1A thrachefn efe a ddechreuodd ddysgu ar làn y môr; a thyrfa fawr iawn a ymgasgla ato, yn gymmaint ag iddo fyned i'r cwch, ac a eisteddodd yn y môr; a'r holl dyrfa oedd wrth y môr ar y tir.
2Ac efe a ddysgai iddynt lawer mewn dammegion, ac a ddywedodd wrthynt yn ei ddysgeidiaeth,
3Gwrandewch: Wele yr hauwr a aeth allan i hau:
4a darfu wrth hau, i beth syrthio ar hyd y ffordd, a daeth yr ehediaid, ac a'u bwytasant i fyny.
5Ac arall a syrthiodd ar dir creigiog, lle ni chafodd fawr ddaear; ac yn ebrwydd yr eginodd, o herwydd ni chafodd ddyfnder daear.
6A phan gododd yr haul, crasboethwyd ef, ac o herwydd nad oedd iddo wreiddyn, efe a wywodd.
7Ac arall a syrthiodd yn mhlith y drain; a'r drain a ddaethant i fyny, ac a'i tagasant, ac ni ddug ffrwyth.
8Ac arall a syrthiodd i'r tir da, ac a ddug ffrwyth tyfadwy a chynnyrchiol, ac a ddug i fyny i ddeg‐ar hugain, ac i fyny i dri‐ugain, ac i fyny i gant.
9Ac efe a ddywedodd, yr hwn sydd ganddo glustiau, gan wrando, gwrandawed.
Y Deongliad[Mat 13:10–17; Luc 8:9, 10]10A phan ddaeth efe i fod wrtho ei hun, y rhai oedd o amgylch iddo gyda'r Deuddeg a ofynasant iddo ynghylch y dammegion.
11Ac efe a ddywedodd wrthynt, I chwi y mae dirgelwch Teyrnas Dduw wedi cael ei roddi mewn dammegion;
12fel
Gan edrych yr edrychant, ac ni welant,
A chan glywed y clywant, ac ni ddeallant,
Rhag iddynt ddychwelyd, a maddeu iddynt
13Ac efe a ddywed wrthynt, Oni wyddoch chwi y ddammeg hon? A pha fodd y gwybyddwch yr holl ddammegion?
14-15Yr hauwr sydd yn hau y gair. A'r rhai hyny yw y rhai ar hyd y ffordd, lle yr hauir y gair; a phan glywant, yn ebrwydd y mae Satan yn dyfod, ac yn dwyn ymaith y gair a hauwyd ynddynt hwy.
16A'r rhai hyn, yr un modd, yw y rhai a hauir ar y creigleoedd, y rhai pan glywant y gair, sydd yn ebrwydd yn ei dderbyn ef gyda llawenydd,
17ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr dros dymhor y maent; yna pan ddêl gorthrymder, neu erlid o achos y gair, yn ebrwydd y rhwystrir hwynt.
18Ac eraill yw y rhai a hauir yn mysg drain; y rhai hyn a wrandawant y gair,
19ac y mae gofalon yr oes, a thwyll golud, a'r chwantau am y pethau eraill, yn dyfod i mewn, ac yn tagu y gair, a myned y mae yn ddiffrwyth.
20A'r rhai hyny yw y rhai a hauwyd ar dir da, y rhai sydd yn gwrandaw y gair, ac yn ei dderbyn, ac yn dwyn ffrwyth yn ddeg‐ar‐hugain, ac yn dri ugain, ac yn gant.
Dammeg y llusern a'r Mesur[Mat 13:12; 5:15; 10:26; Luc 8:16, 18]21Ac efe a ddywedodd wrthynt, A ddaw y llusern er ei gosod dan y llestr‐mesur, neu o dan y gwely? Ai nid er ei gosod ar y daliadyr?
22Canys nid oes dim cuddiedig, os nid i'w egluro; ac ni wnaed dim dirgel, ond fel y delai i'r amlwg.
23Od oes gan neb glustiau, gan wrando, gwrandawed.
24Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch beth a wrandewch. A pha fesur y mesuroch, y mesurir i chwi, ac yr ychwanegir i chwi.
25Canys yr hwn y mae ganddo, y rhoddir iddo; a'r hwn nid oes ganddo, ie, yr hyn sydd ganddo a ddygir oddiarno.
Yr hâd a'r ffrwyth.26Ac efe a ddywedodd, Felly y mae Teyrnas Dduw; fel y bwriai dyn hâd ar y ddaear,
27ac y cysgai a chyfodai nos a dydd, ac yr eginai yr hâd a thyfu i fyny, y modd nis gŵyr efe.
28O honi ei hun y ddaear a ddwg ffrwyth; yn gyntaf eginyn, yna y dywysen, yna yr yd cyflawn yn y dywysen.
29A phan ganiatao y ffrwyth, yn ebrwydd efe a ddenfyn allan y cryman, canys y mae y cynhauaf yn ymyl.
Yr hedyn mwstard[Mat 13:31, 32; Luc 13:18, 19]30Ac efe a ddywedodd, Pa fodd y cyffelybwn Deyrnas Dduw, neu gyd â pha ddammeg y gosodwn hi allan?
31Fel gronyn o hâd mwstard, yr hwn pan hauer ar y ddaear, sydd lai na'r holl hadau ar y ddaear,
32eto wedi yr hauer, y mae yn tyfu i fyny, ac yn myned yn fwy na'r holl ardd-lysiau, ac a ddwg ganghenau mawrion, fel y gall ehediaid y Nefoedd drigo dan ei gysgod ef.
Dammegion eraill[Mat 13:34–52]33Ac â chyfryw ddammegion lawer y llefarodd efe wrthynt y gair, fel yr oeddynt yn alluog i wrando.
34Ond heb ddammeg ni lefarodd efe wrthynt; ond yn y dirgel i'w Ddysgyblion ei hun efe a esboniodd bob peth.
Yn tawelu y dymhestl[Mat 8:23–27; Luc 8:22–25]35Ac efe a ddywed wrthynt y dydd hwnw, wedi ei hwyrhau, Awn trosodd i'r tu draw.
36A chan adael y dyrfa, y maent yn ei gymmeryd ef fel yr oedd yn y cwch; ac yr oedd cychod eraill gydag ef.
37Ac y mae tymhestl fawr o wynt yn cyfodi, a'r tonau a ymruthrent i'r cwch, yn gymmaint a bod y cwch erbyn hyn yn llawn.
38Ac yr oedd efe ei hun yn y rhan ol o'r cwch, yn cysgu ar obenydd; ac y maent yn ei ddeffro ef, ac yn dywedyd wrtho, Athraw, ai difater genyt ein colli ni?
39Ac efe a lawn‐ddeffrôdd, ac a geryddodd y gwynt, ac a ddywedodd wrth y môr, Gostega, distawa. A'r gwynt a beidiodd, a bu tawelwch mawr.
40Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn llwfr? Ai nid oes genych eto ffydd?
41A hwy a ofnasant gydag ofn mawr, ac a ddywedasant wrth eu gilydd, Pwy gan hyny yw hwn, gan fod hyd y nod y gwynt a'r môr yn ufuddhau iddo?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.