1A'r Phariseaid a'r Saduceaid a ddaethant ato, a chan ei demtio hwy a atolygasant iddo ddangos iddynt arwydd o'r nef.
2Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt,
4Cenedlaeth ddrwg a godinebus sydd yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd Jonah. Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith.
Hen lefain Phariseaeth.[Marc 8:14–21]5A'r Dysgyblion a ddaethant i'r lan arall, ac a annghofiasant gymmeryd bara.
6A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Edrychwch ac ymogelwch rhag lefain y Phariseaid a'r Saduceaid.
7A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Hyn sydd am na chymmerasom fara.
8A'r Iesu yn gwybod a ddywedodd, O chwychwi o ychydig ffydd, paham yr ydych yn ymresymu yn eich plith eich hunain fod hyn am na chymmerasoch fara?
9Onid ydych chwi yn deall etto, nac yn cofio pum' torth y pum' mil, a pha sawl basgedaid a gymmerasoch i fyny?
10Na saith dorth y pedair mil, a pha sawl basgedaid a gymmerasoch i fyny?
11Pa fodd nad ydych yn deall nad am fara y dywedais wrthych, Ac ymogelwch rhag lefain y Phariseaid a'r Saduceaid?
12Yna y deallasant na ddywedodd efe am ymogelyd rhag lefain y torthau, ond rhag dysgeidiaeth y Phariseaid a'r Saduceaid.
Barn Petr am Grist, a gwaith Crist i Petr.[Marc 8:27–29; Luc 9:18–20]13Ac wedi dyfod yr Iesu i barthau Cesarea Philippi, efe a ofynodd i'w Ddysgyblion, gan ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywedyd yw Mab y Dyn?
14A hwy a ddywedasant, Rhai, mai Ioan Fedyddiwr; a rhai, mai Elias; ac ereill, mai Jeremiah, neu un o'r proffwydi.
15Efe a ddywed wrthynt, Ond pwy meddwch chwi ydwyf fi?
16A Simon Petr a atebodd ac a ddywedodd, Ti yw y Crist, Mab y Duw byw.
17A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Gwyn dy fyd di, Simon fab Jonah, canys nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn i ti, ond fy Nhad yr hwn sydd yn y Nefoedd.
18Ac yr wyf finau hefyd yn dywedyd i ti, Ti yw Petr; ac ar y graig hon yr adeiladaf fy Eglwys, a phyrth Hades nis gorchfygant hi.
19A rhoddaf i ti agoriadau Teyrnas Nefoedd; a pha beth bynag a rwymech ar y ddaear, a fydd rwymedig yn y Nefoedd; a pha beth bynag a ryddhaech ar y ddaear, a fydd wedi ei ryddhau yn y Nefoedd.
20Yna y gorchymynodd efe i'w Ddysgyblion na ddywedent i neb mai efe yw y Crist.
Rhybudd i'r Dysgyblion a cherydd i Petr.[Marc 8:30–33; Luc 9:21, 22]21O hyny allan y dechreuodd yr Iesu ddangos i'w Ddysgyblion fod yn rhaid iddo fyned ymaith i Jerusalem, a dyoddef llawer oddiwrth yr Henuriaid a'r Archoffeiriaid a'r Ysgrifenyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd ei gyfodi.
22A Phetr, wedi ei gymmeryd ef ato, a ddechreuodd ei geryddu ef, gan ddywedyd, Duw fyddo dosturiol wrthyt, Arglwydd: ni fydd hyn o gwbl i ti.
23Ac efe a drodd ac a ddywedodd wrth Petr, Dos y tu ol i mi, Satan, rhwystr ydwyt ti i mi, canys nid ydwyt yn synied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion.
Y lleshad o ddylyn Crist.[Marc 8:34—9:1; Luc 9:23–27]24Yna yr Iesu a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion, Os ewyllysia neb ddyfod ar fy ol I, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned fi.
25Canys pwy bynag a ewyllysio gadw ei fywyd a'i cyll; a phwy bynag a gollo ei fywyd o'm plegyd I a'i caiff.
26Canys pa leshad a fydd i ddyn os ennill efe yr holl fyd a fforfedu ei fywyd ei hun; neu pa beth a rydd dyn yn bridwerth am ei fywyd.
27Canys Mab y Dyn a ddaw yn ngogoniant ei Dâd gyd â'i angelion; ac yna y rhydd efe i bob un yn ol ei weithred.
28Yn wir, meddaf i chwi, y mae rhai o'r sawl sydd yn sefyll yma a'r ni phrofant angeu hyd oni welont Fab y Dyn yn dyfod yn ei Deyrnas.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.