Galatiaid 2 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Ei ail ymweliad a Jerusalem.

1Gwedi hynny, wedi yspaid pedair blynedd‐ar‐ddeg, yr aethum drachefn i fyny i Jerusalem gyda Barnabas, gan gymmeryd Titus hefyd gyda mi.

2Ac aethum i fyny yn ol dadguddiad, a gosodais o'u blaen yr efengyl yr wyf yn ei phregethu ym mhlith y Cenhedloedd, ond yn gyfrinachol i'r rhai mewn cyfrif, rhag mewn un modd y rhedwn neu y rhedais yn ofer.

3Eithr hyd y nod Titus, yr hwn oedd gyda mi, ac yntau yn Roegwr, ni orfodwyd i enwaedu arno:

4eithr hynny o herwydd y gau‐frodyr a ddygwyd i mewn yn llechwraidd, y rhai a ddaethant i mewn yn ddirgel i yspio ein rhyddid, yr hwn sydd gennym yng Nghrist Iesu, fel y'n dygent i gaethiwed:

5i'r rhai ni roisom ffordd mewn ymostyngiad, naddo, am awr, fel yr arhosai gwirionedd yr efengyl gyda chwi.

6Ond oddiwrth y rhai mewn cyfrif eu bod yn rhywbeth (pa beth bynnag oeddynt, ni wna ddim gwahaniaeth i mi, nid yw Duw yn derbyn wyneb dyn), canys y rhai mewn cyfrif ni chyfranasant ddim i mi:

7eithr yn y gwrthwyneb, pan welsant ddarfod ymddiried i mi am efengyl y dienwaediad, megys am efengyl yr enwaediad i Petr

8(canys yr Hwn a weithiodd yn Petr er apostolaeth yr enwaediad, a weithiodd ynof finnau hefyd tuag at y Cenhedloedd);

9a phan wybu Iago a Cephas ac Ioan, y rhai a gyfrifid yn golofnau, y gras a roddwyd i mi, hwy a roddasant i mi ac i Barnabas ddeheu‐ddwylaw cymdeithas, fel yr elem ni at y cenhedloedd, a hwythau at yr enwaediad.

10Yn unig dymunent ar i ni gofio y tlodion, yr hyn beth yr oeddwn hefyd yn awyddus i wneyd.

Paul a Phetr yn Antioch.

11A phan ddaeth Cephas i Antioch, mi a'i gwrthwynebais ef yn ei wyneb, canys yr oedd yn gondemniedig.

12Oblegyd cyn dyfod rhai oddiwrth Iago, efe a fwyttâodd gyda'r Cenhedloedd; ond pan ddaethant, efe a dynnodd yn ol ac a ymwahanodd, gan ofni y rhai oedd o'r enwaediad.

13A chydag ef hefyd y cyd‐ragrithiodd y lleill o'r Iuddewon, fel y dygwyd ymaith Barnabas hefyd â'u rhagrith hwy.

14Eithr pan welais i nad oeddynt yn iawn‐droedio yn ol gwirionedd yr efengyl, dywedais wrth Cephas yn eu gŵydd hwynt oll, Os wyt ti, a thi yn Iuddew, yn byw fel y Cenhedloedd, ac nid fel yr Iuddewon, pa fodd yr wyt yn dirgymhell y Cenhedloedd i fyw fel Iuddewon?

15Nyni wrth naturiaeth ydym Iuddewon, ac nid yn bechaduriaid o'r Cenhedloedd;

16ond yn gwybod na chyfiawnheir dyn gan weithredoedd deddf, ond trwy ffydd yng Nghrist Iesu; nyni hefyd a gredasom yng Nghrist Iesu, fel y'n cyfiawnheid trwy ffydd yng Nghrist ac nid trwy weithredoedd deddf; oblegyd ni chyfiawnheir un cnawd trwy weithredoedd deddf.

17Eithr os, tra yn ceisio cael ein cyfiawnhâu yng Nghrist, y'n caed ni ein hunain yn bechaduriaid, a ydyw Crist gan hynny yn weinidog pechod?

18Na atto Duw. Canys os wyf fi yn adeiladu drachefn y pethau a dynnais i lawr, yr wyf yn profi fy hun yn droseddwr.

19Canys myfi trwy ddeddf fum farw i ddeddf, fel y byddwn fyw i Dduw. Yr wyf wedi fy nghroeshoelio gyda Christ;

20ac nid myfi mwyach sydd yn byw, ond Crist sydd yn byw ynof fi; a'r hyn yn awr yr wyf yn ei fyw yn y cnawd, yr wyf yn ei fyw mewn ffydd, yr hon sydd ym Mab Duw, yr Hwn a'm carodd ac a'i rhoddes ei Hun i fyny drosof.

21Nid wyf yn dirymmu gras Duw; canys os trwy ddeddf y mae cyfiawnder, yna y bu Crist farw yn ddianghenrhaid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help