1Canys nid ewyllysiwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i'n tadau oll fod dan y cwmmwl, ac i'r oll o honynt fyned trwy y mor,
2ac i'r oll o honynt gymmeryd eu bedyddio i Moses ysprydol,
4ac i bawb yfed yr un ddiod ysprydol; canys hwy a yfasant o Graig ysprydol a'u canlynai; a'r Graig oedd Crist.
5Eithr ni bu Duw foddlawn i'r rhan fwyaf o honynt, canys dymchwelwyd hwynt yn y diffaethwch.
6A'r pethau hyn a ddaethant yn siamplau i ni, fel na byddom yn chwennychwyr pethau drwg, fel y chwennychasant hwy.
7Ac na fyddwch eilun‐addolwyr, megys rhai o honynt hwy, fel y mae yn ysgrifenedig, “Eisteddodd y bobl i fwytta ac i yfed, ac a gyfodasant i chwareu”.
8Ac na odinebwn, fel y godinebodd rhai o honynt hwy, ac y syrthiodd mewn un dydd dair mil ar hugain.
9Ac na themtiwn yr Arglwydd, megys ag y temtiodd rhai o honynt hwy, ac y dinystriwyd hwy gan y seirph.
10Ac na rwgnechwch, megys y grwgnachodd rhai o honynt hwy, ac a'u dinystriwyd gan y Dinystrydd.
11A'r pethau hyn ar wedd siamplau a ddygwyddasant iddynt hwy, ac a ysgrifennwyd er cynghor i ni, ar y rhai y mae terfynau yr oesoedd wedi dyfod.
12Am hynny, yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio.
13Nid ymaflodd ynoch demtasiwn ond un dynol; eithr ffyddlawn yw Duw, yr hwn ni âd eich temtio uwchlaw yr hyn a alloch; eithr a wna ynghyd â'r temtasiwn y ddiangfa hefyd, fel y galloch ei ddwyn.
Ynghylch bwydydd a offrymmwyd i eilunod.14O herwydd paham, fy anwyliaid, ffowch oddiwrth eilun‐addoliaeth.
15Fel wrth rai synwyrol yr wyf yn dywedyd; bernwch chwi beth yr wyf fi yn ei ddywedyd.
16Cwpan y Fendith yr hwn a fendigwn, onid cymmun gwaed Crist ydyw? y bara yr ydym yn ei dorri, onid corph cymmun Crist ydyw?
17Oblegyd mai un bara sydd, nyni, y rhai ydym yn llawer, ydym un corph; canys yr ydym oll yn cyfrannogi o'r un bara.
18Edrychwch ar yr Israel yn ol y cnawd: onid yw y rhai sydd yn bwytta yr ebyrth yn gyfrannogion o'r allor?
19Beth gan hynny yr ydwyf yn ei ddywedyd? bod y peth a aberthwyd i eilunod yn rhywbeth, neu bod eilun yn rhywbeth?
20Ond, dywedaf, fod y pethau y mae y Cenhedloedd yn aberthu yn cael eu haberthu i gythreuliaid ac nid i Dduw; ac ni fynnaf i chwi fod mewn cymmundeb â'r cythreuliaid:
21ni ellwch yfed o gwpan yr Arglwydd a chwpan y cythreuliaid; ni ellwch gyfrannogi o fwrdd yr Arglwydd a bwrdd cythreuliaid.
22Neu ai gyrru yr Arglwydd i eiddigedd yr ydym? A ydym ni yn gryfach nag ef?
23Pob peth sydd yn ganiataol, eithr nid yw pob peth yn lleshâu; pob peth sydd yn ganiataol, eithr nid yw pob peth yn adeiladu.
24Na cheisied neb yr eiddo ei hun, ond yr eiddo y dyn arall.
25Pob peth a werthir yn y gigfa, bwyttêwch, heb ofyn dim er mwyn cydwybod;
26canys eiddo yr Arglwydd y ddaear a'i chyflawnder.
27Os gwna neb o'r rhai digred eich gwahodd, ac ewyllysio o honoch fyned, bwyttêwch bob peth a roddir ger eich bron, heb ofyn dim er mwyn cydwybod.
28Eithr os dywed neb wrthych, Peth a aberthwyd yw hwn, na fwyttêwch, er mwyn yr hwn a'i mynegodd, ac er mwyn cydwybod,;
29a chydwybod, meddaf, nid yr eiddot ti dy hun, eithr yr eiddo y llall; canys paham y bernir fy rhyddid i gan gydwybod un arall?
30Os myfi gyda diolch a gyfrannogaf, paham y'm ceblir am y peth yr wyf yn diolch am dano?
31Pa un bynnag gan hynny ai bwytta yr ydych neu yfed, ai beth bynnag a wneloch, gwnewch bob peth er gogoniant Duw.
32Byddwch ddidramgwydd i Iuddewon a Groegiaid, ac i eglwys Dduw,
33fel yr wyf finnau ym mhob peth yn rhyngu bodd i bawb, heb geisio fy llês fy hun, ond eiddo y llawer, fel yr achuber hwynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.