Galatiaid 3 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Gwrthdystiad ac appél.

1O Galatiaid anneallus, pwy a'ch llygad‐dynnodd chwi, i'r rhai, o flaen eich llygaid, y portreiadwyd Iesu Grist yn groeshoeliedig?

2Hyn yn unig a cwyllysiaf ei ddysgu gennych: Ai trwy weithredoedd deddf y derbyniasoch yr Yspryd, neu trwy wrandawiad ffydd?

3A ydych chwi mor anneallus? wedi dechreu yn yr Yspryd, ai yn awr yn y cnawd y'ch perffeithir?

4A ddyoddefasoch gymmaint o bethau yn ofer? os hefyd yn ofer.

5Yr hwn gan hynny sydd yn eich cyflenwi chwi â'r Yspryd, ac yn effeithio galluoedd gwyrthiol ynoch, ai o weithredoedd deddf neu o wrandawiad ffydd y mae?

6Megys y credodd Abraham Dduw, ac y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.

Ffydd ac nid gweithredoedd yn sicrhau derbyniad.

7Yr ydych yn canfod gan hynny mai y rhai sydd o ffydd, y rhai hynny yw meibion Abraham.

8A'r Ysgrythyr, yn rhagweled mai trwy ffydd y cyfiawnhâi Duw y cenhedloedd, a rag‐efengylodd i Abraham, Ynot ti y bendithir yr holl genhedloedd.

10Canys cynnifer ag y sydd o weithredoedd deddf, dan felldith y maent, canys y mae yn ysgrifenedig, Melldigedig yw pob un nad yw yn aros yn yr holl bethau sydd ysgrifenedig yn Llyfr y Ddeddf, i'w gwneuthur hwynt;

11ac na chyfiawnheir neb trwy ddeddf ger bron Duw, eglur yw; canys, Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd;

12a'r Ddeddf nid yw o ffydd, eithr, Yr hwn sydd yn gwneuthur y pethau hyn a fydd byw ynddynt.

13Crist a'n llwyr‐brynodd ni o felldith y Ddeddf, gan ei wneuthur yn felldith trosom: canys y mae yn ysgrifenedig, Melldigedig yw pob un sydd ynghrog ar bren;

14fel y delai i'r Cenhedloedd fendith Abraham yn Iesu Grist, fel y derbyniem addewid yr Yspryd trwy ffydd.

Nis gallai'r Ddeddf ddifodi Cyfammod yr Addewid.

15Frodyr, yn ol dull dynion yr wyf yn dywedyd: Er na byddo ond cyfammod dyn, wedi ei gadarnhau, nid yw neb yn ei ddirymmu neu yn ychwanegu atto.

16Yn awr i Abraham y llefarwyd yr addewidion, ac i'w hâd. Ni ddywed, Ac i hâdau, fel am lawer, eithr fel am un, Ac i'th hâd, yr hwn yw Crist.

17A hyn yr wyf yn ei ddywedyd: Cyfammod a rag‐gadarnhawyd gan Dduw, nid yw y Ddeddf, yr hon a ddaeth bedwar cant a deg‐ar‐hugain o flynyddoedd wedi hyn, yn ei ddirymmu, fel ag i wneuthur yr addewid yn ddieffaith.

18Canys os o ddeddf y mae yr etifeddiaeth, nid yw mwyach o addewid; ond Duw a'i rhad‐roddodd i Abraham trwy addewid.

Lle ac amcan y Ddeddf.

19Pa beth gan hynny yw y Ddeddf? Ychwanegwyd hi oblegyd troseddau, hyd oni ddeuai yr hâd i'r hwn y mae yr addewid wedi ei gwneuthur, wedi ei hordeinio trwy angelion trwy law cyfryngwr.

20Yn awr nid yw y cyfryngwr yn gyfryngwr i un; ond Duw sydd un.

21A yw y Ddeddf gan hynny yn erbyn addewidion Duw? Na atto Duw. Canys pe rhoddasid deddf yn gallu bywhâu, yn wir o ddeddf y buasai cyfiawnder.

22Eithr cyd‐gauodd yr Ysgrythyr bob peth dan bechod, fel y rhoddid yr addewid a ddaw o ffydd Crist Iesu i'r rhai sydd yn credu.

23Eithr cyn dyfod ffydd, nyni a gadwyd mewn gwarchodaeth dan ddeddf, wedi ein cyd‐gau i fyny i'r ffydd oedd ar gael ei dadguddio.

24Fel ag y mae y Ddeddf wedi bod ein hathraw i'n harwain at Grist, fel y'n cyfiawnheid trwy ffydd.

25Eithr wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach dan athraw.

26Canys chwi oll ydych feibion Duw, trwy ffydd sydd yng Nghrist Iesu;

27canys cynnifer o honoch a fedyddiwyd i Grist a wisgasoch Grist.

28Nid oes nac Iuddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwrryw a benyw; canys chwi oll ydych un yng Nghrist Iesu.

29Ac os eiddo Crist ydych, yna hâd Abraham ydych, etifeddion yn ol addewid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help