyf trwom; yr ydym yn erfyn dros Grist, Cymmoder chwi â Duw.
21Yr hwn nid adnabu bechod a wnaeth efe yn bechod trosom ni, fel y delem ninnau yn gyfiawnder Duw ynddo ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.