Marc 6 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Crist yn ymweled a Nazareth, ac yn cael ei wrthod[Mat 13:53–58; Luc 4:16–30]

1Ac efe a aeth allan oddiyno; ac y mae yn dyfod i'w wlad ei hun, a'i Ddysgyblion a'u canlynasant ef.

2Ac wedi dyfod y Sabbath, efe a ddechreuodd ddysgu yn y Synagog, a llawer wrth wrando arno a darawyd a syndod, gan ddywedyd, O ba le y daeth y pethau hyn i hwn? a pha beth yw y ddoethineb a roddir i hwn? ac y mae y fath weithredoedd nerthol yn cael eu gwneyd trwy ei ddwylaw ef.

3Onid hwn yw y saer, mab Mair, a brawd Iago, a Joses, a Judas, a Simon, ac onid yw ei chwiorydd ef yma gyda ni? A hwy a rwystrwyd ynddo ef.

4Yr Iesu a ddywed wrthynt, Nid yw proffwyd heb anrhydedd, ond yn ei wlad ei hun, a chyda'i dylwyth ei hun, ac yn ei deulu ei hun.

5Ac ni allai efe yno wneuthur dim gweithred nerthol, ond gosod ei ddwylaw ar ychydig gleifion, a'u hiachau hwynt.

6Ac efe a ryfeddodd o herwydd eu hanghrediniaeth; ac a aeth o amgylch y pentrefi o gwmpas, gan ddysgu.

Yr ail gylchdaith yn Galilea: cenadaeth y Deuddeg[Mat 9:36—10:16; Luc 9:1–6; 10:1–12]

7Ac efe a eilw y Deuddeg ato, ac a ddechreuodd eu danfon bob yn ddau a dau, ac a roddodd iddynt awdurdod ar ysprydion aflan;

8ac a orchymynodd iddynt na chymmerent ddim i'r daith, ond llaw‐ffon yn unig; na bara yn eu llogell,

9ond sandalau wedi eu clymu dan eu traed; ac na wisgent ddwy o îs‐wisgoedd.

10Ac efe a ddywedodd wrthynt, yn mha le bynag yr eloch i mewn i dy, yno aroswch hyd onid eloch ymaith oddiyno.

11A pha le bynag ni'ch derbynio, a hwy ni'ch gwrandawant, pan yr eloch allan oddiyno, ysgydwch ymaith y llwch a fyddo dan eich traed, er tystiolaeth iddynt a fwriasant allan, ac a eneiniasant ag olew lawer o gleifion, ac a'u hiachasant.

Cythrudd Herod ynghylch yr Iesu[Mat 14:1, 2; Luc 9:7–9]

14Ar brenin Herod a glybu; canys cyhoedd ydoedd ei enw ef; ac efe a ddywedodd, Ioan y Bedyddiwr sydd wedi cyfodi o feirw, ac o herwydd hyny y mae y nerthoedd yn gweithio ynddo ef.

15Ac eraill a ddywedasant, Elias yw, ac eraill a ddywedasant, Proffwyd! Fel un o'r proffwydi!

16Ond Herod, pan glybu, a ddywedodd, Yr hwn a dorais ei ben ef, Ioan, hwn a gyfododd.

Merthyrdod Ioan[Mat 14:6–12]

17Canys Herod ei hun a ddanfonodd ac a ddaliodd Ioan, ac a'i rhwymodd ef yng ngharchar, o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd; canys efe a'i priododd hi.

18Canys dywedodd Ioan wrth Herod, Nid cyfreithlawn i ti gael gwraig dy frawd.

19A Herodias a ffyrnigodd yn ei erbyn, ac a chwenychodd ei ladd ef, ac nis gallodd.

20Canys Herod oedd yn ofni Ioan, gan wybod ei fod ef yn ddyn cyfiawn a sanctaidd, ac a'i dyogelodd. A phan glywodd efe ef, efe a gythryblwyd yn ddirfawr, ac a'i gwrandawodd yn llawen.

21Ac wedi dyfod diwrnod cyfaddas, Herod, ar adeg dathliad dydd ei enedigaeth, a wnaeth swper i'w bendefigion, a'i gad‐flaenoriaid, a phrif ddynion Galilea.

22A phan ddaeth merch Herodias ei hun i mewn, a dawnsio, hi a foddhâodd Herod a'r rhai oedd yn cyd‐eistedd wrth y bwrdd; a'r brenin a ddywedodd wrth y llances, Gofyn i mi y peth a fynit, a mi a'i rhoddaf i ti.

23Ac efe a dyngodd iddi, Beth bynag a ofyni i mi, mi a'i rhoddaf i ti, hyd haner fy nheyrnas.

24A hithau a aeth allan, ac a ddywedodd wrth ei mam, Pa beth a ofynaf? A hithau a ddywedodd, Pen Ioan y Bedyddiwr.

25Ac yn ebrwydd hi a ddaeth i mewn ar frys at y brenin, ac a ofynodd, gan ddywedyd, Mi a fynaf i ti roddi i mi yn ddioed, ar ddysgl, ben Ioan Fedyddiwr.

26A'r brenin a fu drist iawn; eto, er mwyn y llwon, a'r rhai oedd yn eistedd wrth y bwrdd, ni fynai ei diystyru hi.

27Ac yn ebrwydd y brenin a ddanfonodd lys‐filwr, ac a orchymynodd ddwyn ei ben ef: ac yntau a aeth, ac a dorodd ei ben ef yn y carchar,

28ac a ddug ei ben ef ar ddysgl, ac a'i rhoddodd ef i'r llances, a'r llances a'i rhoddodd ef i'w mam.

29A phan glybu ei Ddysgyblion ef, hwy a ddaethant ac a gymmerasant ei gorff ef, ac a'i dodasant mewn bedd.

Dychweliad y Deuddeg. Crist yn dysgu ac yn porthi y dyrfa[Mat 14:13–21; Luc 9:10–17; Ioan 6:1–14]

30A'r Apostolion a ymgasglant at yr Iesu, ac a fynegasant iddo yr holl bethau a wnaethant, a'r rhai a ddysgasant.

31Ac efe a ddywed wrthynt, Deuwch chwi eich hunain o'r neilldu i le anghyfanedd, a gorphwyswch encyd; canys llawer oedd y rhai oedd yn dyfod ac yn myned, ac nid oedd iddynt gyfleustra i fwyta.

32A hwy a aethant ymaith yn y cwch i le anghyfanedd o'r neilldu.

33A hwy, ac a gyd‐redasant yno ar draed o'r holl ddinasoedd, ac a'i rhagflaenasant ef.

34Ac wedi iddo ddyfod allan, efe a welodd dyrfa fawr, ac a lanwyd â thosturi tuag atynt, am eu bod fel defaid heb ganddynt fugail; ac a ddechreuodd ddysgu iddynt lawer o bethau.

35A phan yr oedd yr awr weithian wedi myned yn mhell, ei Ddysgyblion a ddaethant ato, ac a ddywedasant, Y lle sydd anghyfanedd, ac weithian y mae'r awr wedi myned yn mhell:

36gollwng hwynt ymaith, fel yr elont i'r lleoedd gwledig o amgylch, ac i'r pentrefi, ac y prynont iddynt eu hunain beth i fwyta.

37Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwyta. A hwy a ddywedant wrtho, A awn ni a phrynu gwerth dau can denarion o fara, a'i roddi iddynt i'w fwyta?

38Ac efe a ddywed wrthynt, Pa sawl torth sydd genych? Ewch, edrychwch. Ac wedi iddynt wybod, dywedant, Pump, a dau bysgodyn.

39Ac efe a orchymynodd iddynt beri i bawb eistedd yn ddosparthiadau ar y glaswellt.

40A hwy a eisteddasant yn rhesi, un ffordd yn gant, a ffordd arall yn ddeg‐a‐deugain.

41Ac efe a gymmerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny tua'r Nef, efe a fendithiodd, ac a dorodd y torthau, ac a'u rhoddodd i'r Dysgyblion, i'w gosod ger eu bron hwynt: a'r ddau bysgodyn a ranodd efe rhyngddynt oll.

42A hwy oll a fwytasant, ac a ddigonwyd:

43a hwy a gymmerasant i fyny o'r briw‐fwyd ddeuddeg basgedaid yn llawn, ac o'r pysgod.

44A'r rhai a fwytasant y torthau oeddynt â hwynt, efe a aeth ymaith i'r mynydd — i weddio.

47A phan ddaeth yr hwyr, yr oedd y cwch yn nghanol y môr, ac yntau wrtho ei hun ar y tir.

48Ac wrth eu gweled hwynt yn drallodus yn rhwyfo, canys yr oedd y gwynt yn eu herbyn, ynghylch y bedwaredd wylfa o'r nos y mae efe yn dyfod atynt, gan rodio ar y môr; ac a fynasai fyned heibio iddynt.

49Ond pan welsant hwy ef yn rhodio ar y môr, hwy a dybiasant, Drychiolaeth ydyw, a hwy a waeddasant: canys hwy oll a'i gwelsant ef, ac a drallodwyd.

50Ac yn ebrwydd efe a ymddiddanodd â hwynt, ac a ddywed wrthynt, Ymgalonogwch: Myfi yw; nac ofnwch.

51Ac efe a aeth i fyny atynt i'r cwch; a pheidiodd y gwynt. A hwy a synasant yn ddirfawr ynddynt eu hunain;

52oblegid ni ddeallasant drwy foddion y torthau; ond yr oedd eu calon hwynt wedi caledu.

53Ac wedi iddynt groesi trosodd at y tir, hwy a ddaethant i Gennesaret, ac a angorasant wrth y làn.

54Ac wedi eu dyfod hwy allan o'r cwch, yn ebrwydd hwy a'i hadnabuant ef,

55ac a redasant o amgylch yr holl wlad hono, ac ddechreuasant ddwyn oddiamgylch ar eu gwelyau y rhai cleifion, pa le bynag y clywent ei fod ef.

56Ac i ba le bynag yr elai efe i mewn, i bentrefi, neu ddinasoedd, neu i leoedd gwledig, hwy a osodent y cleifion yn y marchnad‐leoedd, ac a atolygent iddo gael o honynt gyffwrdd ond âg ymyl ei fantell ef: a chynifer ag a gyffyrddasant ag ef, a iachawyd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help