1A chwithau, a chwi yn feirw trwy eich camweddau a'ch pechodau,
2yn y rhai y rhodiasoch gynt yn ol rhediad y byd hwn, yn ol tywysog awdurdod yr awyr, yr yspryd sydd yn awr yn gweithio ym meibion anufudd‐dod,
3ym mhlith y rhai yr oeddym ninnau oll hefyd gynt yn byw yn chwantau ein cnawd, gan wneuthur ewyllysiau y cnawd a'r meddyliau; ac yr oeddym wrth naturiaeth yn blant digofaint, megys eraill;
4eithr Duw, gan fod yn gyfoethog mewn trugaredd, o herwydd ei gariad amryfal â'r hwn y carodd efe nyni,
5hyd y nod pan yn feirw trwy gamweddau, a'n cyd‐fywhâodd gyda Christ (trwy ras yr ydych wedi eich cadw),
6ac a'n cyd‐gyfododd ac a'n gosododd i gyd‐eistedd yn y nefolion leoedd yng Nghrist Iesu,
7fel y dangosai yn yr oesoedd a ddeuai ragorol olud ei ras, mewn cymmwynasgarwch tuag attom ni yng Nghrist Iesu.
8Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd, a hynny nid o honoch eich hunain: rhodd Duw ydyw;
9nid o weithredoedd, fel nad ymffrostiai neb.
10Canys ei waith ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu i weithredoedd da, y rhai a rag‐ddarparodd Duw, fel y rhodiem ynddynt.
Cenhedloedd ac Iuddewon yn un yng Nghrist.11Am hynny cofiwch, a chwi gynt yn genhedloedd yn y cnawd — y rhai a elwir yn Ddienwaediad gan yr hyn a elwir yn Enwaediad, o waith llaw yn y cnawd—
12eich bod y pryd hwnnw ar wahân oddiwrth Grist, yn ddyeithr i wladwriaeth Israel, ac yn estroniaid oddiwrth Gyfammodau yr Addewid, heb obaith gennych, ac heb Dduw yn y byd;
13ond yn awr yng Nghrist Iesu, chwychwi, y rhai oeddych gynt ym mhell, a wnaed yn agos yng ngwaed Crist.
14Canys efe yw ein Tangnefedd, yr hwn a wnaeth y ddau yn un,
15ac a dorrodd i lawr ganol‐fur y gwahaniaeth, gan ddirymmu yn ei gnawd ei hun yr elyniaeth, sef deddf y gorchymynion mewn ordeiniadau, fel y creai y ddau ynddo ei hun yn un dyn newydd, gan wneuthur heddwch,
16ac y cymmodai y ddau â Duw yn un corph, trwy y Groes, wedi lladd yr elyniaeth trwyddi hi.
17A chan ddyfod, efe a efengylodd dangnefedd i chwi y rhai pell, a thangnefedd i'r rhai agos;
18canys trwyddo ef y mae i ni ein dau ddyfodfa mewn un Yspryd at y Tâd.
19Felly ynte nid ydych mwyach yn ddyeithriaid a dyfodiaid, ond yr ydych yn gyd‐ddinasyddion â'r saint, ac yn deulu Duw,
20wedi eich goruwch-adeiladu ar sail yr Apostolion a'r Prophwydi, a Christ Iesu ei hun yn ben congl‐faen,
21yn yr hwn y mae pob adeilad, wedi ei gymhwys gyd‐gyssylltu, yn cynnyddu i gyssegr sanctaidd yn yr Arglwydd;
22yn yr hwn y cyd-adeiledir chwithau hefyd yn breswylfod i Dduw yn ei Yspryd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.