1 Corinthiaid 16 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Cyfarwyddiadau ymarferol. Diweddglo.

1Yn awr ynghylch y casgliad tuag at y saint i eglwysi Galatia y dydd cyntaf o'r wythnos, gan roddi i gadw fel y llwyddodd, fel na wneler casgliadau pan ddelwyf.

3A phan gyrhaeddwyf, pa rai bynnag a gymmeradwyoch, â llythyrau y danfonaf hwynt i ddwyn eich rhodd i Jerusalem;

4ac os teilwng y peth i minnau fyned hefyd, hwy a änt gyda mi.

5Eithr mi a ddeuaf attoch, gwedi yr elwyf trwy Macedonia; canys trwy Macedonia yr wyf yn myned;

6a dichon yr arhosaf gyda chwi, neu y gauafaf hefyd, fel y'm hebryngoch i ba le bynnag yr elwyf;

7canys nid ewyllysiaf eich gweled yn awr ar fy hynt, oblegyd yr wyf yn gobeithio yr arhosaf gryn amser gyda chwi, os caniata yr Arglwydd.

8Eithr mi a arhosaf yn Ephesus hyd y Pentecost;

9canys drws mawr ac effeithiol a agorwyd i mi, ac y mae gwrthwynebwyr lawer.

10Ac os Timotheus a ddaw ef mewn heddwch, fel y delo attaf fi, canys yr wyf fi yn ei ddysgwyl ef gyda'r brodyr.

15Ac yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr (chwi a adwaenoch dŷ Stephanas ydyw, ac iddynt ymroddi i wasanaeth y saint),

16fod o honoch chwithau hefyd fod yn ddarostyngedig i'r cyfryw, ac i bob un sydd yn cyd‐weithio ac yn llafurio.

17Ac yr wyf yn llawen am ddyfodiad Stephanas a Phortunatus ac Achaichus, canys yr hyn oedd eisieu ar eich rhan chwi hwy a gyflawnasant;

18canys hwy a adlonasant fy yspryd i a'ch eiddo chwithau; cydnabyddwch gan hynny y cyfryw rai.

19Y mae eglwysi Asia yn eich cyfarch chwi. Y mae Acwila a Phrisca yn eich cyfarch yn wresog yn yr Arglwydd, gyda'r eglwys sydd yn eu tŷ hwynt.

20Y mae y brodyr oll yn eich cyfarch. Cyferchwch eich gilydd â chusan sanctaidd.

21Fy nghyfarchiad i Paul â'm llaw fy hun.

22Os oes neb nad yw yn hoffi. Maran atha.

23Gras yr Arglwydd Iesu fyddo gyda chwi.

24Fy nghariad i fyddo gyda chwi oll yng Nghrist Iesu. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help