1Yn y bymthegfed flwyddyn o Deyrnasiad Tiberius Cesar, a Phontius Pilat yn Llywodraethwr Judea, a Herod yn Detrarch Galilea, a Philip ei Frawd yn Detrarch gwlad Iturea a Trachonitis, a Lysanias yn Detrarch Abilene,
2yn Arch‐offeiriadaeth Annas a Chaiaphas, y daeth Gair Duw at Ioan, mab Zechariah, yn y Diffaethwch.
3Ac efe a ddaeth i bob goror o amgylch yr Iorddonen, gan bregethu Bedydd Edifeirwch er Maddeuant pechodau:
4fel y mae yn ysgrifenedig yn Llyfr Geiriau Esaiah y Proffwyd,
Llef un yn llefain,
Yn y Diffaethwch parotowch ffordd yr Arglwydd,
Gwnewch ei lwybrau ef yn uniawn;
5Pob ceunant a lenwir,
A phob mynydd a bryn a ostyngir;
Y gŵyr‐bethau ydynt i fod yn uniawn,
A'r lleoedd geirwon i fod yn ffyrdd gwastad:
6A phob cnawd a wêl Iachawdwriaeth Duw.
7Am hyny, efe a ddywedodd wrth y torfeydd sydd yn myned allan i'w bedyddio ganddo, O hiliogaeth gwiberod! Pwy a'ch rhybuddiodd chwi i ffoi oddiwrth y Digofaint sydd ar ddyfod?
8Dygwch gan hyny ffrwythau teilwng o'r Edifeirwch. Ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae genym ni Abraham yn Dâd: canys yr wyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw allan o'r meini hyn gyfodi plant i Abraham.
9Ac yr awrhon hefyd y mae y fwyell wedi ei gosod wrth wreiddyn y prenau: pob pren gan hyny a'r nid yw yn dwyn ffrwyth da sydd yn cael ei dori i lawr, ac yn cael ei daflu i dân.
10A'r torfeydd oeddynt yn gofyn iddo, gan ddywedyd, Pa beth gan hyny a wnawn ni?
11Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd ganddo ddwy o is‐wisgoedd fwy na'r hyn sydd wedi ei drefnu i chwi.
14A milwyr hefyd a ofynent iddo, gan ddywedyd, A pha beth a wnawn ninau? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na fynwch arian oddiwrth neb trwy ei ddychrynu, na cham‐gyhuddwch, a byddwch foddlawn ar eich cyflogau.
Cyhoeddiad o'r Messia.15Ac fel yr oedd y bobl yn dysgwyl, a phawb yn ymresymu yn eu calonau ynghylch Ioan, rhag ofn mai efe yw y Crist,
16Ioan a atebodd, gan ddywedyd wrthynt bawb oll, Yr wyf fi yn wir yn eich bedyddio chwi â dwfr; ond y mae Un Cryfach na myfi yn dyfod, yr hwn nid ydwyf fi deilwng i ddatod carai ei sandalau: efe ei hun a'ch bedyddia chwi yn yr Yspryd Glân ac yn tân.
17Yr hwn y mae ei nith‐raw yn ei law, i lwyr‐lanhâu ei lawr‐dyrnu: ac efe a gasgl yr ŷd i'w ysgubor, ond yr us a lwyr‐losga efe â thân anniffoddadwy.
18A chyd â llawer o gynghorion eraill gan hyny y pregethodd efe yr Efengyl i'r Bobl.
Carchariad Ioan[Mat 14:3–5; Marc 6:17–20]19Ond Herod y Tetrarch, pan geryddwyd ef ganddo am Herodias, gwraig ei Frawd, ac am yr holl bethau drwg a wnaeth Herod,
20a ychwanegodd hyn hefyd uwchlaw yr oll:— hyd y nod efe a gauodd ar Ioan mewn carchar.
Bedyddiad Crist21A bu, pan yr oedd yr holl bobl wedi eu bedyddio, a'r Iesu hefyd wedi ei fedyddio, ac yn gweddïo, agorwyd y Nef,
22a disgynodd yr Yspryd Glân, mewn llun corfforol, fel colomen, arno ef; a llef a ddaeth allan o'r Nef,
Ti wyt fy Anwyl Fab;
Ynot ti y'm boddlonwyd.
Achyddiaeth Crist23A'r Iesu ei hun oedd, pan ddechreuodd, ynghylch deng mlwydd ar hugain oed, ac yr oedd (fel y tybid) yn
Fab Joseph,
Fab Eli,
24 Fab Mattathah,
Fab Lefi,
Fab Malchiah,
Fab Jannai,
Fab Joseph,
25 Fab Mattathiah,
Fab Amos,
Fab Nahum,
Fab Azaliah,
Fab Naggai
26 Fab Mahath,
Fab Mattathiah,
Fab Simei
Fab Josech,
Fab Juda,
27 Fab Johanah,
Fab Rhesa,
Fab Zerubbabel,
Fab Salathiel,
Fab Neriah,
28 Fab Malchiah,
Fab Adaiah,
Fab Cosam,
Fab Elmadam,
Fab Er,
29 Fab Josaia,
Fab Eliezer,
Fab Jorim,
Fab Mattathah,
Fab Lefi,
30 Fab Simeon,
Fab Juda
Fab Joseph,
Fab Jonam,
Fab Eliacim,
31 Fab Melëa,
Fab Menna,
Fab Mattathah,
Fab Nathan,
Fab DAFYDD,
32 Fab Jesse,
Fab Obed,
Fab Boaz,
Fab Salma
Fab Nason,
33 Fab Amminadab,
Fab Ram,
Fab Hesron,
Fab Phares,
Fab Juda,
34 Fab Jacob,
Fab Isaac,
Fab ABRAHAM,
Fab Terah,
Fab Nachor,
35 Fab Serug,
Fab Reu,
Fab Peleg,
Fab Heber,
Fab Selah,
36 Fab Cenan,
Fab Arphacsad,
Fab Shem,
Fab NOAH,
Fab Lamech,
37 Fab Methuselah,
Fab Enoch,
Fab Jered,
Fab Mahalaleel,
Fab Cenan,
38 Fab Enos,
Fab Seth,
Fab Adda,
Fab DUW.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.