Marc 11 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Y Farchogaeth frenhinol i Jerusalem[Mat 21:1–11; Luc 19:29–44; Ioan 12:12–19]

1A phan y maent yn agoshâu i Jerusalem, i Bethphage, a Bethania, at Fynydd yr Olew‐wydd, y mae efe yn danfon dau o'i Ddysgyblion,

2ac yn dywedyd wrthynt, Ewch ymaith i'r pentref sydd gyferbyn a chwi: ac yn ebrwydd pan y deloch i mewn iddo, chwi a gewch ebol wedi ei rwymo, ar yr hwn hyd yn hyn nid oes neb wedi eistedd: gollyngwch ef yn rhydd, a dygwch ef.

3Ac os dywed neb wrthych, Paham y gwnewch hyn? dywedwch, Y mae ar yr Arglwydd ei eisieu; ac yn ebrwydd y mae efe yn ei ddanfon yma drachefn.

4A hwy a aethant ymaith, ac a gawsant ebol wedi ei rwymo wrth y drws oddiallan, ar y brif‐heol, ac y maent yn ei ollwng ef yn rhydd.

5A rhai o'r rhai oedd yn sefyll yno a ddywedasant wrthynt, Beth a wnewch chwi, yn gollwng yr ebol yn rhydd?

6A hwy a ddywedasant wrthynt fel y dywedodd yr Iesu: a hwy a adawsant iddynt.

7Ac y maent yn dwyn yr ebol at yr Iesu, ac yn bwrw eu gwisgoedd uchaf arno; ac efe a eisteddodd arno.

8A llawer a daenasant eu gwisgoedd uchaf ar y ffordd; ac eraill haenau o'r brigau, y rhai a dorasant o'r meusydd.

9A'r rhai oedd yn myned o'r blaen, a'r rhai oedd yn dyfod ar ol, a lefasant,

Hosanna!

Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd!

10Bendigedig yw Teyrnas ein Tâd Dafydd, yr hon sydd yn dyfod!

Hosanna yn y Goruchafion.

11Ac efe a aeth i mewn i Jerusalem, i'r Deml, ac wedi iddo edrych ar bob peth o'i amgylch, a'r awr weithian yn ddiweddar, efe a aeth allan i Bethania gyda'r Deuddeg.

Melldithio y ffigysbren ddiffrwyth[Mat 21:18, 19]

12A thranoeth, wedi iddynt fyned allan o Bethania, daeth arno chwant bwyd.

13Ac wedi iddo ganfod o hirbell ffigysbren âg arno ddail, efe a aeth, os caffai, o ddygwydd, ryw gymmaint arno. A phan ddaeth ato, ni chafodd efe ddim ond dail: canys nid oedd dymhor ffigys.

14Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Na fwytaed neb ffrwyth o honot byth mwy. A'i Ddysgyblion oeddynt yn ei glywed ef.

Glanhâu y Deml[Mat 21:12, 13, 17; Luc 19:45, 46]

15Ac y maent yn dyfod i Jerusalem; ac wedi myned i'r Deml, efe a ddechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu a'r rhai oedd yn prynu; ac efe a ddymchwelodd fyrddau y cyfnewidwyr arian, a chadeiriau y gwerthwyr colomenod:

16ac ni adawai efe i neb ddwyn llestr trwy y Deml.

17Ac efe a'u dysgodd, ac a ddywedodd wrthynt, Onid yw yn ysgrifenedig,

Gelwir fy Nhŷ i yn Dŷ Gweddi i'r holl genedloedd; ond yr ydych chwi wedi ei wneuthur ef yn

Ogof Yspeilwyr.

18A'r Arch‐offeiriaid a'r Ysgrifenyddion a glywsant, ac a geisiasant pa fodd y dyfethent ef; canys yr oeddynt yn ei ofni ef, oblegyd yr holl dyrfa a darawyd â syndod at ei ddysgeidiaeth ef.

19A pha bryd bynag yr elai hi yn hwyr, hwy a aethant allan o'r Ddinas.

Gallu ffydd a gweddi[Mat 21:20–22]

20Ac wrth fyned heibio yn fore, hwy a welsant y ffigysbren wedi crino o'r gwraidd.

21A Phetr, wedi adgofio, a ddywed wrtho, Rabbi, wele, y ffigysbren a felldithiaist wedi crino.

22A'r Iesu, gan ateb, a ddywed wrthynt, Bydded genych ffydd yn Nuw.

23Canys yn wir meddaf i chwi, Pwy bynag a ddywedo wrth y mynydd hwn, Cyfoder di, a bwrier di i'r môr, ac nid amheuo yn ei galon, ond a gredo fod yr hyn a ddywed yn dyfod i ben, efe a fydd iddo.

24Am hyny meddaf i chwi, pa bethau bynag oll y gweddiwch am danynt, ac a geisiwch, credwch y derbyniasoch hwynt, a byddant i chwi.

25A phan yr ydych yn sefyll i weddio, maddeuwch, os oes genych ddim yn erbyn neb; fel y maddeuo eich Tâd yr hwn sydd yn y Nefoedd i chwithau eich camweddau.

26[Ond os chwi ni faddeuwch, eich Tâd yr hwn sydd yn y Nefoedd ni faddeu chwaith eich camweddau chwithau], ac atebwch fi; a minau a ddywedaf i chwi trwy ba fath awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn:

30Ai oedd Bedydd Ioan o'r Nef, ai o ddynion? Atebwch fi.

31Ac yr oeddynt yn ymresymu yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r Nef, efe a ddywed, Paham na chredasoch iddo?

32Ond a ddywedwn, O ddynion? — hwy a ofnent y bobl; canys pawb a gyfrifent Ioan mewn gwirionedd ei fod yn broffwyd.

33A hwy, gan ateb yr Iesu a ddywedant, Ni wyddom ni. A'r Iesu a ddywed wrthynt hwythau, Ni ddywedaf finau i chwi ychwaith trwy ba fath awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help