1Pa beth gan hynny a ddywedwn ni ddarfod i Abraham ein cyndâd ei gael yn ol y cnawd?
2Canys os Abraham a gyfiawnhâwyd trwy weithredoedd, y mae ganddo fater ymffrost; ond nid mewn perthynas â Duw.
3Canys beth a ddywed yr ysgrythyr? A chredodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd hyn iddo yn gyfiawnder.
4Ond i'r hwn sydd yn gweithio, ni chyfrifir y gyflog o ras ond o ddyled.
5Eithr i'r neb nid yw yn gweithio, ond yn credu yn yr hwn sydd yn cyfiawnhau yr annuwiol, ei ffydd ef a gyfrifir yn gyfiawnder.
6Megys y mae Dafydd hefyd yn llefaru am ddedwyddiad y dyn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddo ar wahan oddiwrth weithredoedd:
7Gwyn fyd y rhai y maddeuwyd eu hanwireddau, ac y cuddiwyd eu pechodau.
8Gwyn fyd y gŵr i'r hwn ni chyfrif yr Arglwydd bechod o gwbl.
Cyfiawnhad ac Enwaediad.9A ddaeth y dedwyddiad hwn ar yr enwaediad, ynte ar y dienwaediad hefyd? canys yr ydym yn dywedyd fod ffydd wedi ei chyfrif i Abraham yn gyfiawnder.
10Pa fodd gan hynny y cyfrifwyd hi? ai pan oedd mewn enwaediad, ynte mewn dienwaediad? Nid mewn enwaediad, ond mewn dienwaediad.
11Ac efe a dderbyniodd arwydd enwaediad, sêl cyfiawnder y ffydd yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad; fel y byddai yn dâd pawb a'r sydd yn credu, er eu bod mewn dienwaediad, fel y cyfrifid cyfiawnder iddynt;
12ac yn dâd yr enwaediad, nid i'r rhai o'r enwaediad yn unig, ond i'r rhai hefyd ydynt yn cerdded yn olion ffydd ein tâd Abraham yr hon oedd ganddo mewn dienwaediad.
Cyfiawnhad yn annybynol ar Ddeddf.13Canys nid trwy ddeddf yr oedd yr Addewid i Abraham neu i'w hâd, y byddai yn etifedd y byd, eithr trwy gyfiawnder ffydd.
14Canys os y rhai sydd o'r ddeddf yw yr etifeddion, y mae ffydd wedi ei gwneyd yn wag, a'r Addewid yn ddirym;
15ond y mae y ddeddf yn gweithredu digofaint; ond lle nad oes deddf, nid oes trosedd.
16Am hynny o ffydd y mae
, fel y byddai yn ol gras, fel y byddai yr Addewid yn sicr i'r holl hâd; nid yn unig i'r hwn sydd o'r ddeddf, ond hefyd i'r hwn sydd o ffydd Abraham, yr hwn yw ein tâd ni oll,17(fel y mae yn ysgrifenedig, Mi a'th wneuthum yn dâd Cenhedloedd lawer) gerbron yr hwn y credodd efe iddo, sef Duw, yr hwn sydd yn bywhau y meirw, ac yn galw y pethau nad ydynt fel pe baent;
18yr hwn tuhwnt i obaith mewn gobaith a gredodd, fel y byddai yn dâd Cenhedloedd lawer, yn ol yr hyn a ddywedasid, Felly y bydd dy hâd di.
19Ac heb fod yn egwan mewn ffydd, efe a ystyriodd ei gorph ei hun eisoes wedi ei farweiddio (ac efe ynghylch can mlwydd oed), a marweidd‐dra bru Sara;
20ond gyda golwg ar Addewid Duw nid ammheuodd trwy annghrediniaeth, eithr efe a nerthwyd trwy ffydd, gan roddi gogoniant i Dduw,
21ac wedi cael sicrwydd hollol ei fod yn alluog i gyflawnu hefyd yr hyn a addawodd;
22ac am hynny y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.
23Eithr nid ysgrifennwyd hyn er ei fwyn ef yn unig, Y cyfrifwyd iddo,
24eithr er ein mwyn ninnau hefyd, i'r rhai y cyfrifir, y rhai ydym yn credu yn yr hwn a gyfododd Iesu ein Harglwydd o feirw,
25yr hwn a draddodwyd o achos ein troseddau ni, ac a gyfodwyd er mwyn ein cyfiawnhad.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.