1Fy mhlant bychain, y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, fel na phechoch. Ac os pecha neb, y mae gennym Ddadleuydd gyda'r Tâd, Iesu Grist y Cyfiawn.
2Ac efe yw yr Iawn am ein pechodau ni, ac nid am yr eiddom ni yn unig, ond hefyd am yr holl fyd.
3Ac wrth hyn y gwyddom yr adwaenom ef, os cadwn ni ei orchymynion ef.
4Yr hwn sydd yn dywedyd, Mi a'i hadwaen ef, ac heb gadw ei orchymynion ef, celwyddog yw, a'r gwirionedd nid yw ynddo;
5eithr pwy bynnag a gadwo ei Air ef, yn wir yn hwn y mae Cariad Duw wedi ei berffeithio. Wrth hyn y gwyddom ein bod ynddo ef.
6Yr hwn a ddywed ei fod yn aros ynddo ef a ddylai yntau hefyd rodio fel y rhodiodd efe.
Cariad at y frawdoliaeth.7Anwyliaid, nid gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, ond gorchymyn hen, yr hwn oedd gennych o'r dechreuad: y gorchymyn hen yw y Gair a glywsoch.
8Trachefn, gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, yr hwn beth sydd yn wir ynddo ef ac ynoch chwithau; canys y tywyllwch sydd yn myned heibio, a'r gwirioneddol oleuni sydd eisoes yn tywynnu.
9Yr hwn a ddywed ei fod yn y goleuni, ac a gasâo ei frawd, yn y tywyllwch y mae hyd y pryd hwn.
10Yr hwn sydd yn caru ei frawd sydd yn aros yn y goleuni, ac nid oes achos tramgwydd ynddo ef.
11Eithr yr hwn sydd yn casâu ei frawd, yn y tywyllwch y mae, ac yn y tywyllwch y mae yn rhodio, ac ni ŵyr i ba le y mae yn myned, canys y tywyllwch a ddallodd ei lygaid.
Paham yr ysgrifennwyd yr Epistol.12Ysgrifennu yr wyf atoch chwi, blant bychain, oblegyd maddeu i chwi eich pechodau, er mwyn ei enw ef.
13Ysgrifennu yr wyf atoch chwi, dadau, oblegyd adnabod o honoch yr hwn sydd o'r dechreuad. Ysgrifennu yr wyf atoch chwi, wŷr ieuainc, oblegyd gorchfygu o honoch yr Un Drwg.
14Ysgrifennais atoch, rai bychain, oblegyd adnabod o honoch y Tâd. Ysgrifennais atoch chwi, dadau, oblegyd adnabod o honoch yr hwn sydd o'r dechreuad. Ysgrifennais atoch chwi, wŷr ieuainc, oblegyd eich bod yn gryfion, a bod Gair Duw yn aros ynoch, a'ch bod wedi gorchfygu yr Un Drwg.
Pethau i'w hosgoi.15Na cherwch y byd, na'r pethau sydd yn y byd. Os yw neb yn caru y byd, nid yw cariad y Tâd ynddo.
16Canys pob peth a'r sydd yn y byd, chwant y cnawd, a chwant y llygaid, a gwag‐ogoniant y bywyd, nid yw o'r Tâd, eithr o'r byd y mae.
17A'r byd sydd yn myned heibio, a'i chwant, ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys Duw sydd yn aros yn dragywydd.
Anghrist.18Rai bychain, yr Awr ddiweddaf ydyw; ac fel y clywsoch fod Anghrist yn dyfod, hyd yn nod yn awr mae Anghristiau lawer wedi cyfodi, oddiwrth yr hyn y gwyddom mai yr Awr ddiweddaf ydyw.
19Oddiwrthym ni yr aethant hwy allan, eithr nid oeddynt o honom ni; canys pe buasent o honom ni, hwy a arosasent gyda ni; eithr aethant allan, fel yr amlygid nad ydynt bawb oll o honom ni.
20Ac y mae gennych chwi eneiniad oddiwrth yr Un Sanctaidd, a chwi oll ydych yn gwybod hynny
.Gwadu y Mab a'r Tâd.21Ni ysgrifennais atoch oblegyd na wyddoch y gwirionedd, eithr oblegyd eich bod yn ei wybod, ac oblegyd nad oes unrhyw gelwydd o'r gwirionedd.
22Pwy yw y celwyddog ond yr hwn sydd yn gwadu nad Iesu yw y Crist? Hwn yw yr Anghrist, sef yr hwn sydd yn gwadu y Tâd a'r Mab.
23Pob un a'r sydd yn gwadu y Mab, nid yw y Tâd chwaith ganddo; yr hwn sydd yn cyffesu y Mab, y mae y Tâd ganddo hefyd.
24Chwychwi, yr hyn a glywsoch o'r dechreuad, arhosed ynoch; os ynoch yr erys yr hyn a glywsoch o'r dechreuad, chwithau hefyd a gewch aros yn y Mab ac yn y Tâd.
25A hon ydyw yr Addewid a addawodd ef i ni, sef bywyd tragwyddol.
26Y pethau hyn a ysgrifennais atoch ynghylch y rhai sydd yn eich arwain ar gyfeiliorn.
27A chwychwi, y mae yr eneiniad a dderbyniasoch ganddo ef yn aros ynoch chwi, ac nid oes arnoch angen i neb eich dysgu, eithr fel y mae ei eneiniad ef yn eich dysgu chwi ynghylch pob peth — ac y mae yn wir ac nid yw gelwydd — ac megys y dysgodd efe chwi, arhoswch ynddo ef.
28Ac yn awr, blant bychain, arhoswch ynddo Ef, fel, os amlygir ef, y byddo gennym hyfder, ac na chiliom mewn cywilydd oddiwrtho yn ei Ddyfodiad.
29Os gwyddoch ei fod ef yn gyfiawn, gwyddoch fod pob un hefyd sydd yn gwneuthur cyfiawnder wedi ei genhedlu o hono ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.