1A phan oedd y Sabbath drosodd, Mair Magdalen, a Mair mam Iago, a Salome, a brynasant beraroglau, fel, pan y deuent, yr eneinient ef.
2Ac yn fore iawn ar y Dydd Cyntaf o'r wythnos, y maent yn dyfod at y bedd, a'r haul wedi codi.
3A hwy a ddywedasant wrthynt eu hunain, Pwy a dreigla ymaith i ni y maen oddiwrth ddrws y bedd?
4Ac wedi edrych i fyny, y maent yn dal sylw fod y maen wedi ei dreiglo yn ol; canys yr oedd efe yn fawr iawn.
5Ac wedi iddynt fyned i mewn i'r bedd, hwy a welsant ddyn ieuanc yn eistedd o'r tu deheu, ac yr oedd am dano wisg wen: a hwy a gawsant ddychryn.
6Ac efe a ddywed wrthynt, Na ddychrynwch. Yr ydych yn ceisio Iesu o Nazareth, yr hwn a groeshoelwyd: efe a gyfododd: nid yw efe yma: wele y man y dodasant ef.
7Eithr ewch ymaith: dywedwch i'w Ddysgyblion ef ac i Petr, ei fod ef yn myned o'ch blaen chwi i Galilea: yno chwi a'i gwelwch ef, fel y dywedodd i chwi.
8A hwy, wedi myned allan, a ffoisant oddiwrth y bedd; canys cryndod a syndod a'u goddiweddodd: ac ni ddywedasant ddim wrth neb; canys yr oeddynt yn ofni.
Anghrediniaeth y Dysgyblion[Mat 28:9, 10; Luc 24:13–48; Ioan 20:11–23]9[Ac wedi ei adgyfodi yn fore y Dydd Cyntaf o'r wythnos, efe a ymddangosodd yn gyntaf i Mair Magdalen, o'r hon yr oedd efe wedi bwrw allan saith o gythreuliaid.
10Hithau a aeth, ac a fynegodd i'r rhai a fuasent gyd âg ef, yn awr yn galaru ac yn wylo:
11a hwynt‐hwy, pan glywsant ei fod ef yn fyw, a'i weled o hono ganddi, a anghredasant.
12Ond ar ol y pethau hyn, efe a amlygwyd mewn ffurf wahanol i ddau o honynt, fel yr ymdeithient ac yr aethent i'r wlad.
13A hwythau a aethant ymaith, ac a fynegasant i'r gweddill: ac ni chredasant iddynt hwythau.
14Yn ddiweddarach, efe a amlygwyd i'r Un‐ar‐Ddeg eu hunain, fel yr eisteddent i fwyta, ac efe a warthruddodd eu hanghrediniaeth a'u calon‐galedwch, am na chredasant y rhai a'i gwelsant ef wedi iddo gael ei gyfodi.
Y Commissiwn mawr[Mat 28:16–20]15A dywedodd efe wrthynt,
Ewch i'r holl fyd,
A phregethwch yr Efengyl i'r holl greadigaeth:
16A phwy bynag a gredo, ac a fedyddier, a fydd cadwedig:
Eithr yr hwn ni chredo a gondemnir.
17A'r arwyddion hyn a ganlynant y rhai a gredant: Yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid; llefarant â thafodau;
18ac yn eu dwylaw y codant seirff i fyny; ac os yfant ddim marwol ni wna iddynt ddim niwed; ar y cleifion y gosodant eu dwylaw, a hwy a fyddant iach.
Ei Esgyniad i'r Nef, a'i gyd‐weithrediad ar y ddaear[Luc 24:49–52; Act 1:4–12]19Yr Arglwydd Iesu gan hyny, wedi llefaru wrthynt, a gymmerwyd i fyny i'r Nef, ac a eisteddodd ar ddeheulaw Duw.
20A hwythau a aethant allan, ac a bregethasant yn mhob man, a'r Arglwydd yn cyd‐weithio, ac yn cadarnhâu y Gair, trwy yr arwyddion oeddynt yn canlyn.]
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.