Ioan 20 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Mair Magdalen, Petr, ac Ioan, wrth y Bedd.

1Ond ar y Dydd Cyntaf o'r wythnos mae Mair Magdalen yn dyfod yn fore, a hi eto yn dywyll, at y bedd, ac y mae yn gweled y maen wedi ei godi ymaith o'r bedd.

2Y mae hi yn rhedeg gan hyny, ac yn dyfod at Simon Petr a'r Dysgybl arall, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei hoffi, ac yn dywedyd wrthynt, Hwy a ddygasant yr Arglwydd allan o'r bedd, ac ni wyddom ni pa le y dodasant ef.

3Petr gan hyny a aeth allan, a'r Dysgybl arall, ac yr oeddynt yn myned tu ag at y bedd;

4a hwy a ddechreuasant redeg ill dau ynghyd; a'r Dysgybl arall a redodd o'r blaen yn gynt na Phetr, ac a ddaeth gyntaf at y bedd;

5a chan ymgrymu y mae efe yn canfod y llieiniau yn gorwedd; er hyny nid aeth efe i mewn.

6Y mae Simon Petr gan hyny hefyd yn dyfod, yn ei ganlyn ef, ac a aeth i mewn i'r bedd, ac y mâe yn craffu ar y llieiniau yn gorwedd,

7a'r napcyn a fuasai am ei ben ef, nid yn gorwedd gyd â y llieiniau, ond ar wahan wedi ei blygu mewn un lle.

8Yna gan hyny yr aeth y Dysgybl arall hefyd i mewn, yr hwn a ddaethai gyntaf at y bedd, ac efe a welodd, ac a gredodd.

9Canys hyd yn hyn ni wyddent yr Ysgrythyr, fod yn rhaid iddo adgyfodi o feirw.

10Gan hyny y Dysgyblion a aethant ymaith drachefn i'w cartref‐leodd.

Crist yn ymddangos i Mair Magdalen[Marc 16:9–11]

11Ond Mair oedd yn sefyll wrth y bedd oddi allan yn wylo. Tra yr oedd hi gan hyny yn wylo, hi a ymgrymodd i lawr i'r bedd,

12ac y mae hi yn syllu ar ddau angel mewn gwyn yn eistedd, un wrth y pen, ac un wrth y traed, lle y dodasid corff yr Iesu.

13Ac y maent hwy yn dywedyd wrthi hi, O Wraig, paham yr ydwyt yn wylo? Hithau a ddywed wrthynt, Am ddwyn o honynt ymaith fy Arglwydd i, ac nas gwn pa le y dodasant ef.

14Ac wedi iddi ddywedyd y pethau hyn, hi a drodd drach ei chefn, ac y mae yn syllu ar Iesu yn sefyll, ac ni wyddai mai Iesu oedd.

15Iesu a ddywed wrthi, O wraig, paham yr wyt ti yn wylo? pwy yr wyt ti yn ei geisio? Hithau yn tybied mai y garddwr yw efe, a ddywed wrtho, Syr, os tydi a'i dygaist ef ymaith, dywed i mi pa le y dodaist ef, a myfi a'i cymmeraf ef ymaith.

16Yr Iesu a ddywed wrthi, Mair! Hithau, wedi troi, a ddywed wrtho yn Hebraeg, Rabboni, yr hyn yw dywedyd, Athraw.

17Dywed Iesu wrthi, Na ddal afael ynof; canys nid wyf fi eto wedi esgyn at y Tâd: eithr dos at fy mrodyr, a dywed wrthynt, Yr wyf yn esgyn at fy Nhâd i a'ch Tâd chwithau, a'm Duw i a'ch Duw chwithau.

18Mae Mair Magdalen yn dyfod gan hysbysu i'r Dysgyblion, Yr wyf fi wedi gweled yr Arglwydd; ac iddo ddywedyd y pethau hyn wrthi.

Crist gyd â'r Dysgyblion[Marc 16:14; Luc 24:36–49; Act 1:3–5]

19Pan oedd hi gan hyny yn hŵyr, ar y Dydd hwnw, y Cyntaf o'r wythnos, a'r drysau yn gauad lle yr oedd y Dysgyblion, o achos ofn yr Iuddewon, daeth yr Iesu, ac a safodd yn y canol, a dywed wrthynt, Tangnefedd i chwi.

20Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylaw a'i ystlys. Yna y Dysgyblion a lawenychasant pan welsant yr Arglwydd.

21Dywedodd efe gan hyny wrthynt drachefn, Tangnefedd i chwi. Fel y mae y Tâd wedi fy anfon i, yr wyf fi hefyd yn eich anfon chwi.

22Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a anadlodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Cymmerwch chwi Yspryd Glân:

23pechodau pwy bynag a faddeuoch, y maent wedi eu maddeu iddynt; ac eiddo pwy bynag a ddeliwch yn dyn, y maent wedi eu dal yn dyn.

Thomas: ei amheuaeth a'i gyffes.

24Eithr Thomas, un o'r Deuddeg, yr hwn a elwir Didymus, nid oedd gyd â hwynt pan ddaeth yr Iesu.

25Yr oedd y Dysgyblion eraill gan hyny yn dywedyd wrtho, Yr ydym ni wedi gweled yr Arglwydd. Ond dywedodd efe wrthynt, Oni châf fi weled yn ei ddwylaw ôl yr hoelion, a dodi fy mys yn ol yr hoelion, a dodi fy llaw yn ei ystlys ef, ni chredaf o gwbl.

26Ac wedi wyth niwrnod drachefn yr oedd ei Ddysgyblion ef i mewn, a Thomas gyd â hwynt. Mae yr Iesu yn dyfod, a'r drysau yn gauad, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd, Tangnefedd i chwi.

27Yna y dywed efe wrth Thomas, Estyn yma dy fys, a gwel fy nwylaw; ac estyn dy law, a dod yn fy ystlys: ac na fydd anghrediniol, ond credinol.

28Thomas a atebodd ac a ddywedodd wrtho, FY ARGLWYDD A'M DUW.

29Yr Iesu a ddywed wrtho, Am dy fod wedi fy ngweled,, yr ydwyt wedi credu: bendigedig yw y rhai ni welsant, ac a gredasant.

Y Diweddglo.

30Llawer ac arwyddion eraill gan hyny a wnaeth yr Iesu yn ngŵydd y Dysgyblion, y rhai nid ydynt ysgrifenedig yn y Llyfr hwn:

31ond y mae y pethau hyn wedi eu hysgrifenu fel y credoch chwi mai yr Iesu yw y Crist, Mab Duw: a chan gredu y caffoch fywyd yn ei enw ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help