Actau 6 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Anhawsderau tufewnol: penodiad y Saith, 1–6

1Ac yn y dyddiau hyn, a'r dysgyblion yn amlhau, bu grwgnach gan yr Iuddewon Groegaidd yn erbyn yr Hebreaid, oblegyd fod eu gwragedd gweddwon yn cael eu hesgeuluso yn y gweinyddiad dyddiol.

2A'r Deuddeg, wedi galw y lliaws dysgyblion atynt, a ddywedasant, Nid yw yn ddymunol i ni i roddi gair Duw i fyny á gwasanaethu byrddau.

3Ond edrychwch allan, frodyr, am saith o wyr o'ch plith eich hunain, i'r rhai y dygir tystiolaeth dda, llawn o'r Yspryd a doethineb, y rhai a osodom ni ar y gorchwyl hyn.

4Eithr nyni a ddyfalbarhawn yn y Weddi ac yn ngweinidogaeth y Gair.

5A'r ymadrodd oedd ddymunol yn ngolwg yr holl liaws: a hwy a etholasant Stephan, gwr llawn o ffydd ac o'r Yspryd Glân, a Philip, a Prochorus, a Nicanor, a Timon, a Parmenas, a Nicolas, proselyt o Antiochia:

6y rhai a osodasant hwy gerbron yr Apostolion: ac wedi iddynt weddïo hwy a ddodasant eu dwylaw arnynt.

Stephan o flaen y Sanhedrin, 7–15.

7A Gair Duw oedd yn cynyddu, ac yr oedd rhifedi y dysgyblion yn Jerusalem yn amlhau yn ddirfawr; hefyd tyrfa fawr o'r offeiriaid oeddent yn ufuddhau i'r ffydd.

8A Stephan, yn llawn o ras a gallu, oedd yn gwneuthur rhyfeddodau ac arwyddion mawrion yn mhlith y bobl.

9Ond cyfododd rhai o'r Synagog a elwir eiddo'r Libertiniaid, a'r Cyreniaid, a'r Alexandriaid, a'r rhai o Cilicia ac Asia, gan ymddadleu â Stephan.

10Ac nid oeddent hwy yn alluog i wrth‐sefyll y doethineb a'r Yspryd trwy yr Hwn y llefarai.

11Yna yn ddirgelaidd y cymhellasant ddynion, y rhai a ddywedasant, Nyni ydym wedi ei glywed ef yn dywedyd pethau cableddus mewn perthynas i Moses a Duw.

12Hefyd, hwy a gynhyrfasant y bobl a'r Henuriaid a'r Ysgrifenyddion, a chan ddyfod arno, hwy a'i cipiasant ef gyda hwynt, ac a'i dygasant i'r Sanhedrin;

13hefyd gosodasant dystion gau, y rhai a ddywedasant, Nid yw y dyn hwn yn peidio a dywedyd pethau yn erbyn y lle Sanctaidd, a'r Gyfraith.

14Oblegyd yr ydym wedi ei glywed ef yn dywedyd y dystrywiai yr Iesu, y Nazaread hwn, y lle hwn, ac y cyfnewidiai y defodau a draddododd Moses i ni.

15A phawb oedd yn eistedd yn y Sanhedrin, gan edrych yn graff arno, a welent ei wyneb ef fel gwyneb angel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help