1A Phaul, gan edrych yn graff ar y Sanhedrin, a ddywedodd, O Wyr Frodyr, yr wyf fi wedi byw fel dinesydd i Dduw, mewn pob cydwybod dda, hyd y dydd hwn.
2A'r Arch‐offeiriad Ananias a archodd i'r rhai oedd yn sefyll yn ei ymyl ei daro ef ar ei enau di, bared wedi ei wyn‐galchu: ac a ydwyt ti yn eistedd i'm barnu i yn ol y Gyfraith, a chan droseddu'r Gyfraith yn gorchymyn fy nharo i?
4A'r rhai oedd yn sefyll yn ymyl a ddywedasant, A ddifenwi di Archoffeiriad Duw?
5A dywedodd Paul, Ni wyddwn i, frodyr, ei fod yn Arch‐offeiriad; canys y mae yn ysgrifenedig, Am benaeth dy bobl na ddywed yn ddrwg.
6A Phaul, yn gwybod fod un rhan o'r Saduceaid, a'r llall o'r Phariseaid, a waeddodd yn y Sanhedrin, O wyr frodyr, Pharisead wyf fi, mab i Phariseaid: am y Gobaith ac Adgyfodiad y Meirw y'm bernir i.
7Ac wedi iddo ddywedyd hyn, cyfododd ymryson rhwng y Phariseaid a'r Saduceaid: a rhanwyd y lluaws.
8Canys y Saduceaid yn wir a ddywedant nad oes Adgyfodiad, nac angel nac yspryd; eithr y Phariseaid ydynt yn addef y ddau.
9A bu gwaedd fawr, a chododd i fyny rai o'r Ysgrifenyddion oedd o ran y Phariseaid, ac a ymrysonasant, gan ddywedyd, Nid ydym ni yn cael dim drwg yn y dyn hwn: eithr pa beth os yspryd a lefarodd wrtho neu angel?
10A therfysg mawr wedi cyfodi, y Milwriad, yn ofni y tynid Paul yn ddrylliau ganddynt, a orchymynodd i'r llu fyned i waered, a'i gipio ef o'u canol hwynt, a'i ddwyn i'r Gwersyll‐dy.
Gweledigaeth Nefol a bradwriaeth uffernol.11A'r nos ganlynol, yr Arglwydd a safodd yn ei ymyl, a dywedodd, Ymgalonoga,; canys megys y tystiolaethaist am danaf i Jerusalem, felly y mae yn rhaid i ti dystiolaethu hefyd i Rufain.
12A phan aeth hi yn ddydd, yr Iuddewon a wnaethant gytundeb, ac a rwymasant eu hunain drwy lw, gan ddywedyd na fwytaent ac nac yfent hyd nes y lladdent Paul.
13Ac yr oedd mwy na deugain a wnaethant y cynghrair hwn.
14A'r cyfryw a ddaethant at yr Arch‐offeiriaid a'r Henuriaid, ac a ddywedasant, Yr ydym wedi tynghedu ein hunain trwy lw nad archwaethwn ddim hyd nes y lladdem Paul.
15Yn awr, gan hyny, gwnewch chwi ynghyd a'r Sanhedrin egluro i'r Milwriad, fel y dygo ef i waered atoch, fel pe buasech ar fedr cael gwybod yn gywirach y pethau yn ei gylch ef; a ninau, cyn y delo efe yn agos, ydym barod i'w ladd ef.
16A phan glybu mab chwaer Paul y cynllwyn, wedi cyrhaedd a myned i mewn i'r Gwersyll‐dy, efe a fynegodd i Paul.
17A Paul, wedi galw un o'r Canwriaid ato, a ddywedodd, Dwg y gwr ieuangc hwn at y Milwriad, canys y mae ganddo beth i'w fynegu iddo.
18Efe gan hyny a'i cymerodd ac a'i dyg at y Milwriad, ac a ddywedodd, Paul y carcharor a'm galwodd i ato, ac a ofynodd i mi ddwyn y gwr ieuangc hwn atat, a chanddo rywbeth i'w ddywedyd wrthyt.
19A'r Milwriad a'i cymerodd ef erbyn ei law, ac a aeth o'r neilldu, ac a ofynodd iddo yn ddirgel, Beth yw yr hyn sydd genyt i'w fynegu i mi?
20Ac efe a ddywedodd, Yr Iuddewon a gytunasant i ofyn i ti ddwyn Paul i waered yfory i'r Sanhedrin, fel pe baet ar fedr ymofyn yn gywirach yn ei gylch.
21Am hyny na pherswadier di ganddynt, canys y mae yn cynllwyn yn ei erbyn fwy na deugain gwr o honynt, yn gyfryw ag a rwymasant eu hunain drwy lw na fwytaent, nac yfent nes ei ladd: ac yn awr y maent yn barod, gan ddisgwyl am yr addewid oddiwrthyt.
22Y Milwriad gan hyny a ollyngodd ymaith y gwr ieuangc, wedi gorchymyn na ddywedai i neb i ti hyspysu y pethau hyn i mi.
23Ac wedi galw ato ryw ddau o'r Canwriaid, dywedodd, Parotowch ddau gant o filwyr, fel yr elont hyd Cesarea, a deg a thri‐ugain o wyr meirch, a dau gant o bicellwyr, ar y drydedd awr o'r nos:
24hefyd dywedodd wrthynt ddarparu anifeiliaid, gan osod Paul arnynt, i'w ddwyn yn ddyogel at Ffelix y Rhaglaw.
Danfoniad Paul i Cesarea.25Ac efe a ysgrifenodd lythyr yn ol y ffurf hon:
26Claudius Lysias at yr Ardderchocaf Raglaw Ffelix, bydd wych.
27Y gwr hwn wedi ei ddal gan yr Iuddewon, ac ar fedr ei ladd ganddynt, a achubais i, gan ddyfod ar eu gwarthaf gyda llu, wedi dysgu mai Rhufeiniwr oedd.
28Ac yn ewyllysio gwybod yr achos ar gyfrif yr hwn y cyhuddent ef, mi a'i dygais ef i waered i'w Sanhedrin hwynt.
29A chefais ei fod yn cael ei gyhuddo ynghylch cwestiynau o'u Cyfraith hwy, heb un cyhuddiad yn haeddu angau neu rwymau.
30A phan hyspyswyd i mi fod cynllwyn yn erbyn y gwr, allan o law danfonais ef atat ti, gan erchi i'w gyhuddwyr ef hefyd i lefaru yn ei erbyn ger dy fron di.
31Y milwyr yn wir gan hyny, megys y gorchymynasid iddynt, a gymerasant Paul, ac a'i dygasant ar hyd nos i Antipatris.
32A thranoeth, hwy a adawsant i'r gwyr meirch fyned gydag ef, ac a ddychwelasant i'r Gwersyll‐dy.
33Y cyfryw, wedi dyfod i Cesarea, a rhoddi i fyny y llythyr i'r Rhaglaw, a gyflwynasant Paul hefyd iddo.
34Ac wedi darllen y llythyr, a gofyn o ba fath dalaeth yr ydoedd, a deall ei fod o Cilicia:
35Mi a'th wrandawaf trwodd, eb efe, pan gyrhaeddo dy gyhuddwyr hefyd, gan orchymyn ar ei gadw yn mhalasdy swyddogol Herod.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.