1Yn awr ynghylch y pethau a aberthir i eilunod: Ni a wyddom fod gan bawb o honom wybodaeth. Y mae gwybodaeth yn chwyddo, ond y mae cariad yn adeiladu.
2Os oes neb yn tybied ei fod yn gwybod dim, ni ŵyr hyd yn hyn fel y dylai wybod;
3ond od oes neb yn caru Duw, hwnnw a adweinir ganddo Ef.
4Ynghylch bwytta gan hynny o'r pethau a aberthir i eilunod, yr ydym yn gwybod nad oes eilun yn y byd, ac nad oes Duw ond un.
5Canys er bod rhai a elwir yn dduwiau, pa un bynnag ai yn y nef ai ar y ddaear, hyd y nod felly mae duwiau lawer ac arglwyddi lawer,
6etto i ni un Duw sydd, y Tâd, o'r hwn y mae pob peth, a ninnau erddo ef; ac un Arglwydd, Iesu Grist, trwy yr hwn y mae pob peth, a ninnau trwyddo ef.
7Ond nid yw y wybodaeth ym mhawb, eithr rhai trwy eu hymgynefino hyd yn awr â'r eilun, a fwyttânt beth fel wedi ei aberthu i eilun; a'u cydwybod hwy, a hi yn wan, a halogir.
8Yn awr, ni wna bwyd ein cyflwyno i Dduw; os nad ydym yn bwytta, nid ydym mewn eisieu; nac, os ydym yn bwytta, mewn helaethrwydd.
9Ond edrychwch rhag mewn modd i'ch hawl‐fraint fyned yn dramgwydd i'r gweiniaid.
10Canys os gwel neb dydi sydd a gwybodaeth gennyt yn eistedd i fwytta yn nheml yr eilun, oni fydd i'w gydwybod ef, ac efe yn wan, ymhyfhâu fel ag i fwytta y pethau a aberthwyd i eilunod?
11Canys derfydd am y gwan trwy dy wybodaeth di, — y brawd er mwyn yr hwn y bu Crist farw!
12Eithr pan yr ydych felly yn pechu yn erbyn eich brodyr, a chlwyfo eu cydwybod a hi yn wan, yr ydych yn pechu yn erbyn Crist.
13Gan hynny, os bwyd bair dramgwydd i'm brawd, ni fwyttâf fi gig o gwbl yn dragywydd, fel na bo i mi beri tramgwydd i fy mrawd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.