Luc 1 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Yr Arweiniad i fewn.

1Yn gymaint ag i lawer ymgynyg i osod mewn trefn adroddiad o'r pethau sydd wedi eu llwyr‐gadarnhâu yn ein plith ni,

2megys y traddodasant hwy i ni, sef, y rhai oeddynt o'r dechreuad yn llygad‐dystion a gweinidogion y Gair:

3rhyngodd bodd i minau hefyd, wedi manwl‐ddylyn yr oll yn gywir o'r dechreuad, i ysgrifenu atat mewn iawn drefn, O Anrhydeddusaf Theophilus,

4fel y cait lawn‐wybod y sicrwydd am y pethau y'th holwyddorwyd ynddynt.

Cenedliad Ioan Fedyddiwr.

5Yr oedd yn nyddiau Herod, Brenin Judea, ryw offeiriad a'i enw Zechariah, o ddosparth dyddiol Abiah, ac yr oedd iddo wraig o ferched Aaron, a'i henw Elisabeth.

6Ac yr oeddynt ill dau yn gyfiawn gerbron Duw, yn rhodio yn holl orchymynion ac ordinhadau yr Arglwydd yn ddiargyhoedd.

7Ac nid oedd plentyn iddynt, am fod Elisabeth yn anmhlantadwy, ac yr oeddynt ill dau wedi myned yn mlaen yn mhell mewn dyddiau.

8A bu ac efe yn gwasanaethu swydd offeiriad yn nhrefn ei ddosparth gerbron Duw, yn ol arfer yr offeiriadaeth,

9syrthiodd i'w ran trwy goelbren i fyned i mewn i Gysegr yr Arglwydd i arogl‐darthu.

10A holl luaws y bobl oedd yn gweddio tu allan ar awr yr arogl‐darthiad.

11Ac ymddangosodd iddo Angel yr Arglwydd yn sefyll o'r tu deheu i Allor yr Arogl‐darth:

12A Zechariah, pan welodd, a gythryblwyd, ac ofn a syrthiodd arno ef.

13Ond yr Angel a ddywedodd wrtho, Nac ofna, Zechariah; oblegyd gwrandawyd dy ddeisyfiad, a'th wraig Elisabeth a ddwg i ti fab, a thi a elwi ei enw ef Ioan.

14A bydd i ti lawenydd a gorfoledd, a llawer a lawenychant ar ei enedigaeth ef.

15Canys mawr fydd efe yn ngolwg yr Arglwydd, ac nid ŷf efe ddim gwin, na diod feddwol arall; ac efe a lenwir o'r Yspryd Glân o grôth ei fam:

16a llawer o feibion Israel a ddychwel efe at yr Arglwydd eu Duw;

17ac efe a â o'i flaen ef, yn ei olwg, yn yspryd a gallu Elias,

I droi calonau tadau at blant,

A rhai anufydd i gallineb rhai cyfiawn,

I barotoi i'r Arglwydd bobl hollol ddarparedig.

18A dywedodd Zechariah wrth yr Angel, Pa fodd y gwybyddaf fi hyn? Canys henafgwr wyf fi, a'm gwraig hefyd wedi myned yn mhell mewn dyddiau.

19A'r Angel a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Myfi wyf Gabriel, yr hwn wyf yn sefyll yn mhresenoldeb Duw; ac fe'm hanfonwyd i lefaru wrthyt, ac i fynegu i ti y newyddion da hyn.

20Ac wele, ti a fyddi ddystaw, ac heb allu llefaru, hyd y dydd y daw oddiamgylch y pethau hyn, o herwydd na chredaist fy ngeiriau, y rhai a gyflawnir yn eu hamser priodol.

21Ac yr oedd y bobl yn dysgwyl am Zechariah, ac yr oeddynt yn rhyfeddu at ei fod yn aros cyhyd yn y Cysegr.

22A phan ddaeth efe allan, ni allai efe lefaru wrthynt; a hwy a wybuant iddo weled gweledigaeth yn y Cysegr: ac yr oedd efe ei hun yn amneidio iddynt; ac efe a barhâodd yn fud.

23A bu, fel y cyflawnwyd dyddiau ei wasanaeth swyddogol, efe a aeth ymaith i'w dŷ ei hun.

24Ac ar ol y dyddiau hyn, ei wraig Elisabeth a feichiogodd, ac a ymguddiodd yn hollol am bum mis, gan ddywedyd,

25Fel hyn y mae yr Arglwydd wedi gwneyd â mi mewn dyddiau yn y rhai yr edrychodd arnaf, i dynu ymaith fy ngwaradwydd yn mhlith dynion.

Ymweliad Gabriel a Mair.

26Ac yn y chweched mis, anfonwyd yr Angel Gabriel oddiwrth Dduw, i ddinas yn Galilea o'r enw Nazareth,

27at forwyn wedi ei dyweddio i wr o'r enw Joseph, o dŷ Dafydd; ac enw y forwyn oedd Mair.

28A'r Angel a ddaeth i mewn ati, ac a ddywedodd, Henffych well! Tydi sydd wedi derbyn ffafr: yr Arglwydd sydd

gyd â thi.

29A hithau a gythryblwyd yn ddirfawr wrth yr ymadrodd, ac a ymresymodd ynddi ei hun pa fath gyfarchiad oedd hwn.

30A'r Angel a ddywedodd wrthi, Nac ofna Mair: canys ti a gefaist ffafr gyd â Duw.

31Ac wele, ti a feichiogi yn dy grôth, ac a esgori ar fab, ac a elwi ei enw ef IESU.

32Hwn fydd mawr, a Mab y Goruchaf y gelwir ef; ac iddo y rhydd yr Arglwydd Dduw orsedd Dafydd ei dâd;

33ac efe a deyrnasa ar dŷ Jacob yn dragywydd: ac i'w Deyrnas ni bydd diwedd.

34A dywedodd Mair wrth yr Angel, Pa fodd y bydd hyn, gan nad adwaen i wr?

35A'r Angel a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Yr Yspryd Glân a ddaw arnat ti, a Gallu y Goruchaf a gysgoda drosot: am hyny hefyd y peth sanctaidd a genedlir, a elwir yn FAB DUW.

36Ac wele, Elisabeth, dy gares, y mae hithau hefyd wedi beichiogi ar fab yn ei henaint; a hwn yw y chweched mis iddi hi, yr hon a arferid alw yn anmhlantadwy.

37Canys pob gair oddiwrth Dduw ni fydd yn anmhosibl.

38A dywedodd Mair, Wele law‐forwyn yr Arglwydd: bydded i mi yn ol dy air di. A'r Angel a aeth ymaith oddiwrthi.

Molawd Elisabeth.

39A Mair a gyfododd yn y dyddiau hyny, ac a aeth i'r mynydd‐dir ar frys, i ddinas yn Juda;

40ac a aeth i mewn i dŷ Zechariah, ac a gyfarchodd well i Elisabeth.

41A bu pan glybu Elisabeth gyfarchiad Mair, i'r baban yn ei chrôth hi lamu: ac Elisabeth a lanwyd o'r Yspryd Glân;

42a llefain a wnaeth â llef uchel, ac a ddywedodd,—

Bendigedig wyt ti yn mhlith gwragedd,

A bendigedig yw ffrwyth dy grôth di.

43Ac o ba le y mae hyn i mi,

Fod mam fy Arglwydd yn dyfod ataf fi?

44Canys wele, mor gynted ag y daeth llais dy gyfarchiad i'm clustiau,

Y baban a lamodd gan orfoledd yn fy nghrôth.

45A gwyn fyd yr hon a gredodd:

Canys bydd cwblhâd i'r pethau sydd wedi eu llefaru wrthi oddiwrth yr Arglwydd.

Molawd Mair: Trugaredd Duw i'w Bobl.

46A dywedodd Mair,

Y mae fy enaid yn mawrhâu yr Arglwydd,

47A gorfoleddodd fy yspryd yn Nuw fy Iachawdwr.

48Canys efe a edrychodd ar iselder ei law‐forwyn;

Canys wele, o hyn allan, yr holl genedlaethau a'm galwant yn wynfydedig;

49Canys yr Hwn sydd Alluog a wnaeth i mi bethau mawrion,

A sanctaidd yw ei Enw;

50A'i drugaredd ef sydd i genedlaethau a chenedlaethau

I'r rhai a'i hofnant ef.

51Efe a wnaeth gadernid â'i fraich:

Efe a lwyr‐wasgarodd y beilchion yn nychymyg eu calon;

52Efe a dynodd i lawr y Cedyrn oddiar orseddau;

Ac a ddyrchafodd yr isel:

53Y newynog a lanwodd efe â phethau da;

A'r rhai goludog a anfonodd efe ymaith yn weigion.

54Efe a gynorthwyodd ei was Israel,

Er mwyn iddo gofio trugaredd

55(Fel y llefarodd efe wrth ein Tadau)

I Abraham a'i hâd ef yn dragywydd.

56A Mair a arosodd gyd â hi ynghylch tri mis, ac a ddychwelodd i'w thŷ ei hun.

Genedigaeth Ioan Fedyddiwr.

57A'r amser i Elisabeth i esgor a gyflawnwyd: a hi a esgorodd ar fab.

58A'i chymydogion a'i pherthynasau a glywsant fawrhâu o'r Arglwydd ei drugaredd tu ag ati; a hwy a gyd‐lawenychasant â hi.

59A bu, ar yr wythfed dydd, hwy a ddaethant i enwaedu y plentyn; ac yr oeddynt am ei alw ar enw ei dâd, Zechariah.

60A'i fam a atebodd ac a ddywedodd, Nid felly: ond Ioan y gelwir ef.

61A hwy a ddywedasant wrthi, Nid oes neb o'th waedoliaeth a elwir ar yr enw hwn.

62A hwy a wnaethant amnaid ar ei dâd ef, pa beth y mynai efe iddo gael ei alw.

63Ac wedi iddo ofyn am ysgrif‐lech, efe a ysgrifenodd, gan ddywedyd, Ioan yw ei enw ef. A rhyfeddu a wnaethant oll.

64Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd, a'i dafod a ryddhawyd; ac efe a lefarodd, gan fendithio Duw.

65Ac ofn a ddaeth ar bawb oedd yn trigo o'u hamgylch; a thrwy holl fynydd‐dir Judea y soniwyd llawer am yr holl ddywediadau hyn.

66A phawb a'r a'u clywsant a'u gosodasant yn eu calonau, gan ddywedyd, Beth fydd y plentyn hwn? Canys llaw yr Arglwydd hefyd oedd gyd âg ef.

Molawd Zechariah: Iachawdwriaeth Israel.

67A Zechariah ei dâd a lanwyd o'r Yspryd Glân, ac a broffwydodd, gan ddywedyd,

68Bendigedig yw yr Arglwydd, Duw Israel;

Canys efe a dalodd ymweliad,

Ac a wnaeth Brynedigaeth i'w Bobl;

69Ac efe a ddyrchafodd Gorn Iachawdwriaeth i ni,

Yn nhŷ Dafydd ei was:

70Megys y llefarodd drwy enau ei Brophwydi sanctaidd,

Y rhai oedd o'r Dechreuad;

71 Sef, Iachawdwriaeth oddiwrth ein gelynion,

Ac o law pawb a'n cashânt:

72I wneyd trugaredd â'n Tâdau,

Ac i gofio ei Gyfamod sanctaidd:

73Y llw a dyngodd)

Fel y gwasanaethom ef yn gyhoeddus yn ddiofn,

75Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder yn ei olwg ef ein holl ddyddiau.

76A thithau hefyd, blentyn, a gei dy alw yn Brophwyd y Goruchaf;

Canys ti a âi o flaen gwyneb yr Arglwydd, i barotoi ei ffyrdd ef;

77I roddi gwybodaeth Iachawdwriaeth i'w Bobl yn maddeuant eu pechodau,

78O herwydd calon trugaredd ein Duw, trwy yr hon y Wawr‐ddydd o'r uchelder a ymwel a ni,

79I lewyrchu i'r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angeu,

I gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.

80A'r plentyn a gynyddodd, ac a gryfhâwyd mewn yspryd, a bu yn y diffeith‐leoedd hyd ddydd ei ymddangosiad cyhoeddus i Israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help