Marc 13 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Rhagfynegi dinystr y Deml[Mat 24:1–14; Luc 21:5–19]

1Ac fel yr oedd efe yn myned allan o'r Deml, un o'i Ddysgyblion a ddywed wrtho, Athraw, gwel y fath feini, a'r fath adeiladau!

2A'r Iesu a ddywedodd wrtho, A weli di yr adeiladau mawrion hyn? Ni adewir yma o gwbl faen ar faen, a'r nis datodir yn hollol.

3Ac fel yr oedd efe yn eistedd ar Fynydd yr Olew‐wydd, gyferbyn â'r Deml, Petr, ac Iago, ac Ioan, ac Andreas, a ofynasant iddo o'r neilldu,

4Dywed i ni pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo y pethau hyn yn dyfod i ben?

5A'r Iesu a ddechreuodd ddywedyd wrthynt, Edrychwch rhag i neb eich arwain ar gyfeiliorn.

6Llawer a ddeuant yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Efe, ac a arweiniant lawer ar gyfeiliorn.

7Ond pan glywoch am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd, na ddychryner chwi; canys rhaid iddynt ddyfod: ond nid yw y diwedd eto.

8Canys cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: bydd daeargrynfäau mewn amryw fanau; bydd newynau:

9dechreuad gwewyr yw y pethau hyn. Ond edrychwch atoch chwi eich hunain: canys hwy a'ch traddodant chwi i Gynghorau ac i Synagogau; chwi a fflangellir; a chwi a sefwch gerbron llywodraethwyr a breninoedd o achos fy enw i, er tystiolaeth iddynt.

10Ac i'r holl genedloedd y mae yn rhaid yn gyntaf bregethu yr Efengyl.

11A phan y'ch arweiniant chwi, gan eich traddodi, na fyddwch bryderus yn mlaen llaw pa beth a lefaroch: ond pa beth bynag a roddir i chwi yn yr awr hono, hyny lefarwch: canys nid chwychwi sydd yn llefaru, ond yr Yspryd Glân.

12A brawd a draddoda frawd i farwolaeth, a thâd ei blentyn, a phlant a gyfodant yn erbyn rhieni, ac a'u gosodant i farwolaeth.

13A chwi a fyddwch gâs gan bawb o achos fy enw i: ond yr hwn a barhao yn ddiysgog hyd y diwedd, hwnw a fydd cadwedig.

Y ffieidd‐dra a'r gorthrymder mawr[Mat 24:15–25; Luc 21:20–24 a 17:31–33]

14Ond pan weloch chwi ffieidd‐dra yr Anghyfanedd‐dra, yn sefyll yn y lle ni ddylai, (yr hwn a ddarlleno, ystyried), yna, y rhai a fyddant yn Judea, bydded iddynt ffoi i'r mynyddoedd:

15a'r neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgyned, ac nac aed i mewn i gymmeryd dim allan o'i dŷ.

16A'r hwn a elo i'r maes, na ddychweled yn ei ol i gymmeryd ei wisg uchaf.

17Ond gwae y rhai beichiog, a'r rhai yn rhoi bronau, yn y dyddiau hyny.

18Ond gweddiwch fel na ddygwyddo yn y Gauaf.

19Canys y dyddiau hyny a fyddant orthrymder, y cyfryw na bu ei fath o ddechreuad creadigaeth, yr hwn a greodd Duw, hyd y pryd hwn, ac ni fydd o gwbl.

20Ac onibai i'r Arglwydd fyrhau y dyddiau, ni fyddai gadwedig un cnawd: ond er mwyn yr Etholedigion, y rhai a etholodd, efe a fyrhaodd y dyddiau.

21Ac yna os dywed neb wrthych, Wele, yma y mae y Crist; neu, Wele, acw; na chredwch;

22canys Gau‐Gristiau a Gau‐Brophwydi a gyfodant, ac a roddant arwyddion a rhyfeddodau, er arwain ar gyfeiliorn, pe yn bosibl, yr Etholedigion.

23Eithr ymogelwch chwi: rhag‐ddywedais i chwi bob peth.

24Ond yn y dyddiau hyny, ar ol y gorthrymder hwnw, y tywyllir yr haul, a'r lleuad ni rydd ei llewyrch;

25a'r ser a fyddant o'r Nef yn syrthio, a'r galluoedd sydd yn y Nefoedd a siglir.

26Ac yna y gwelant Fab y Dyn yn dyfod mewn cymylau gydâ gallu mawr a gogoniant.

27Ac yna yr anfona efe yr Angelion, ac a gynull ynghyd ei Etholedigion allan o'r pedwar gwynt, o derfyn eithaf y ddaear hyd derfyn eithaf y Nef.

28Ac oddiwrth y ffigysbren dysgwch y ddammeg: pan y mae ei ganghen eisioes wedi dyfod yn dyner, a'r dail yn tori allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos.

29Felly chwithau hefyd, pan weloch y pethau hyn yn dyfod, gwybyddwch ei fod yn agos, wrth y drysau.

30Yn wir meddaf i chwi, nid â y genedlaeth hon heibio, hyd oni ddaw y pethau hyn oll i ben.

31Y Nef a'r ddaear a ânt heibio; ond fy ngeiriau i nid ânt heibio.

32Eithr am y dydd hwnw, neu yr awr, ni ŵyr neb, na'r Angelion yn y Nef, na'r Mab, ond y Tâd.

33Ymogelwch, byddwch effro, canys ni wyddoch pa bryd y mae yr adeg.

34Y mae fel dyn wedi myned o'i wlad ei hun, wedi gadael ei dŷ, wedi rhoddi awdurdod i'w weision, i bob un ei waith ei hun, ac a orchymynodd i'r drysawr wylio.

35Gwyliwch, gan hyny; canys ni wyddoch pa bryd y mae Arglwydd y tŷ yn dyfod, ai yn yr hwyr, ai ganol nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai yn fore iawn;

36rhag ei ddyfod yn ddisymwth, a'ch cael chwi yn cysgu.

37A'r hyn yr wyf yn ei ddywedyd i chwi, yr wyf yn ei ddywedyd i bawb, Gwyliwch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help