1Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, y mae rhai yma o'r rhai sydd yn sefyll, ni phrofant angeu ddim, hyd oni welant Deyrnas Dduw wedi dyfod mewn gallu.
Trawsffurfiad Crist[Mat 17:1–9; Luc 9:29–36]2Ac wedi chwe diwrnod, y mae yr Iesu yn cymmeryd gyd âg ef Petr, ac Iago, ac Ioan, ac yn eu dwyn hwynt i fynydd uchel o'r neilldu, wrthynt eu hunain: ac efe a drawsffurfiwyd yn eu gŵydd hwynt.
3A'i ddillad ef a aethant yn ddysglaer‐wych, yn gànaid iawn eu cànu.
4Ac ymddangosodd iddynt Elias, gyd â Moses: ac yr oeddynt yn ymddiddan â'r Iesu.
5A Phetr a atebodd ac a ddywed wrth yr Iesu, Rabbi, da yw i ni fod yma: a bydded i ni wneuthur tair pabell, un i ti, ac un i Moses, ac un i Elias.
6Canys ni wyddai efe beth i ateb; canys yr oeddynt yn llawn dychryn.
7Ac yr oedd cwmwl yn cysgodi drostynt a daeth llais allan o'r cwmwl,
Hwn yw fy anwyl Fab: gwrandêwch ef]
8Ac yn ddisymwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwyach, ond yr Iesu yn unig gyd â hwy eu hunain.
9Ac fel yr oeddynt yn dyfod i waered o'r mynydd, efe a orchymynodd iddynt na adroddent i neb y pethau a welsant, ond pan adgyfodai Mab y Dyn o feirw.
10A hwy a gadwasant yn ffyddlon yr ymadrodd, gan gyd‐ymholi â hwy eu hunain beth yw yr adgyfodi o feirw.
Dau ddyfodiad Elias[Mat 16:10–13]11A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Yr Ysgrifenyddion a ddywedant fod yn rhaid i Elias ddyfod yn gyntaf.
12Ac efe a ddywedodd wrthynt, Elias yn wir, wedi dyfod yn gyntaf, a edfryd bob peth. A pha fodd y mae yn ysgrifenedig am Fab y Dyn? Y bydd iddo ddyoddef llawer, ac y dirmygid ef.
13Ond meddaf i chwi fod Elias hefyd wedi dyfod, a gwnaethant iddo pa beth bynag a fynasant, fel yr ysgrifenwyd am dano at y Dysgyblion, hwy a welsant dyrfa fawr o'u hamgylch, ac Ysgrifenyddion yn cyd‐ymholi â hwynt.
15Ac yn ebrwydd yr holl dyrfa, pan ei gwelsant ef, a lanwyd â syndod, ac a redasant tu ag ato, ac a'i cyfarchasant ef.
16Ac efe a ofynodd iddynt, Pa gyd‐ymholi yr ydych â hwynt?
17Ac un o'r dyrfa a atebodd iddo, Athraw, mi a ddygais fy mab atat, âg yspryd mud ynddo.
18A pha le bynag y cymmer afael arno, y mae yn ei daflu i lawr, ac y mae efe yn malu ewyn, ac a ysgyrniga ddanedd, ac y mae yn dihoeni: a mi a ddywedais wrth dy Ddysgyblion ar iddynt ei fwrw ef allan, ac nis gallasant.
19Ac efe a atebodd iddynt, ac a ddywed, O genedlaeth anffyddiog! hyd pa bryd y byddaf gyd â chwi? hyd pa bryd y gwnaf gyd‐ddwyn â chwi? dygwch ef ataf fi.
20A hwy a'i dygasant ef ato: a phan welodd ef, yn ebrwydd yr yspryd a'i dirdynodd ef; a chan syrthio ar y ddaear, efe a ymdreiglodd, gan falu ewyn.
21Ac efe a ofynodd i'w dâd ef, Pa gymmaint o amser sydd er y mae hyn wedi dygwydd iddo? Ac efe a ddywedodd, Er yn fachgenyn.
22A mynych y taflodd efe ef i'r tân, ac hefyd i'r dyfroedd, fel y dyfethai efe ef: ond, os gelli di ddim, cymmorth ni, gan gymmeryd tosturi arnom.
23A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Os gelli! pob peth a all fod i'r neb a gredo.
24Ac yn ebrwydd tâd y bachgenyn a lefodd allan, ac a ddywedodd, Yr wyf yn credu: cymmorth fy anghrediniaeth.
25A phan welodd yr Iesu fod tyrfa yn cyd‐redeg tu ag ato, efe a geryddodd yr yspryd aflan, ac a ddywedodd wrtho, Tydi yspryd mud a byddar, yr wyf yn gorchymyn i ti, tyred allan o hono, ac na ddos mwyach iddo ef.
26Ac wedi llefain allan, a dirdynu llawer arno, efe a ddaeth allan, ac efe a aeth fel un marw, fel y dywedodd y llaweroedd ei fod wedi marw.
27A'r Iesu a afaelodd yn ei law, ac a'i cyfododd ef, ac efe a safodd i fyny.
28Ac wedi iddo fyned i mewn i dŷ, ei Ddysgyblion a ofynasant iddo o'r neilldu, Paham na allem ni ei fwrw ef allan?
29Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y rhyw hwn ni all ddyfod allan trwy ddim ond trwy weddi.
Crist yn rhag‐fynegi yr ail waith ei farwolaeth[Mat 17:22, 23; Luc 9:43–45]30Ac wedi myned allan oddi yno, hwy a ymdeithiasant trwy Galilea; ac ni fynai efe i neb wybod.
31Canys yr oedd efe yn dysgu ei Ddysgyblion, ac yn dywedyd wrthynt, Y mae Mab y Dyn yn cael ei draddodi i ddwylaw dynion, a hwy a'i lladdant ef, ac wedi ei ladd, ar ol tridiau efe a adgyfyd.
32Ond nid oeddynt hwy yn deall yr ymadrodd, ac yr oeddynt yn ofni gofyn iddo.
Mawredd yn y Deyrnas: y plentyn bychan[Mat 18:1–5; Luc 9:46–48]33A hwy a ddaethant i Capernaum: a phan ddaeth efe i'r tŷ, efe a ofynodd iddynt, Am beth yr oeddych yn ymresymu ar y ffordd?
34Ond hwy a dawsant â sôn; canys yn eu plith eu hunain yr ymddadleuasant ar y ffordd, pwy a fyddai fwyaf.
35Ac efe a eisteddodd, ac a alwodd y Deuddeg, ac a ddywed wrthynt, Os myn neb fod yn gyntaf, efe a fydd olaf o bawb, a gwas i bawb.
36Ac efe a gymmerodd fachgenyn, ac a'u gosododd ef yn eu canol hwynt; ac wedi iddo ei gofleidio yn ei freichiau, efe a ddywedodd wrthynt,
37Pwy bynag a dderbynio un o'r cyfryw blant bychain yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i: a phwy bynag sydd yn fy nerbyn i, nid myfi y mae efe yn ei dderbyn, eithr yr Hwn a'm danfonodd i.
Gofyniad Ioan[Mat 10:42; Luc 9:49, 50]38Ioan a lefarodd wrtho, gan ddywedyd, Athraw, ni a welsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, ac ni a waharddasom iddo, am nad oedd yn ein canlyn ni.
39A'r Iesu a ddywedodd, Na waherddwch iddo; canys nid oes neb a wna weithred nerthol yn fy enw i a all yn fuan roddi drygair i mi.
40Canys y neb nid yw i'n herbyn, o'n tu y mae.
41Canys pwy bynag a roddo i chwi i'w yfed gwpanaid o ddwfr yn yr enw, sef o herwydd eich bod yn perthyn i Grist, yn wir meddaf i chwi, ni chyll efe o gwbl ei wobr.
42A phwy bynag a rwystro un o'r rhai bychain hyn sydd yn credu ynof fi, gwell yw iddo pe rhoddid maen mawr melin am ei wddf, a'i daflu i'r môr.
43Ac os dy law a'th rwystra, tôr hi ymaith: gwell i ti fyned i mewn i'r bywyd yn anafus, nag â dwy law genyt fyned ymaith i Gehenna, i'r tân anniffoddadwy.
44
45Ac os dy droed a'th rwystra, tor hi ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, nag â dwy droed genyt dy daflu i Gehenna.
46
47Ac os dy lygad a'th rwystra, tyn ef allan: gwell i ti fyned i mewn i Deyrnas Dduw yn un‐llygeidiog, nag â dau lygad genyt dy daflu i Gehenna;
48lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd.
49Canys pob un a helltir â thân.
50Da yw yr halen: ond os a yr halen yn ddihallt, â pha beth y pereiddiwch ef? Bydded fod genych halen ynoch eich hunain, a byddwch heddychlawn â'ch gilydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.