1Canys pob Arch‐offeiriad, yr hwn o blith dynion a gymerir, a benodir dros ddynion yn y pethau sydd tuag at Dduw, fel yr offrymo roddion ac aberthau dros bechodau,
2yn gallu cyd‐ddwyn yn dosturiol â'r rhai sydd yn anwybodus ac yn cyfeiliorni, gan ei fod ef ei hun yn cael ei amgylchu â gwendid,
3ac o herwydd hyn y dylai, megys dros y bobl, felly hefyd drosto ei hun, offrymu am bechodau.
4Ac ni chymer neb yr anrhydedd iddo ei hun ond pan yn alwedig gan Dduw, megys Aaron hefyd.
Awdurdod ac Anrhydedd Arch‐offeiriadaeth Crist.5Felly hefyd y Crist ni ogoneddodd ei hun i ddyfod yn Arch‐offeiriad, ond yr hwn a lefarodd wrtho,
Fy Mab ydwyt ti,
Myfi heddyw a'th genhedlais;
6Megys y mae hefyd yn dywedyd mewn lle arall,
Tydi wyt offeiriad yn dragywydd
Yn ol urdd Melchisedec.
7Yr hwn yn nyddiau ei gnawd, wedi iddo gyda llefain cryf a dagrau offrymu deisyfiadau ac ymbiliau at yr hwn oedd alluog i'w achub o farwolaeth, a chael ei wrandaw o herwydd ei ofn duwiol,
8er ei fod yn Fab, ddysgodd ufudd‐dod trwy y pethau a ddyoddefodd,
9ac wedi ei berffeithio yn awdwr iachawdwriaeth dragwyddol i'r rhai oll sydd yn ufuddhau iddo,
10wedi ei gyfarch gan Dduw yn Arch‐offeiriad yn ol urdd Melchisedec.
Diffyg cynnydd yn y Cristionogion Hebreig.11Ac am dano ef y mae gennym lawer gair i'w ddywedyd ac anhawdd ei ddeongli, am eich bod wedi myned yn hwyr‐drwm eich clustiau;
12canys lle y dylech fod yn athrawon o ran amser, y mae arnoch drachefn angen rhywun i ddysgu i chwi elfennau egwyddorion cyntaf Oraclau Duw, ac aethoch yn rai y mae arnoch angen llaeth, ac nid bwyd cryf.
13Canys pob un a'r sydd yn cyfranogi o laeth, dibrofiad yw o air cyfiawnder; canys maban yw.
14Eithr bwyd cryf a berthyn i'r rhai addfed, y rhai o herwydd cynefindra sydd a'u synwyrau wedi eu hymarfer i wahaniaethu rhwng da a drwg.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.