Matthew 1 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Achyddiaeth Crist o Abraham i Joseph[Luc 3:23–38]

1Llyfr cenedliad Iesu Grist, mab Dafydd, mab Abraham.

2Abraham a genedlodd Isaac; ac Isaac a genedlodd Jacob; a Jacob a genedlodd Judah a'i frodyr;

3a Judah a genedlodd Phares a Zarah o Tamar; a Phares a genedlodd Hesron; ac Hesron a genedlodd Ram;

4a Ram a genedlodd Aminadab; ac Aminadab a genedlodd Nahson; a Nahson a genedlodd Salmon;

5a Salmon a genedlodd Boaz o Rahab; a Boaz a genedlodd Obed o Ruth;

6ac Obed a genedlodd Jesse; a Jesse a genedlodd Dafydd Frenin; a Dafydd a genedlodd Solomon o weddw Urïas;

7a Solomon a genedlodd Rehoboam; a Rehoboam a genedlodd Abïah; ac Abïah a genedlodd Asa;

8Ac Asa a genedlodd Jehosaphat; a Jehosaphat a genedlodd Joram;

9a Joram a genedlodd Uzzïah; ac Uzzïah a genedlodd Jotham; a Jotham a genedlodd Ahaz;

10ac Ahaz a genedlodd Hezecïah; a Hezecïah a genedlodd Manasseh; a Manasseh a genedlodd Amon; ac Amon a genedlodd Josiah;

11a Josiah a genedlodd Jechonïah a'i frodyr, ar adeg y caethgludiad i Babilon.

12Ac wedi y caethgludiad i Babilon, Jechoniah a genedlodd Salathiel; a Salathiel a genedlodd Zorobabel;

13a Zorobabel a genedlodd Abïud; ac Abïud a genedlodd Eliacim;

14ac Eliacim a genedlodd Azor; ac Azor a genedlodd Sadoc; a Sadoc a genedlodd Achim; ac Achim a genedlodd Elïud;

15ac Elïud a genedlodd Eleazar; ac Eleazar a genedlodd Matthan; a Matthan a genedlodd Jacob;

16a Jacob a genedlodd Joseph, gwr Mair, o'r hon y ganed Iesu, yr hwn a elwir Crist.

17Yr holl genedlaethau, gan hyny, o Abraham hyd Ddafydd, oeddynt bedair cenedlaeth ar ddeg; ac o Ddafydd hyd y caethgludiad i Babilon, pedair cenedlaeth ar ddeg; ac o'r caethgludiad i Babilon hyd y Crist, pedair cenedlaeth ar ddeg.

Genedigaeth Crist.[Luc 1:26–38; 2:1–21]

18A genedigaeth yr Iesu Grist oedd fel hyn: Mair ei fam ef, wedi ei dyweddïo â Joseph, cyn eu dyfod hwy yn nghyd, a gafwyd yn feichiog o'r Yspryd Glân.

19A Joseph ei gwr hi, yr hwn oedd ddyn cyfiawn, ac yn anfoddlon i'w gwneyd yn esiampl cyhoeddus, a ewyllysiai ei gollwng ymaith yn ddirgel.

20Ac efe yn meddwl y pethau hyn, wele, angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Joseph, fab Dafydd, nac ofna gymmeryd atat Mair dy wraig, canys yr hyn a genedlwyd ynddi sydd o'r Yspryd Glân.

21A hi a esgor ar fab, a thi a elwi ei enw ef IESU; oblegyd EFE a wared ei bobl oddiwrth eu pechodau.

22A hyn oll a wnaethpwyd fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy y Proffwyd, gan ddywedyd,

23Wele, Y Forwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab, a hwy a alwant ei enw ef Immanuel, yr hyn o'i ddeongli ydyw, Duw gyda ni.

24A Joseph, pan gyfododd o'i gwsg, a wnaeth fel y gorchymynasai angel yr Arglwydd iddo, ac a gymmerodd ato ei wraig;

25ac nid adnabu efe hi hyd oni esgorodd ar fab; ac efe a alwodd ei enw ef IESU.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help