1 Timotheus 1 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Dwyn i gof y siars a roddwyd

1Paul, Apostol Crist Iesu yn ol gorchymyn Duw ein Hiachawdwr, a Iesu Grist, ein gobaith,

2at Timotheus, fy mhlentyn gwirioneddol mewn ffydd: Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddiwrth Dduw Dâd a Christ Iesu ein Harglwydd.

3Fel y deisyfais arnat aros yn Ephesus, pan oeddwn ar y ffordd i Macedonia, fel y gorchymynech i rai beidio dysgu yn wahanol,

4na thalu sylw i chwedlau ac achau diderfyn, y rhai sydd yn peri cwestiynau yn hytrach na goruchwyliaeth Duw, yr hon sydd mewn ffydd; felly y gwnaf yn awr.

5Eithr amcan y gorchymyn yw cariad o galon bur a chydwybod dda a ffydd ddiragrith:

6yn yr hyn bethau y methodd rhai, ac a droisant ymaith at ofer‐siarad;

7gan ewyllysio bod yn ddysgawdwyr y Gyfraith, heb ddeall y pethau a ddywedant, nac am ba bethau yr haerant.

8Eithr gwyddom ni mai da yw y Gyfraith, os arfer dyn hi yn gyfreithlawn,

9gan wybod hyn, nad i ddyn cyfiawn y gosodir cyfraith, eithr i'r rhai digyfraith ac afreolus, i'r annuwiol a phechaduriaid, i'r disanctaidd ac annghrefyddol, i dad‐leiddiaid a mam-leiddiaid, i lofruddwyr dynion,

10i butteinwyr, i wrryw-gydwyr, i ladron‐dynion, i gelwyddwyr, i anudonwyr, ac od oes dim arall yn groes i'r Athrawiaeth iachus,

11yn ol efengyl gogoniant y Gwynfydedig Dduw, yr hon a ymddiriedwyd i mi.

Mawl gan yr erlidiwr achubedig.

12Yr wyf yn diolch i'r hwn a'm nerthodd i, Crist Iesu ein Harglwydd, am iddo fy nghyfrif yn ffyddlawn, gan fy ngosod yn y weinidogaeth;

13a mi gynt yn gablwr, ac yn erlidiwr, ac yn drahaus; eithr mi a gefais drugaredd, gan yn anwybodus y gweithredais mewn annghrediniaeth;

14a thra‐amlhaodd gras ein Harglwydd gyda ffydd a chariad, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu.

15Ffyddlawn yw yr ymadrodd, ac yn haeddu pob derbyniad, ddyfod Crist Iesu i'r byd i achub pechaduriaid, o ba rai y pennaf ydwyf fi.

16Eithr o achos hyn mi a gefais drugaredd, fel ynof fi, y pennaf, yr arddangosai Iesu Grist ei holl hir‐ymaros, fel siampl o'r rhai ydynt ar gredu ynddo ef i fywyd tragywyddol.

17Ac i'r Brenin Tragywyddol, Anfarwol, y bydd anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd, Amen.

18Y gorchymyn hwn yr wyf yn ei ymddiried i ti, fy mhlentyn Timotheus, yn ol y prophwydoliaethau a rag‐arweiniasant attat ti, ar filwrio o honot ynddynt y filwriaeth dda,

19gan feddiannu ffydd a chydwybod dda, yr hon, rhai, wedi ei thalflu dros y bwrdd, a wnaethant long‐ddrylliad am y ffydd;

20o'r rhai y mae Hymenëus ac Alexander, y rhai a draddodais i Satan, fel y dysger hwynt i beidio a chablu.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help