1Am hynny, gan na allem ymattal yn hwy, bu foddlawn gennym gael ein gadael ar ol yn unig yn Athen,
2a danfonasom Timotheus ein brawd, a gweinidog Duw yn efengyl Crist, i'ch sefydlu a'ch calonogi ar ran eich ffydd;
3fel nad ysgydwer neb yn y gorthrymderau hyn, canys chwi eich hunain a wyddoch mai i hyn y'n gosodwyd ni;
4canys yn wir pan oeddym gyda chwi, ni a rag‐ddywedasom i chwi y gorthrymmid ni, fel y dygwyddodd hefyd ac y gwyddoch.
5O herwydd hyn, myfi hefyd, heb ymattal yn hwy, a ddanfonais er mwyn gwybod eich ffydd, rhag ddarfod i'r Temtiwr mewn unrhyw fodd eich temtio, a myned ein llafur ni yn ofer.
6Eithr wedi yn awr ddyfod o Timotheus attom oddiwrthych, a dwyn i ni newyddion da am eich ffydd a'ch cariad, a bod gennych goffa da am danom yn wastadol, gan hiraethu am ein gweled ni, megys ninnau hefyd chwithau;
7o achos hyn y'n calonogwyd, frodyr, am danoch chwi, yn ein holl angenoctid a gorthrymder, trwy eich ffydd chwi;
8canys yn awr byw ydym, os ydych chwi yn sefyll yn gadarn yn yr Arglwydd.
9Canys pa ddiolch a allwn ni ei ad‐dalu i Dduw am danoch, am yr holl lawenydd â'r hwn y llawenychwn o'ch achos chwi gerbron ein Duw,
10gan ddeisyfu nos a dydd, tuhwnt i bob mesur, i weled eich wyneb chwi, a chyflenwi diffygion eich ffydd?
11A Duw ei hun a'n Tâd ni, a'n Harglwydd Iesu Grist, a gyfarwyddo ein ffordd attoch;
12a'r Arglwydd a'ch lliosogo ac a'ch gwnelo yn helaeth mewn cariad tuag at eich gilydd ac at bawb, megys ag yr ydym ninnau hefyd tuag attoch chwi,
13fel y sefydlo eich calonnau chwi yn ddifeius mewn sancteiddrwydd gerbron ein Duw a'n Tâd, yn Nyfodiad ein Harglwydd Iesu gyda'i holl saint.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.