Ioan 18 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Y Bradychiad[Mat 26:47–56; Marc 14:43–52; Luc 22:47–53]

1Wedi i'r Iesu ddywedyd y pethau hyn, efe a aeth allan gyd â'u Ddysgyblion yn groes i geunant Kedron, lle yr oedd gardd, i'r hon yr aeth efe a'i Ddysgyblion.

2A Judas hefyd, yr hwn oedd yn ei fradychu ef, a adwaenai y lle; oblegyd yn fynych yr ymgynullasai yr Iesu a'i Ddysgyblion yno.

3Judas gan hyny wedi derbyn y gatrawd, ac is‐swyddogion oddi wrth yr Arch‐offeiriad a'r Phariseaid, sydd yn dyfod yno gyd â llusernau a ffaglau ac arfau.

4Yr Iesu gan hyny, yn gwybod yr holl bethau oedd yn dyfod arno, a aeth allan ac a ddywed wrthynt, Pwy yr ydych yn ei geisio?

5Hwy a atebasant iddo, Iesu y Nazarëad. Dywed yr Iesu wrthynt, Myfi yw. Ac yr oedd Judas hefyd, yn hwn oedd yn ei fradychu ef, yn sefyll gyd â hwynt.

6Pan gan hyny y dywedodd efe wrthynt, Myfi yw, hwy a aethant yn ŵysg eu cefnau, ac a syrthiasant ar y ddaear.

7Drachefn gan hyny efe a ofynodd iddynt, Pwy yr ydych chwi yn ei geisio? A hwy a ddywedasant, Iesu y Nazarëad.

8Iesu a atebodd, Mi a ddywedais i chwi mai myfi yw: os gan hyny myfi yr ydych yn ei geisio, gadêwch i'r rhai hyn fyned ymaith;

9fel y cyflawnid y gair yr hwn a ddywedodd efe,

Y rhai yr ydwyt wedi eu rhoddi i mi, ni chollais i yr un o honynt gan hyny a chanddo gleddyf a'i tynodd ef, ac a darawodd was yr Arch‐offeiriad, ac a dorodd ymaith ei glust ddeheu ef. Ac enw y gwas oedd Malchus.

11Dywedodd yr Iesu gan hyny wrth Petr, Dod y cleddyf yn y wain: y Cwpan y mae y Tâd wedi ei roddi i mi, onid yfaf ef?

Y Prawf eglwysyddol: Iesu yn sefyll a Petr yn syrthio.

12Gan hyny y gatrawd a'r Milwriad, ac is‐swyddogion yr Iuddewon, a ddaliasant yr Iesu, ac a'i rhwymasant ef,

13ac a'i harweiniasant at Annas yn gyntaf, canys yr oedd efe yn dad‐yn‐nghyfraith i Caiaphas, yr hwn oedd Arch‐offeiriad y flwyddyn hono.

14A Chaiaphas oedd yr hwn a gynghorasai yr Iuddewon, mai buddiol oedd farw o un dyn dros y bobl.

15Ac yr oedd Simon Petr a Dysgybl arall yn canlyn yr Iesu; ac yr oedd y Dysgybl hwnw yn adnabyddus i'r Arch‐offeiriad, ac efe a aeth i mewn gyd â Iesu i Lys yr Arch‐offeiriad;

16ond Petr oedd yn sefyll wrth y drws oddi allan. Gan hyny y Dysgybl arall, yr hwn oedd adnabyddus gan yr Arch‐offeiriad, a aeth allan, ac a ddywedodd wrth y ddrysores, ac a ddygodd Petr i mewn.

17Gan hyny dywed y forwynig ag oedd ddrysores wrth Petr, A wyt tithau hefyd yn un o Ddysgyblion y dyn hwn? Dywed yntau, Nid wyf.

18Ac yr oedd y gweision a'r is‐swyddogion yn sefyll yno, wedi gwneuthur o honynt dân golosg, canys yr oedd hi yn oer, ac yr oeddynt yn ymdwymo: ac yr oedd Petr hefyd gyd â hwynt yn sefyll ac yn ymdwymo.

19Yr Arch‐offeiriad gan hyny a ofynodd i'r Iesu am ei Ddysgyblion, ac am ei ddysgeidiaeth.

20Iesu a atebodd iddo, Yr ydwyf fi wedi llefaru yn ddigêl wrth y byd: myfi yn wastadol a ddysgais mewn Synagog ac yn y Deml, lle y mae yr holl Iuddewon yn dyfod yn nghyd; ac yn ddirgel ni leferais ddim.

21Paham yr wyt yn gofyn i mi? Gofyn i'r rhai sydd wedi clywed beth a leferais wrthynt: wele, y rhai hyn a wyddant pa bethau a ddywedais i.

22Ac efe wedi dywedyd hyn, un o'r swyddogion yr hwn oedd yn sefyll yn ymyl a darawodd yr Iesu, gan ddywedyd, Ai felly yr wyt ti yn ateb yr Arch‐offeiriad?

23Iesu a atebodd iddo, Os drwg y lleferais, tystiolaetha am y drwg: ond os da, paham y tarewaist fi?

24Annas gan hyny a'i danfonodd ef wedi ei rwymo at Caiaphas yr Arch‐offeiriad.

25Yn awr Simon Petr oedd yn sefyll ac yn ymdwymo. Hwythau gan hyny a ddywedasant wrtho, A wyt tithau hefyd o'i Ddysgyblion ef?

26Yntau a wadodd, ac a ddywedodd, Nid wyf. Dywed un o weision yr Arch‐offeiriad, perthynas i'r hwn y torodd Petr ymaith ei glust, Oni welais i dydi yn yr ardd gyd âg ef?

27Drachefn gan hyny y gwadodd Petr, ac yn ebrwydd ceiliog a ganodd.

Y prawf o flaen y Llys Gwladol[Mat 27:1, 2, 11; Marc 15:1, 2; Luc 23:1–3]

28Y maent yn arwain yr Iesu gan hyny oddi wrth Caiaphas i'r Pretorium: ac yr oedd yn fore iawn; a hwy eu hunain nid aethant i mewn i'r Pretorium, rhag eu halogi, ond fel y gallent fwyta y Pasc.

29Pilat gan hyny a aeth y tu allan atynt hwy, ac y mae yn dywedyd, Pa gyhuddiad yr ydych chwi yn ei ddwyn yn erbyn y dyn hwn?

30Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, oni bai fod hwn yn ddrwg‐weithredwr, ni fuasem ni wedi ei draddodi ef i ti.

31Dywedodd Pilat wrthynt, Cymmerwch chwi ef, a bernwch ef yn ol eich Cyfraith chwi. Dywedodd yr Iuddewon wrtho, Nid cyfreithlawn i ni ladd neb:

32fel y cyflawnid gair yr Iesu, yr hwn a ddywedodd efe, gan arwyddo o ba fath farwolaeth yr oedd efe ar fedr marw yr Iesu, ac a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn Frenin yr Iuddewon?

34Iesu atebodd, Ai a honot dy hun yr wyt ti yn llefaru hyn, ai eraill a ddywedasant i ti am danaf fi?

35Pilat a atebodd, Ai Iuddew yn wir ydwyf fi? Dy Genedl dy hun a'r Arch‐offeiriaid a'th draddodasant ti i mi: beth a wnaethost ti?

36Iesu atebodd, Fy Nheyrnas fy hun nid yw o'r byd hwn: pe o'r byd hwn y byddai fy Nheyrnas fy hun, fy ngweinidogion fy hun a fyddent yn ymorchestu, fel na'm traddodid i'r Iuddewon: ond yn awr nid yw fy Nheyrnas fy hun oddi yma.

37Dywedodd Pilat gan hyny wrtho, Yr wyt gan hyny yn Frenin, onid wyt? Yr Iesu atebodd, Yr wyt ti yn dywedyd hyny: canys Brenin ydwyf. Yr wyf fi wedi fy ngeni i hyn, ac i hyn yr wyf wedi dyfod i'r byd, fel y tystiolaethwn i'r Gwirionedd. Pob un a'r sydd o'r Gwirionedd sydd yn gwrando ar fy llais i.

38Dywed Pilat wrtho, Pa beth yw Gwirionedd? Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a aeth allan drachefn at yr Iuddewon, a dywed wrthynt, Nid wyf fi yn cael dim sail i gyhuddiad ynddo ef.

39Eithr y mae genych chwi arferiad, i mi ollwng un yn rhydd i chwi ar y Pasc: a ewyllysiwch chwi gan hyny i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iuddewon?

40Hwy oll gan hyny a waeddasant drachefn, gan ddywedyd, Nid hwn, ond Barabbas. Yn awr Barabbas oedd ysbeiliwr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help