1Eithr bu gau‐brophwydi hefyd ym mhlith y bobl, fel y bydd gau‐athrawon hefyd yn eich plith chwi, yn rai a ddygant i mewn heresiau dinystriol, gan wadu hyd yn nod y Meistr, yr hwn a'u prynodd hwynt, gan ddwyn arnynt eu hunain ddinystr sydyn.
2A llawer a ganlynant eu gweithredoedd anllad; o herwydd y rhai y ceblir Ffordd y gwirionedd;
3ac mewn cybydd‐dod, trwy eu geiriau ffugiol y gwnant fasnach o honoch chwi: dedfryd y rhai er ys talm nid yw segur, a'u dinystr nid yw yn hepian.
4Canys os nad arbedodd Duw angelion a bechasant, eithr gan eu bwrw i Tartarus efe a'u traddododd i bydewau tywyllwch, i'w cadw i farn.
5Ac os nad arbedodd efe yr hen fyd, eithr Noah, pregethwr cyfiawnder, a gadwodd efe gyda saith eraill, pan ddug efe Ddiluw ar fyd yr annuwiolion;
6a chan droi dinasoedd Sodom a Gomorrah yn lludw, efe a'u condemniodd i ddistryw, gan eu gwneuthur yn esiampl i'r rhai a fyddent byw yn annuwiol;
7ac a waredodd Lot gyfiawn, yr hwn a gafodd ei flino gan fuchedd y rhai drygionus, yr hon a dreulid mewn anlladrwydd
8— canys y cyfiawn hwnnw yn trigo yn eu mysg hwynt yn gweled ac yn clywed, o ddydd i ddydd, a ddirboenodd ei enaid cyfiawn trwy eu gweithredoedd anghyfreithlawn
9— yr Arglwydd a ŵyr pa fodd i waredu y duwiolion allan o brofedigaeth, ac i gadw anghyfiawnion o dan gosp i Ddydd y Farn;
10eithr yn bennaf y rhai sydd yn rhodio ar ol y cnawd yn chwant halogrwydd, gan ddirmygu rheolaeth: dynion beiddgar, hunangar, nid ydynt yn arswydo cablu urddasolion;
11tra nad yw angelion, er eu bod yn fwy mewn nerth a gallu, yn dwyn barn gableddus yn eu herbyn hwy ger bron yr Arglwydd.
12Ond y rhai hyn, megys creaduriaid direswm, wedi eu geni yn reddfol er cael eu dal a'u distrywio, gan gablu yn y pethau na wyddant, yn eu distryw hwy a ddinystrir,
13gan fod ar dderbyn cyflog anghyfiawnder; gan gyfrif gloddesta liw dydd yn bleser; brychau a meflau ydynt, yn gloddesta yn eu Cariad‐wleddoedd tra yn gwledda gyda chwi;
14a chanddynt lygaid yn llawn godineb, ac na fedrant beidio â phechod; yn llithio eneidiau anwadal; a chanddynt galon wedi ymarfer mewn cybydd‐dod; plant melldith;
15gan adael y ffordd uniawn aethant ar gyfeiliorn, gan ganlyn ffordd Balaam, mab Beor, yr hwn a garodd wobr anghyfiawnder;
16ond a gafodd gerydd am ei gamwedd: asen fud a lefarodd â llais dyn, ac a rwystrodd ynfydrwydd y prophwyd.
17Y rhai hyn ydynt ffynhonnau diddwfr, niwloedd a yrrir gan dymhestl, i'r rhai y mae caddug tywyllwch ynghadw.
18Canys gan adrodd gor‐chwyddedig eiriau gwagedd, y maent yn hud‐ddenu, yn chwantau y cnawd, trwy eu gweithredoedd anllad, y rhai sydd i fesur yn diangc ymaith oddiwrth y rhai sydd a'u hymarweddiad mewn cyfeiliornad;
19gan addaw iddynt ryddid, tra y maent hwy eu hunain yn gaethweision llygredigaeth; canys gan bwy bynnag y trechir dyn, i hwnnw hefyd y mae wedi ei wneud yn gaeth; canys os,
20wedi diangc oddi wrth halogedigaethau y byd trwy lawn‐adnabyddiaeth o'r Arglwydd a'r Iachawdwr Iesu Grist, y meglir hwynt drachefn yn y pethau hyn a chael eu trechu, y mae y sefyllfa olaf wedi myned iddynt yn waeth na'r cyntaf.
21Canys gwell fuasai iddynt fod heb adnabod ffordd cyfiawnder, nag, wedi ei hadnabod, droi yn ol oddi wrth y gorchymyn sanctaidd a draddodwyd iddynt.
22Dygwyddodd iddynt yn ol y wir ddiareb: Ci yn troi at ei chwydiad ei hun, ac, Hwch wedi ymolchi, i ymdreiglo yn y llaid.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.