1A Saul oedd yn cydsynio i'w ladd ef. A bu y dydd hwnw erlid mawr ar yr Eglwys oedd yn Jerusalem; a phawb a wasgarwyd ar hyd gwledydd Judea a Samaria, oddi gerth yr Apostolion.
2A gwyr duwiol‐frydig a hebryngasant Stephan i'w fedd, ac a wnaethant alar mawr am dano ef.
3Eithr Saul oedd yn anrheithio yr Eglwys, gan fyned i mewn i bob ty, a chan lusgo allan wyr a gwragedd, efe a'u traddododd i garchar.
4Y rhai a wasgarwyd, gan hyny, a dramwyasant, gan bregethu y Gair.
Llwyddiant yn Samaria: Philip a Simon, 5–13.5A Philip a aeth i waered i Ddinas Samaria, ac a bregethodd iddynt y Crist.
6A'r tyrfaoedd yn unfryd a dalasant sylw i'r pethau a ddywedid gan Philip, pan yn clywed a gweled yr arwyddion yr oedd efe yn eu gwneuthur.
7Canys llawer o'r rhai a berchenogid gan ysprydion aflan (y rhai gan waeddu â llef uchel, a ddaethant allan), a llawer o'r rhai oedd wedi eu parlysu, ac o'r cloffion, a iachawyd.
8Ac yr oedd llawenydd mawr yn y ddinas hono.
9Eithr rhyw wr o'r enw Simon oedd o'r blaen yn y ddinas yn swyno ac yn synu pobl Samaria, gan ddywedyd ei fod ef ei hun yn rhyw Un Mawr;
10i'r hwn yr oedd pawb, o fychan hyd fawr, yn talu sylw, gan ddywedyd, Hwn yw Gallu Duw yr hwn a elwir Mawr.
11A hwy a dalasant sylw iddo, o herwydd ei fod am gryn amser wedi eu synu hwy â'i swynion:
12ond pan gredasant Philip yn pregethu ynghylch Teyrnas Dduw ac enw Iesu Grist, hwy a fedyddiwyd yn wyr ac yn wragedd.
13A Simon, yntau hefyd a gredodd, ac, wedi ei fedyddio a ddyfalbarhaodd gyda Philip: ac wrth weled yr arwyddion a'r galluoedd mawrion a wnelid, efe a synodd.
Petr ac Ioan yn cael eu hanfon i Samaria: Rhyfyg Simon y Swynwr, 14–25.14A phan glybu yr Apostolion oedd yn Jerusalem fod Samaria wedi derbyn Gair Duw, hwy a anfonasant atynt Petr ac Ioan:
15y cyfryw rai, wedi dyfod i waered, a weddiasant drostynt, fel y derbynient yr Yspryd Glân:
16canys hyd yn hyn nid oedd wedi syrthio ar neb o honynt, ond yn unig yr oeddent wedi eu bedyddio i.
18A Simon, yn gweled mai trwy osodiad dwylaw yr Apostolion y rhoddid yr Yspryd Glân, a ddygodd arian iddynt,
19gan ddywedyd, Rhoddwch i minau hefyd yr awdurdod hon, fel ar bwy bynag y gosodwyf ddwylaw, y derbynio yr Yspryd Glân.
20Eithr Petr a ddywedodd wrtho, Bydded dy arian gyda thydi i ddystryw, am i ti dybied y meddienid Rhodd Duw trwy arian.
21Nid oes i ti na rhan nac etifeddiaeth yn y mater hwn: canys nid yw dy galon yn uniawn gyda Duw.
22Edifarhâ gan hyny am dy ddrygioni hwn, a deisyf ar yr Arglwydd, os o bosibl dy galon.
23Canys yr wyf yn gweled dy fod yn.
24A Simon a atebodd ac a ddywedodd, Deisyfwch chwi drosof fi ar yr Arglwydd, fel na ddel dim arnaf o'r pethau yr ydych wedi eu dywedyd.
25Hwythau yn wir gan hyny, wedi iddynt dystiolaethu a llefaru Gair yr Arglwydd, a ddychwelasant i Jerusalem, ac a bregethasant i lawer o bentrefi y Samariaid.
Philip a'r Eunuch, 26–40.26Ond angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Philip, gan ddywedyd, Cyfod, a dos tua'r Deheu i'r ffordd sydd yn myned i waered o Jerusalem i Gaza: yr hon sydd anial.
27Ac efe a gyfododd ac a aeth: ac wele gwr o Ethiop, Eunuch, swyddog uchel i Candace, brenhines yr Ethiopiaid, yr hwn oedd ar ei holl drysor hi, oedd wedi dyfod i addoli i Jerusalem;
28ac yr oedd yn dychwelyd, ac yn eistedd yn ei gerbyd, ac yn darllen yn hyglyw y Prophwyd Esaiah.
29A dywedodd yr Yspryd wrth Philip, Dos at a glyn wrth y cerbyd hwn.
30A Philip a redodd ato, ac a'i clywodd ef yn darllen Esaiah y Prophwyd, ac a ddywedodd, A wyt ti o gwbl yn deall y pethau yr wyt yn eu darllen?
31Ac efe a ddywedodd, Pa fodd y gallaf, oddi eithr i rywun fy nghyfarwyddo i? ac efe a wahoddodd Philip i fyned i fyny ac eistedd gydag ef.
32A'r adran o'r Ysgrythyr yr oedd yn ei darllen oedd hon:
Fel dafad i'r lladdfa yr arweiniwyd ef;
Ac fel oen gerbron ei gneifiwr yn fud,
Felly nid yw yn agor ei enau:
33Yn ei Ddarostyngiad ei farn a dynwyd ymaith:
Pwy a ddesgrifia ei genedlaeth ef?
Canys dygir ymaith oddiar y ddaear ei fywyd ef.
34A'r Eunuch a atebodd Philip ac a ddywedodd, Atolwg i ti, am bwy y mae y Prophwyd yn dywedyd hyn? am dano ei hun, neu am ryw un arall?
35A Philip a agorodd ei enau, a chan ddechreu o'r Ysgrythyr hon, efe a bregethodd iddo yr Iesu.
36-37Ac fel yr oeddent yn myned ar hyd y ffordd, hwy a ddaethant at ryw ddwfr; a'r Eunuch a ddywed, Wele ddwfr, beth sydd yn lluddias fy medyddio?
38Ac efe a orchymynodd sefyll o'r cerbyd a hwy a aethant i waered ill dâu i'r dwfr, Philip a'r Eunuch, ac efe a'i bedyddiodd ef.
39A phan ddaethant i fyny allan o'r dwfr, Yspryd yr Arglwydd a gipiodd Philip ymaith, ac ni welodd yr Eunuch ef mwyach, canys efe a aeth ei ffordd gan lawenychu.
40A Philip a gaed yn Azotus; a chan fyned trwodd, efe a bregethodd yr Efengyl i'r holl ddinasoedd hyd nes dyfod i Cesarea.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.