Dadguddiad Ioan 20 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Rhwymo Satan.

1A gwelais angel yn disgyn o'r nef, a chanddo agoriad Annwn a chadwyn fawr yn ei law.

2Ac efe a ddaliodd y Ddraig, yr Hen Sarph, yr hon yw Diafol a Satan, ac a'i rhwymodd ef am fil o flynyddoedd,

3ac a'i bwriodd ef i Annwn, ac a'i cauodd ac a seliodd uwch ei ben, fel nad arweiniai ar gyfeiliorn y Cenhedloedd mwyach hyd oni orphenner y mil blynyddoedd: ar ol hynny y mae yn rhaid ei ollwng yn rhydd am ychydig amser.

Bywyd Newydd a Dyrchafiad y Saint.

4A gwelais orseddau, a hwy a eisteddasant arnynt, a barn a roed iddynt; ac eneidiau y rhai y toresid eu pennau am dystiolaeth Iesu, ac am Air Duw, y rhai ni addolasant yr Anghenfil na'i ddelw, ac ni dderbyniasant ei nôd ar eu talcen nac ar eu llaw; a hwy a fuant fyw, ac a deyrnasasant gyda Christ fil o flynyddoedd.

5Y lleill o'r meirw ni fuant fyw hyd oni orphennid y mil blynyddoedd. Dyma yr Adgyfodiad Cyntaf.

6Gwynfydedig a sanctaidd yw yr hwn sydd â rhan ganddo yn yr Adgyfodiad Cyntaf! Ar y rhai nid oes gan yr Ail Farwolaeth awdurdod; eithr byddant offeiriaid Duw a Christ, ac a deyrnasant gydag ef fil o flynyddoedd.

Penrhyddid a Dinystr Satan.

7A phan orphennir y mil Hynyddoedd, gollyngir Satan allan o'i garchar;

8a daw allan i arwain ar gyfeiliorn y cenhedloedd ym mhedair congl y ddaear, Gog a Magog, i'w casglu ynghyd i'r rhyfel: rhif y rhai sydd fel tywod y môr.

9A hwy a aethant i fyny ar led y ddaear, ac amgylchasant wersyll y saint a'r Ddinas Anwyl; a disgynnodd tân o'r nef, ac a'u hysodd hwynt.

10A'r Diafol, yr hwn oedd yn eu harwain ar gyfeiliorn, a fwriwyd i'r Llyn o Dân a Brwmstan, lle y mae yr Anghenfil hefyd a'r Gau‐Brophwyd; a phoenir hwynt ddydd a nos yn oes oesoedd.

Yr Adgyfodiad Fyd‐eang a'r Farn Ddiweddaf.

11A gwelais Orsedd wèn fawr, a'r hwn oedd yn eistedd arni, oddi wrth wyneb yr hwn y ffôdd y ddaear a'r nef; a lle ni chafwyd iddynt.

12A gwelais y meirw, y mawrion a'r bychain, yn sefyll gerbron yr Orsedd; ac agorwyd llyfrau, a Llyfr arall a agorwyd, yr hwn yw Llyfr y Bywyd, a barnwyd y meirw oddi wrth y pethau a ysgrifennwyd yn y llyfrau, yn ol eu gweithredoedd.

13A rhoddodd y môr i fyny y meirw oedd ynddo, a Marwolaeth a Hades a roddasant i fyny y meirw oedd ynddynt hwythau: a hwy a farnwyd, bob un yn ol ei weithredoedd.

14A marwolaeth a Hades a fwriwyd i'r Llyn o Dân. Hon yw yr ail Farwolaeth, sef y Llyn o Dân.

15Ac o chafwyd neb heb ei fod wedi ei ysgrifennu yn Llyfr y Bywyd, bwriwyd ef i'r Llyn o Dân.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help