1Am hynny, gan ddyoddef o Grist yn y cnawd, ymarfogwch chwithau hefyd eich hunain â'r un meddwl, canys yr hwn a ddyoddefodd yn y cnawd sydd wedi peidio â phechod,
2fel na byddo mwyach o'r amser sydd yn ol fyw yn y cnawd wrth chwantau dynion, ond wrth ewyllys Duw.
3Canys digon yr amser a aeth heibio i weithredu ewyllys y cenhedloedd, pan y rhodiasom mewn trythyllwch, chwantau, meddwdod, gloddestau, cyfeddach, a ffiaidd eilun‐addoliadau;
4yn yr hyn y synnant nad ydych yn cyd‐redeg â hwynt i'r un dylif o ysgelerder, gan gablu;
5y rhai a roddant gyfrif i'r hwn sydd barod i farnu y byw a'r meirw.
6Canys i'r dyben hwn yr efengylwyd hyd yn nod i'r meirw, fel y bernid hwy yn ol dynion yn y cnawd, ond byw yn ol Duw yn yr yspryd.
Cynghorion i sobrwydd a charedigrwydd.7Eithr diwedd pob peth sydd wedi agoshau; am hynny byddwch bwyllog a sobr i weddïau;
8o flaen pob peth, yn wresog yn eich cariad tu ag at eich gilydd, canys cariad sydd yn gorchuddio lliaws o bechodau;
9yn lletygar y naill i'r llall, heb rwgnach;
10fel y derbyniodd pob un rodd yn ei gweinyddu ym mhlith eich gilydd, fel goruchwylwyr da amrywiol râs Duw.
11Os yw neb yn llefaru, llefared megys oraclau Duw; os yw neb yn gweini, gwnaed megys o'r nerth a gyflenwa Duw, fel ym mhob peth y gogonedder Duw trwy Iesu Grist, i'r hwn y mae y gogoniant a'r cadernid yn oes oesoedd. Amen.
Cysur mewn erledigaeth.12Anwyliaid, na synnwch wrth y prawf tanllyd sydd yn eich plith, er eich profi, fel pe bai peth dyeithr yn dygwydd i chwi;
13eithr gymaint ag yr ydych yn cyfranogi o ddyoddefiadau Crist, llawenhêwch, fel yn Nadguddiad ei Ogoniant y llawenhêwch gan orfoleddu.
14Os difenwir chwi am enw Crist, gwyn eich byd, canys y mae Yspryd y Gogoniant, ië, Yspryd Duw, yn gorphwys arnoch.
15Canys na ddyoddefed neb o honoch fel llofrudd, neu leidr, neu ddrwg‐weithredwr, neu ymyrrwr â materion pobl eraill:
16ond os fel Cristion, na fydded cywilydd ganddo, ond gogonedded Dduw yn yr enw hwn;
17canys y mae yn amser i'r farn ddechreu gyda thŷ Dduw; ac os yn gyntaf gyda ni, pa beth fydd diwedd y rhai sydd yn anufuddhâu i Efengyl Duw?
18Ac os braidd y mae y cyfiawn yn gadwedig, pa le yr ymddengys yr annuwiol a'r pechadur?
19Felly hefyd bydded i'r rhai sydd yn dyoddef yn ol ewyllys Duw roddi gofal eu heneidiau i Greawdwr ffyddlawn, gan wneuthur yr hyn sydd dda.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.