1O ba le y mae rhyfeloedd ac o ba le y mae ymladdau yn eich plith, onid o hyn yma, o'ch melus‐chwantau, y rhai sydd yn milwrio yn eich aelodau?
2Chwenychu yr ydych ac nid ydych yn cael; lladd yr ydych ac eiddigeddu, ac nid ydych yn alluog i gael; ymladd a rhyfela yr ydych. Nid oes gennych am nad ydych yn gofyn.
3Gofyn yr ydych, ac nid ydych yn derbyn, o herwydd eich bod yn gofyn gydag amcan drwg, fel y galloch wario yn eich melus‐chwantau.
4Chwi odinebesau! oni wyddoch fod cyfeillach y byd yn elyniaeth i Dduw? pwy bynnag gan hynny a ewyllysio fod yn gyfaill y byd y mae yn troi yn elyn i Dduw.
5Neu a dybiwch chwi fod yr Ysgrythyr yn llefaru yn ofer? Yr Yspryd hwnnw a wnaeth efe i drigo ynom, y mae yn dyheu am danom hyd y nod i bwynt eiddigedd.
6Eithr grâs mwy y mae yn ei roddi, o herwydd paham y dywed, Y mae Duw yn gwrthwynebu y beilchion, ond yn rhoddi grâs i'r rhai gostyngedig.
7Ymddarostyngwch gan hynny, i Dduw, ond gwrthsefwch y Diafol, ac efe a ffy oddiwrthych.
8Nesêwch at Dduw, ac efe a nesâ atoch chwi. Glanhêwch eich dwylaw, bechaduriaid, a phurwch eich calonnau, chwi ddau‐ddyblyg eich meddwl.
9Ymgystuddiwch, a galerwch, ac wylwch. Troer eich chwerthin chwi yn alar, a'ch llawenydd yn brudd‐der.
10Ymddarostyngwch ger bron yr Arglwydd, ac efe a'ch dyrchafa chwi.
Drwg‐siarad.11Na leferwch yn erbyn eich gilydd, frodyr. Y neb sydd yn llefaru yn erbyn brawd, neu yn barnu ei frawd, y mae yn llefaru yn erbyn y Gyfraith, ac yn barnu y Gyfraith; eithr od wyt ti yn barnu y Gyfraith, nid wyt wneuthurwr y Gyfraith, eithr ei barnwr.
12Un yw'r Deddf‐roddwr a'r Barnwr, yr hwn a ddichon gadw a distrywio: ond pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu dy gymydog?
Ansicrwydd difrifol bywyd.13Dêwch yn awr, chwi sydd yn dywedyd, Heddyw neu yfory ni a awn i'r ddinas hon
, ac a dreuliwn, ac a enillwn14— y rhai ni wyddoch ddim am yfory. Beth yw eich einioes chwi? Canys tarth ydych chwi, yr hwn sydd dros ychydig yn ymddangos, ac yna yn diflannu —
15yn lle dywedyd o honoch, Os yr Arglwydd a'i myn, ni a fyddwn byw, a ni a wnawn hyn neu hynny.
16Eithr yn awr ymffrostio yr ydych yn eich ymhoniadau gwag: pob ymffrost o'r fath, drwg yw.
17I'r hwn, gan hynny, sydd yn gwybod pa fodd i wneuthur daioni, ac nad yw yn ei wneuthur, pechod yw iddo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.