1Ac efe a edrychodd i fyny, ac a welodd y rhai goludog yn bwrw eu rhoddion i'r Drysorfa.
2Ac efe a welodd ryw wraig weddw dlawd iawn yn bwrw yno ddwy hatling sydd ganddynt a fwriasant at y rhoddion; eithr hon o'i phrinder a fwriodd yr holl fodd i fyw oedd ganddi.
Yn rhag‐fynegi diwedd yr Oes, a'r hyn a gyd‐fynedai[Mat 24:1–14; Marc 13:1–13]5Ac fel yr oedd rhai yn dywedyd am y Deml, ei bod wedi ei haddurno â meini prydferth ac offrymau cysegredig, efe a ddywedodd,
6O berthynas i'r pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt, y dyddiau a ddeuant yn y rhai ni adewir yma faen ar faen, a'r nis datodir yn hollol.
7A hwy, a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athraw, Pa bryd gan hyny y bydd y pethau hyn? A pha arwydd fydd pan fyddo y pethau hyn ar ddyfod?
8Ac efe a ddywedodd, Edrychwch na'ch cam‐arweinier chwi: canys llawer a ddeuant yn fy enw i wedi neshâu: nac ewch ar eu hol hwynt.
9Eithr pan glywoch am ryfeloedd a therfysgoedd, na frawycher chwi; canys rhaid i'r pethau hyn fod yn gyntaf: ond nid yw y diwedd yn y man.
10Yna y dywedodd efe wrthynt, Cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas:
11a bydd hefyd ddaear‐grynfäau mawrion, ac mewn manau newynau a heintiau; ac ymddangosiadau echrydus, ac hefyd arwyddion mawrion a fydd o'r Nef.
12Eithr o flaen hyn oll, hwy a roddant arnoch eu dwylaw, ac a'ch erlidiant, ac a'ch traddodant i'r Synagogau a charcharau, wedi eich arwain ymaith o flaen Breninoedd a Llywodraethwyr, er mwyn fy enw i.
14Gosodwch hyn gan hyny yn eich calonau: i beidio rhagfyfyrio.
15Canys Myfi a roddaf i chwi enau a doethineb, yr hon nis gall eich holl wrthwynebwyr ei gwrth‐sefyll na'i gwrth‐ddywedyd.
16A chwi a draddodir i fyny hyd y nôd gan rieni, a brodyr, a pherthynasau, a chyfeillion; a hwy a roddant rai o honoch i farwolaeth.
17A chwi a fyddwch gas gan bawb o herwydd fy enw i.
18Ac eto blewyn o'ch pen chwi ni chollir ddim:
19yn eich dyfal‐barhâd amyneddgar chwi a enillwch eich eneidiau.
Dinystr a chaethglud[Mat 24:15–22; Marc 13:14–20]20Ond pan weloch Jerusalem yn cael ei hamgylchu gan fyddinoedd, yna gwybyddwch fod ei Hanghyfanedd‐dra hi wedi neshâu.
21Yna bydded i'r rhai a fyddant yn Judea ffoi i'r mynyddoedd: a bydded i'r rhai a fyddant yn ei chanol hi ymadael allan o honi; ac na fydded i'r rhai a fyddant yn y wlad fyned i mewn iddi.
22Canys dyddiau cyfiawn daledigaeth yw y rhai hyn, i gyflawnu yr holl bethau sydd wedi eu hysgrifenu.
23Gwae y rhai beichiogion, a'r rhai yn rhoi bronau yn y dyddiau hyny! Canys bydd cyfyngder mawr ar y ddaear, a digofaint ar y bobl hyn.
24A hwy a syrthiant trwy fin y cleddyf, a chaethgludir hwynt i bob cenedl: a Jerusalem a fydd yn cael ei mathru gan Genedloedd, hyd oni chyflawner amseroedd y Cenedloedd.
Arwyddion o'r Diwedd[Mat 24:29–31; Marc 13:24–27]25A bydd arwyddion mewn haul, a lleuad, a sêr; ac ar y ddaear gyfyngder Cenedloedd mewn dyryswch wrth ruad y môr a'i ymchwydd:
26dynion yn llewygu ymaith gan ofn a dysgwyliad o'r pethau sydd yn dyfod ar y byd trigianol: oblegyd Galluoedd y Nefoedd a ysgydwir.
27Ac yna y gwelant Fab y Dyn yn dyfod mewn cwmwl gyd â gallu a gogoniant mawr,.
28Ond pan ddechreuo y pethau hyn ddyfod, sefwch yn union‐syth, a chodwch eich penau, canys y mae eich gwaredigaeth yn neshâu.
Dammeg y Ffigys‐bren, proffwyd yr Hâf[Mat 24:32–35; Marc 13:28–31]29Ac efe a lefarodd ddammeg wrthynt: Gwelwch y ffigys‐bren a'r holl brenau:
30pan ddeiliant hwy weithian, wrth ddal sylw yr ydych yn gwybod o honoch eich hunain fod yr hâf yn agos.
31Felly chwithau hefyd, pan weloch y pethau hyn yn dygwydd, gwybyddwch fod Teyrnas Dduw yn agos.
32Yn wir, meddaf i chwi, nid â y genedlaeth hon heibio ddim, hyd oni ddêl y cwbl i ben.
33Y Nef a'r ddaear a ânt heibio: ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.
Y ddyledswydd o wylio[Mat 24:36–42; Marc 13:32–33]34Ond ystyriwch arnoch chwi eich hunain, rhag un amser i'ch calonau gael eu gorlwytho âg effeithiau glythineb, a meddwdod, a phryderon bywyd, a'r Dydd hwnw ddyfod arnoch yn ddisymwth magl;
35canys felly y daw efe i mewn ar bawb a'r sydd yn eistedd yn dawel dros wyneb yr holl ddaear.
36Eithr gwyliwch chwi yn mhob tymhôr, gan wneyd deisyfiadau, fel y caffoch nerth i ddianc rhag y pethau hyn oll sydd ar ddyfod, ac i sefyll ger bron Mab y Dyn.
37Ac yr oedd efe ar hyd y dyddiau hyny yn dysgu yn y Deml: ond y nosweithiau yr oedd efe yn myned allan i dreulio y nos yn y Mynydd a elwir Olew‐wydd.
38A'r holl bobl a gyrchent gyd â'r wawr ato yn y Deml, i wrando arno.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.