Dadguddiad Ioan 9 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Y Pumed Udgorn.

1A'r pumed angel a udganodd, a gwelais seren wedi syrthio o'r nef i'r ddaear; a rhoddwyd iddo ef agoriad pydew Annwn.

2Ac efe a agorodd bydew Annwn, ac esgynnodd mwg o'r pydew, fel mwg ffwrn fawr; a thywyllwyd yr haul a'r awyr gan fwg y pydew.

3Ac o'r mwg y daeth allan locustiaid ar y ddaear, a rhoddwyd awdurdod iddynt, fel y mae gan ysgorpionnau y ddaear awdurdod.

4A dywedwyd wrthynt na niweidient laswellt y ddaear, na dim sydd wyrddlas, nac un pren, ond yn unig y cyfryw ddynion sydd heb ganddynt sêl Duw ar eu talcennau.

5A rhoddwyd iddynt na laddent hwynt, ond bod iddynt gael eu dirboeni bum mis; a'u dirboeniad hwy oedd fel dirboeniad ysgorpion, pan fratho efe ddyn.

6Ac yn y dyddiau hynny y cais y dynion farwolaeth, ac nis cânt mewn un modd; a chwenychant farw, ond ffoi y mae marwolaeth oddi wrthynt.

Y Locustiaid

7A ffurfiau y locustiaid oeddent yn debyg i feirch wedi eu parotôi i ryfel; ac ar eu pennau megys coronau yn debyg i aur, a'u hwynebau fel wynebau dynion.

8A gwallt oedd ganddynt fel gwallt gwragedd, a'u dannedd oedd fel dannedd llewod.

9Ac yr oedd ganddynt lurigau fel llurigau haiarn; a swn eu hadenydd oedd fel swn cerbydau meirch lawer yn rhedeg i ryfel.

10Ac y mae ganddynt gynffonnau tebyg i ysgorpionnau, a cholynnau; ac yn eu cynffonnau y mae eu gallu i niweidio dynion bum mis.

11Mae ganddynt frenin arnynt, angel Annwn: ei enw yn Hebraeg yw Abadon, ac yn yr iaith Roeg y mae ganddo yr enw Apolyon.

12Y wae gyntaf aeth heibio; wele, y mae yn dyfod eto ddwy wae ar ol hyn.

Y Chweched Udgorn.

13A'r chweched angel a udganodd, a chlywais lais o gyrn yr allor aur,

14yr hon sydd ger bron Duw, un yn dywedyd wrth y chweched angel, yr hwn oedd â'r udgorn ganddo, Gollwng yn rhydd y pedwar angel sydd yn rhwym wrth yr afon fawr Euphrates.

15A gollyngwyd y pedwar angel, y rhai oeddent wedi eu parotoi erbyn yr awr a dydd a mis a blwyddyn, fel y lladdent drydedd ran y dynion.

16A rhifedi y byddinoedd o'r gwŷr meirch oedd ddwy fyrddiwn o fyrddiynnau: clywais eu rhifedi.

17Ac fel hyn y gwelais y meirch yn y weledigaeth, a'r rhai oedd yn eistedd arnynt, a chanddynt lurigau o liw tân a glas‐ddu a melyn; ac y mae pennau y meirch fel pennau llewod; ac y mae yn dyfod allan o'u safnau dân a mwg a brwmstan.

18Gan y tri phla hyn y lladdwyd trydedd ran y dynion, gan y tân a chan y mwg a chan y brwmstan oedd yn dyfod allan o'u safnau hwynt.

19Canys gallu y meirch sydd yn eu safn, ac yn eu cynffonnau; canys eu cynffonnau oedd debyg i seirph, a phennau ganddynt; ac â'r rhai hynny y maent yn niweidio.

20A'r gweddill o ddynion, y rhai ni laddwyd gan y pläau hyn, nid edifarhasant am weithredoedd eu dwylaw, fel nad addolent gythreuliaid ac eilunod o aur, ac o arian, ac o bres, ac o faen, ac o goed; y rhai ni allant na gweled, na chlywed, na rhodio.

21Ac nid edifarhasant o herwydd eu llofruddiaethau nac o herwydd eu swyn‐gyfareddion, nac o herwydd eu godineb, nac o herwydd eu lladradau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help